
Peirianneg
Disgyblaeth yw peirianneg sy'n ymrwymo i ddatrys problemau a gwella'r byd o'n cwmpas. Mae ein myfyrwyr yn cyfuno gwyddoniaeth a mathemateg â chreadigrwydd wrth ddylunio i ddatblygu cynnyrch, prosesau a strwythurau newydd.
Pam astudio gyda ni
Cyrsiau wedi'u hachredu'n llawn
Achredwyd pob un o'n cyrsiau gan y sefydliadau peirianneg proffesiynol perthnasol, gan roi’r sylfeini sydd eu hangen arnoch chi i fod yn beiriannydd siartredig.
Prosiectau ymarferol
Dewch i wneud prosiectau ymarferol ar y cyd â myfyrwyr o ystod o ddisgyblaethau, yn union fel y byddwch chi yn y byd go iawn, gan ennill sgiliau hollbwysig ar gyfer eich gyrfa.
Heriau peirianyddol go iawn
Ewch i'r afael â heriau peirianneg go iawn drwy ystod o brosiectau dylunio amserol, megis argae trydan dŵr, clinig iechyd dros dro, neu gar trydan.
Rhagolygon cryf i raddedigion
Roedd 92% o'n graddedigion mewn swydd, yn astudio ymhellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n ymgymryd â gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (HESA, 2022)*
10 uchaf yn y DU
Rydym yn y 10 Uchaf yn y DU am Beirianneg Gyffredinol (Times Good University Guide, 2023)
1af yn y DU
Mae ein cyrsiau Peirianneg Drydanol ac Electronig yn 1af yn y DU yn ôl ein myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, 2022)

Mae’n hawdd mynd o le i le yng Nghaerdydd. Mae’n ddiogel, yn rhesymol, ac mae bywyd nos gwych yma. Mae'r Ysgol Peirianneg wedi'i threfnu'n dda, ac mae'r staff sy'n gweithio yno’n barod eu cymwynas ac yn ystyriol. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael un o Ysgoloriaethau Power Academy y DU yn ystod fy nghwrs, ac mae'n werth ymgeisio amdani yn y flwyddyn gyntaf. Gallwch chi wneud lleoliadau gyda llawer o gwmnïau wahanol - fe wnes i fy un fi gyda Siemens. Roedd yn brofiad gwych a ddatblygodd fy sgiliau cyfathrebu a fy helpu i weithio mewn tîm.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Cyfleusterau a lleoliad

Ein lleoedd i fyfyrwyr
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesMae’r lleoedd ar gyfer y myfyrwyr yn Adeiladau'r Frenhines a Trevithick yn berffaith i astudio, dysgu mewn grŵp a chymdeithasu. Yn Llyfrgell Trevithick ceir cyfleusterau TG ac adnoddau gwybodaeth i bob un o fyfyrwyr peirianneg.

Y labordai mecanyddol a gweithgynhyrchu
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesGall ein peirianwyr mecanyddol a meddygol ddefnyddio ein labordai i gael sgiliau ymarferol ym maes arbrofi a diagnosteg, a chânt ddefnyddio ystod eang o dechnolegau argraffu 3D.

Efelychydd system bŵer drydanol
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesGall ein myfyrwyr peirianneg drydanol ac electronig ddefnyddio ein labordai i gael teimlad go iawn o sut beth yw gweithio gyda grid pŵer, gan gynnwys creu, gwneud ac arbrofi efelychiadau system bŵer.

Labordy foltedd uchel
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesGall ein peirianwyr trydanol ac electronig ddefnyddio ein cyfleusterau helaeth i wella eu dealltwriaeth o systemau a ffenomenau foltedd uchel, boed y Grid Cenedlaethol, nwyon inswleiddio amgen neu fellt sy’n taro awyrennau.

Labordai peirianneg sifil
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesGall ein peirianwyr sifil, amgylcheddol a phensaernïol ddefnyddio ein labordai i gael profiad ymarferol o ran dyluniadau dŵr megis pibellau, yn ogystal â deall ac arbrofi concrit a'i nodweddion.

Padog Rasio Caerdydd
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesRydyn ni’n rhoi cymorth, cyfleusterau, a digon o le i dîm Rasio Caerdydd adeiladu, dylunio a gweithio ar geir rasio ar gyfer digwyddiad Formula Student.

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae'n hawdd cerdded o'r Ysgol i gartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.

Adeiladau'r Frenhines
Mae’r Brifysgol yng nghalon y ddinas ac mae canol y dref, y prif ganolfannau trafnidiaeth, gweddill y Brifysgol, neuaddau preswyl y myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr, i gyd yn agos iawn.

Roedd yr elfennau ymarferol wir wedi fy helpu i gael llawer o fudd o fy nghwrs. Bob blwyddyn aethom ar daith maes i leoliad gwahanol yn y DU lle cawsom brofiad ymarferol o'r hyn y mae'r diwydiant yn ei gynnig. Fe gyrhaeddon ni arolygu gwahanol adeiladau a gweld sut maen nhw'n cael eu rhoi at ei gilydd yn strwythurol. Roedd hefyd yn gyfle da i ddod i adnabod eich darlithwyr, felly rydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn gofyn cwestiynau iddyn nhw nes ymlaen yn y cwrs. Ar ben hynny, rydych chi'n cael cwrdd â mwy o bobl ar eich cwrs a gwneud ffrindiau.
Ein sgyrsiau
Astudio gyda ni
Rydyn ni wrthi'n diweddaru blwyddyn gyntaf ein cyrsiau peirianneg ar gyfer y sawl fydd yn dechrau astudio yn 2023. Byddwn ni’n diwygio manylion y cwrs yn ein llyfryn israddedig ac ar ein tudalennau gwe cyn bo hir. Cewch ragor o wybodaeth am y flwyddyn gyntaf isod. Ar hyn o bryd, dim ond y flwyddyn gyntaf fydd yn newid a bydd blynyddoedd diweddarach ein cyrsiau yn aros yr un fath. Cewch ragor o wybodaeth am gamau diweddarach y cwrs ar dudalennau cwrs ein gwefan.

Eglurwyd y flwyddyn gyntaf
Darganfyddwch beth i'w ddisgwyl o flwyddyn un fel myfyriwr peirianneg.

Mi wnes i leoliad gwaith yn Airbus. Roedd yn gyfle gwych, a chefais weithio gyda chynhyrchion byd-enwog. Roedd fy lleoliad yn caniatáu i mi gael profiad o beirianneg ymarferol, ac roeddwn i'n gallu penderfynu beth oeddwn i eisiau ei wneud ar ôl gorffen y cwrs. Treuliais amser yn astudio dramor ym Mhrifysgol Miami hefyd. Cefais gyfle i wneud ffrindiau rhyngwladol, astudio mewn lleoliad gwych, a chael profiad anhygoel.

Blas ar astudio peirianneg
Gwyliwch ein darlithoedd rhagflas i gael cipolwg ar sut rydyn ni’n addysgu, a rhoi cynnig ar rai o'r pynciau cyffrous sydd ar gael ichi.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Lawrlwytho’r llyfryn
Dysgu rhagor am astudio peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cysylltu â ni
Er mwyn gofyn unrhyw gwestiwn inni anfonwch ein ffurflen ymholi a byddwn ni’n eich ateb cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Gweld ein cyrsiau peirianneg
Archwilio ein cyrsiau.
Ffynhonnell: yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion diweddaraf ar gyfer 2019/20 ac a gyhoeddodd HESA ym mis Mehefin 2022.
Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint Higher Education Statistics Agency Limited 2022. Ni all The Higher Education Statistics Agency Limited dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau a wna trydydd partïon o ganlyniad i’w data.