
Ffiseg a seryddiaeth
Rydym ar flaen y gad o ran rhai o’r darganfyddiadau gwyddonol mwyaf cyffrous heddiw, a fydd yn cynnig amgylchedd ysbrydoledig i chi astudio ynddo.
Pam astudio gyda ni?
Yn yr Ysgol, yn ogystal â darganfod gwyddoniaeth gyffrous a blaengar, byddwch hefyd yn rhan o Ysgol gyfeillgar ac agos atoch, lle y bydd y staff yn gwneud eu gorau glas i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r galluoedd a fydd yn caniatáu i chi lwyddo yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Sgiliau ar gyfer bywyd
Byddwch yn dysgu ymchwilio i gyfrinachau'r bydysawd wrth gaffael sgiliau dadansoddol a mathemategol a fydd yn eich rhoi gam ar y blaen yn eich gyrfa o ddewis.
Gwerthfawrogir gan ein myfyrwyr
Rydym yn cael sgorau boddhad uchel gan ein myfyrwyr yn gyson yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (gan gyflawni cyfartaledd o fwy na 90% am y pum mlynedd diwethaf).
Cyfleoedd gyrfa gwych
Byddwch chi'n cael cyfleoedd gyrfa rhagorol. Yn ôl yr arolwg diwethaf o gyflogaeth graddedigion, mae 93% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaeth bellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Bydd astudio ffiseg a seryddiaeth yng Nghaerdydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi a fydd o werth i chi am weddill ei bywyd. Rydym yn adran fach a chyfeillgar ac rydym wir yn gwerthfawrogi ein myfyrwyr ac yn cynnig y cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu potensial llawn, a chyflawni eu gyrfa o ddewis.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein hadeiladau a'n cyfleusterau
Ein Hysgol
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesMae’r ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn rhan o Adeiladau’r Frenhines, sef canolfan gwerth miliynau o bunnoedd sydd yng nghanol y brifddinas ac yn agos at gysylltiadau teithio lleol a chenedlaethol, gyda’r brif ganolfan siopa, parciau, ac adloniant ar garreg ein drws.

Llyfrgell Trevithick
Wedi'i leoli yn Adeilad TrevithickMae Llyfrgell Trevithick yn darparu adnoddau gwybodaeth ar gyfer peirianneg, cyfrifiadureg a gwybodeg, ffiseg a seryddiaeth. Mae wedi’i lleoli ar lawr cyntaf Adeilad Trevithick yn The Parade oddi ar Heol Casnewydd.

Bwyty Trevithick
Wedi'i leoli yn Adeilad TrevithickMae Bwyty Trevithick wedi’i leoli ar lawr gwaelod Adeilad Trevithick.
Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)
Cyfleuster gwerth £44 miliwn a agorwyd yn 2016 yw CUBRIC, ac mae ganddo ystod o labordai lle mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar ddelweddu’r ymennydd. Mae ei ystod trawiadol o offer niwroddelweddu eisoes wedi arwain at ymchwil o safon fyd-eang, ac mae bellach yn ein helpu ni i wneud yr un fath wrth gymhwyso egwyddorion ffiseg i brosesau biolegol yr ymennydd.

Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesMae’r sefydliad yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n helpu ymchwilwyr a’r diwydiant i gydweithio. Bydd yn cael ei symud yn fuan i’n Campws Arloesedd newydd gwerth £300 miliwn ar Heol Maendy.

Ystafelloedd glân
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesMae gennym ddwy ystafell lân dosbarth-1000, gyda gallu arbrofol a damcaniaethol helaeth. Ystafell lân 225 medr sgwâr gwerth £4miliwn sydd wedi’i hadnewyddu yw un o’r rhain; wedi’i lleoli yn Adeilad y Frenhines.

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae ein Hysgol gyferbyn â chartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.

Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru dafliad carreg i ffwrdd, ac felly bydd gennych fynediad hawdd i'w horielau arddangos a'u casgliadau trawiadol.

Labordy
Wedi'i leoli yn ASLabordy nodweddiadol yw hwn lle gallai myfyrwyr ffiseg gynnal arbrofion a sesiynau ymarferol.
Cyflwyniadau defnyddiol gan ein staff
Fideos gan fyfyrwyr
Mwy am astudio yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Gyrfaoedd
Mae ein graddedigion yn llwyddiannus iawn yn cynnal amrywiaeth eang o yrfaoedd boddhaus. Edrychwch ar rai o astudiaethau achos ein graddedigion er mwyn dysgu pa yrfaoedd amrywiol sydd ar gael i raddedigion ffiseg a seryddiaeth.
Roedd 93% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Dysgwch am Brifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Pob cwrs fiseg a seryddiaeth israddedig
Archwilio ein cyrsiau
Cysylltu â ni
Defnyddiwch ein ffurflen ymholi i ofyn cwestiwn i ni, a byddwn yn eich ateb cyn gynted â phosibl.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.