
Optometreg a gwyddorau’r golwg
Bydd ein BSc Optometreg yn rhoi'r wybodaeth wyddonol a chlinigol sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa fel optometrydd cyn cofrestru.
Pam astudio gyda ni?
Yn gyson ymhlith y 3 uchaf
Rydym yn gyson ymhlith y 3 uchaf ar gyfer Optometreg yn y Complete University Guide.
100% cyflogaeth
Mae 100% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis i raddio (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch).
Cyfleuster optometreg gwerth £22 miliwn
Mae ein Hysgol mewn cyfleuster optometreg pwrpasol gwerth £22 miliwn gyda chlinig llygaid ar y safle.
Achredir y rhaglen gan y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC)
Mae ein cyrsiau israddedig yn bodloni’r safonau ansawdd uchel mewn addysg a nodwyd gan y GOC.
96% bodlonrwydd cyffredinol ymysg myfyrwyr
Dywedodd 96% o'r myfyrwyr eu bod yn gyffredinol fodlon ar y cyrsiau yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf (NSS 2019).
Staff sy’n flaenllaw ym myd ymchwil yn cyfrannu at gynllunio a chyflwyno cyrsiau
Mae'r rhan fwyaf o'n staff addysgu yn ymchwilwyr ymarferol ac, mewn sawl achos, arbenigwyr arweiniol yn eu meysydd.
Mae astudio optometreg yng Nghaerdydd wedi bod yn brofiad gwych i mi. Ochr yn ochr â defnyddio technolegau optometrig uwch a gweithio gyda chleifion go iawn, yr elfen orau i mi yw’r ymdeimlad o gymuned ymysg y myfyrwyr, y darlithwyr a’r goruchwylwyr.
Cyrsiau
Ein fideo
Dyma farn ein myfyrwyr
Rydym yn Ysgol gyfeillgar, arloesol a chroesawgar sy'n angerddol dros optometreg. Rydym yn falch o’n cymuned gref o fyfyrwyr ac yn aml, mae ein myfyrwyr a’n graddedigion yn disgrifio astudio yma fel ‘amgylchedd teuluol’. Dewch i glywed beth mae rhai o'n myfyrwyr yn ei ddweud am astudio yma.
Ein Hysgol
Mae ein Hysgol mewn cyfleuster optometreg pwrpasol gwerth £22 miliwn ac ar Gampws Arloesedd Parc Maendy. Rydym mewn man cyfleus ger adeiladau academaidd eraill, Undeb y Myfyrwyr, siopau canol y ddinas, parcdir deniadol a nifer o breswylfeydd myfyrwyr.
Ynghyd â'n cyfleusterau ymchwil rhagorol, mae gennym hefyd gyfleusterau israddedig pwrpasol i wneud yn siŵr y cewch y profiad gorau posibl, gan gynnwys ein clinig llygaid pwrpasol sydd ar agor i'r cyhoedd ac sy'n cynnig lleoliadau mewnol i fyfyrwyr.

Eich gyrfa
Fel optometrydd cymwysedig, bydd gennych amrywiaeth eang o opsiynau gyrfaol i chi gyda chyfleoedd gwych i gynyddu. Mae ymarfer preifat, gwasanaeth llygaid yr ysbyty, addysgu, ac ymchwil yn rhai o'r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion optometreg. Mae cofrestru hefyd yn agor posibiliadau i weithio dramor gan fod cymhwyster Optometreg o'r DU yn uchel ei barch yn fyd-eang.
Efallai yr hoffech chi hefyd gwblhau astudiaeth bellach er mwyn arbenigo. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd ôl-raddedig sydd ar gael i raddedigion optometreg.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r cwrs optometreg yng Nghaerdydd heb ei ail. Mae ansawdd yr ymchwil sy'n cael ei chynnal yn rhagorol, ac mae hynny'n amlygu ei hun yn ansawdd yr addysgu; roeddwn bob amser yn teimlo fy mod wedi fy amgylchynu gan athrawon, darlithwyr a goruchwylwyr sydd wir yn angerddol am yr hyn maent yn ei wneud.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gwnewch eich gwaith ymchwil
Ewch i wefan ein Hysgol a thudalennau'r rhaglen i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - @SchoolOfOptom.