
Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
Ymunwch ag un o'r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mwyaf yn y DU.
Pam astudio gyda ni?
Mae gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn edrych ar y ffyrdd rydym ni'n trefnu ein bywydau mewn byd cyd-gysylltiedig byd-eang drwy gyfuniad o sefydliadau enfawr ac arferion. Mae’n adeg berffaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o lawer o’r materion pwysicaf sy’n ein hwynebu.
Ar ôl graddio
Roedd 94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Manteisiwch ar ein cysylltiadau
Mae gennym gysylltiadau â Llywodraeth Cymru, San Steffan, yr G7, y Cenhedloedd Unedig, NATO, cyrff anllywodraethol, llunwyr polisïau a newyddiadurwyr.
Rydym yn arbenigwyr
Mae ein tîm o fri rhyngwladol yn arbenigwyr mewn damcaniaeth wleidyddol, polisïau cyhoeddus a gwleidyddiaeth etholiadol, seiberddiogelwch, ffeminyddiaeth, hanes y Rhyfel Oer, gwleidyddiaeth amgylcheddol, diogelwch, astudiaethau gwybodaeth a gwleidyddiaeth ôl-drefedigaethol.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Mae strwythur y cwrs yng Nghaerdydd wedi’i deilwra i’m galluogi i arbenigo mewn meysydd o’r ddisgyblaeth sydd o ddiddordeb arbennig i mi, fel diogelwch rhyngwladol. Mae'r cyfle i astudio iaith ochr yn ochr â chysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth yn wych. Nid yn unig mae'n agor mwy o gyfleoedd ar ôl graddio, ond mae hefyd yn caniatáu i mi ddatblygu fy sgiliau iaith a’m sgiliau dadansoddi ac yn rhoi cyfle i mi dreulio blwyddyn dramor, lle y byddaf yn mireinio fy sgiliau iaith ymhellach.
Mwy amdanom ni
Mae ein rhaglenni'n cynnig cipolwg beirniadol ar ein byd sy'n newid yn barhaus
Bydd astudio gyda ni yn eich cyflwyno i gyfansoddiadau, polisïau cyhoeddus ac arferion cymdeithasol cenedlaethol ac is-genedlaethol; i sefydliadau rhanbarthol a rhyngwladol; i’r syniadau moesol a gwleidyddol sy’n sbarduno mudiadau gwleidyddol a newid; ac i natur a chanlyniadau gwrthdaro, gwladychiaeth a gwleidyddiaeth pŵer mawr.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
Edrychwch ar ein cyrsiau.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig, Arolwg Hynt Graddedigion 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Yn cynnwys data HESA: Hawlfraintyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am gasgliadau neu benderfyniadau gan drydydd partïon yn sgîl data’r Asiantaeth.