Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

A ninnau’n chwilfrydig am y profiad dynol ar draws milenia a diwylliannau, rydym am ddeall ein gorffennol yn well er mwyn taflu goleuni ar y presennol er budd ein dyfodol. Rydym yn gymuned academaidd ymofyngar, angerddol dros astudio’r gorffennol a chredoau cyn-hanesyddol i gymdeithasau cyfoes.

academic-school

Ar ôl graddio

90% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

tick

Cyfleoedd byd-eang

Ehangwch eich gorwelion drwy archwilio ystod o opsiynau astudio dramor.

structure

Hyblygrwydd

Cewch deilwra eich rhaglen gan gyfuno dulliau thematig, cymdeithasol, gwyddonol, ieithyddol a hanesyddol.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth (BA)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Byddwch yn archwilio’r hanes, y diwylliannau a’r credoau sydd ynghlwm wrth draddodiadau crefyddol mawr a rhai llai adnabyddus yn y cyfuniad cydanrhydedd hwn gydag Athroniaeth, fydd yn eich galluogi i ddadansoddi cwestiynau athronyddol pwysig

Crefydd a Diwinyddiaeth (BA)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Byddwch yn archwilio’r hanes, y diwylliannau a’r credoau sydd ynghlwm wrth draddodiadau crefyddol mawr a rhai llai adnabyddus, gan ddewis o blith amrywiaeth o ymagweddau

Ein fideos

Astudio Crefyddol a Diwinyddiaeth yr ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae ein hacademyddion yn rhannu mewnwelediad i'r pwnc hynod ddiddorol hwn, y gymuned groesawgar y byddwch yn ymuno â hi, a'r mathau o gyfleoedd cyffrous a chymorth ehangach y gallwch eu disgwyl.

Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Cewch glywed gan academyddion a myfyrwyr am sut beth yw astudio crefydd a chred gyda ni.

Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Phrifysgol Caerdydd

Rhagor o wybodaeth am astudio yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Y rheswm roeddwn i wrth fy modd â fy mhwnc oedd oherwydd nad ydych chi’n dysgu am grefydd yn unig. Rydych chi’n dysgu am bobl, y gyfraith, cymdeithas a hanes. Mae Caerdydd yn lle amrywiol: y ffrindiau a’r cydberthnasau yw’r pethau agosaf at fy nghalon.
Aisha Islam BA Crefydd a Diwinyddiaeth

Mwy amdanom ni

Two students

Cael effaith sy'n cyfrif

Fel Ysgol, rydyn ni'n helpu i lunio ein cymuned, gan harneisio pŵer ein holl bynciau mewn prosiectau ymgysylltu parhaol ac mewn ysgolion lleol. Os ymunwch â ni, gallwch chi hefyd fod yn rhan o'r gwaith pwysig ac effeithiol hwn.

Angkor Wat

Astudio dramor

Gallwch dreulio blwyddyn astudio dramor yn rhan o’ch gradd, gan gael profiad diwylliannol gwerthfawr a chyfleoedd i deithio.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Library students

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

academic-school
icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i gyflwyno cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Student dusting off a sarcophagus

Archaeoleg a chadwraeth

Mae ein graddau ymarferol o fri’n cyflwyno’r hyfforddiant, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i chi wneud eich marc yn y sector treftadaeth, ynghyd â’r sgiliau cyflogadwyedd i ddilyn eich gyrfa mewn meysydd perthnasol.

Students sitting in a classroom

Hanes a hanes yr henfyd

Ymchwiliwch i fydoedd a fu ac ehangu eich dealltwriaeth o newid hanesyddol yn ein rhaglenni uchel eu bri sy’n cael eu haddysgu gan arbenigwyr angerddol a thrwy gipolygon o’u hymchwil ddiweddaraf.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.