
Hanes a hanes yr henfyd
Ymchwiliwch i fydoedd a fu ac ehangu eich dealltwriaeth o newid hanesyddol yn ein rhaglenni uchel eu bri sy’n cael eu haddysgu gan arbenigwyr angerddol a thrwy gipolygon o’u hymchwil ddiweddaraf.
Pam astudio gyda ni?
A ninnau’n chwilfrydig am y profiad dynol ar draws milenia a diwylliannau, rydym am ddeall ein gorffennol yn well er mwyn taflu goleuni ar y presennol er budd ein dyfodol. Rydym yn gymuned academaidd ymofyngar, angerddol dros astudio’r gorffennol a chredoau cyn-hanesyddol i gymdeithasau cyfoes.
Ar ôl graddio
Roedd 98% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Data HESA).
Ein hymchwil
Ymhlith y 20 prifysgol orau ar gyfer pŵer ymchwil ym maes Hanes (REF 2021).
Rydym yn arbenigwyr
Byddwch yn cael eich addysg gan arbenigwyr sy’n uchel eu parch yn rhyngwladol ac yn weithredol ym myd ymchwil.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau a'n fideos
Astudio hanes yr henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae ein cyflwyniad diwrnod agored rhithwir yn rhoi cipolwg ar ein cyrsiau israddedig ym maes hanes yr henfyd, sut rydym yn addysgu, a’r cyfleoedd ychwanegol sydd ar gael yn rhan o’ch gradd.
Ers ffilmio, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i raglenni cyd-anrhydedd. Ewch i'n rhestrau cyrsiau i weld pa opsiynau sydd ar gael.
Roeddwn i wir yn mwynhau’r rhyddid academaidd sydd ynghlwm wrth astudio hanes. Rydych yn dod i wybod am feysydd hanesyddol newydd ac amrywiol yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae’r staff academaidd yn hynod o gefnogol. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a’m cefnogi drwy gydol fy ngradd. Mae safon y dysgu yn wych, ac roeddwn i wir yn ymddiddori ym mhob pwnc newydd roeddwn yn ei astudio.
Mwy amdanom ni
Mae’r amgylchedd yn groesawgar, ac mae’n teimlo fel cymuned agos, sydd wedi gwneud fy mhrofiad yn y brifysgol yn fythgofiadwy. Roeddwn i’n gallu teilwra fy ngradd i gyd-fynd â’m hanghenion a’m diddordebau personol, gan greu rhaglen unigryw a oedd yn iawn i mi.

Canolfan ragoriaeth arloesol o fri rhyngwladol
Cynhelir y rhan fwyaf o’n darlithoedd, ein tiwtorialau a’n sesiynau ymarferol yn ein cartref, sef Adeilad John Percival. Mae’n cynnwys cyfres o labordai arbenigol a gynlluniwyd yn bwrpasol at ddibenion cadwraeth ac archaeoleg.
Mae Llyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol drws nesaf i ni, sy’n gartref i’n Casgliadau Arbennig, yn ogystal â chasgliadau ac archifau helaeth ym meysydd archaeoleg, hanes yr henfyd a hanes.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Edrychwch ar ein cyrsiau israddedig ym maes hanes
Edrychwch ar ein cyrsiau.
Edrychwch ar ein cyrsiau israddedig ym maes hanes yr henfyd
Edrychwch ar ein cyrsiau.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.