Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

globe

Lleoliadau gwaith

Mae Cymru yn lleoliad cyffrous i ddaearyddwyr ei archwilio gyda mynyddoedd trawiadol yn y gogledd ac aber llanw bioamrywiol yn y de.

star

Gwneud effaith

Rydym yn darparu amgylchedd lle gall pob myfyrwyr gyflawni eu potensial er budd cymdeithas.

briefcase

Cysylltiadau cryf

Mae ein cysylltiadau rhagorol â sefydliadau lleol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth Aber Afon Hafren, yn helpu ein myfyrwyr i ddod o gyfleoedd i wneud prosiectau a mynd ar leoliadau gwaith.

Mae teithiau maes yn dysgu technegau newydd y byddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich gradd ac yn rhoi trosolwg i chi o’r cwrs. Maen nhw hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd. Pan gewch chi eich gollwng ar un o'ch teithiau cyntaf, allwch chi ddim peidio gwneud ffrindiau. Tra bod pawb a oedd yn rhannu fflat ‘da fi yn eistedd mewn darlithoedd ddydd ar ôl dydd, roeddwn i allan yn crwydro Caerdydd a'r cyffiniau.
Philippa Smith, Daearyddiaeth Amgylcheddol (BSc)

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Daearyddiaeth Amgylcheddol (MSci)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Darganfyddwch sut i ddadansoddi a datrys ystod eang o broblemau amgylcheddol gyda ffocws ar ddysgu sut i gynnal ymchwil.

Daearyddiaeth Amgylcheddol (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae daearyddwyr amgylcheddol yn defnyddio eu dealltwriaeth wyddonol o'r amgylchedd naturiol a ffisegol i ddod o hyd i atebion i faterion amgylcheddol hanfodol.

Daearyddiaeth Amgylcheddol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae daearyddwyr amgylcheddol yn defnyddio eu dealltwriaeth wyddonol o'r amgylchedd naturiol a ffisegol i ddod o hyd i atebion i faterion amgylcheddol hanfodol.

Daearyddiaeth Ffisegol (MSci)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Ar y rhaglen radd pedair blynedd hon, byddwch yn gweithio ar brosiect ymchwil annibynnol o'ch dewis, gan ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa academaidd neu ymgynghori.

Daearyddiaeth Ffisegol (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae daearyddwyr ffisegol yn archwilio esblygiad arwyneb y Ddaear, y wyddoniaeth y tu ôl i'w phrosesau ffisegol a'r effeithiau a'r dylanwadau o'u cwmpas, gan gynnwys amgylcheddau rhewlifol, peryglon naturiol a newid yn yr hinsawdd.

Daearyddiaeth Ffisegol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae daearyddwyr ffisegol yn archwilio esblygiad arwyneb y Ddaear, y wyddoniaeth y tu ôl i'w phrosesau ffisegol a'r effeithiau a'r dylanwadau o'u cwmpas, gan gynnwys amgylcheddau rhewlifol, peryglon naturiol a newid yn yr hinsawdd.

Daearyddiaeth Forol (MSci)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Mae'r radd daearyddiaeth forol bedair blynedd hon yn cwmpasu ystod eang o bynciau morol ac arfordirol ac mae'n cynnwys prosiect ymchwil annibynnol.

Daearyddiaeth Forol (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae ein gradd daearyddiaeth forol yn cwmpasu ystod eang o bynciau morol ac arfordirol, o newid yn yr hinsawdd, meteoroleg ac eigioneg, i gamfanteisio ar y cefnforoedd a chynaliadwyedd

Daearyddiaeth Forol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae ein gradd daearyddiaeth forol yn cwmpasu ystod eang o bynciau morol ac arfordirol, o newid yn yr hinsawdd, meteoroleg ac eigioneg, i gamfanteisio ar y cefnforoedd a chynaliadwyedd

Cyfleusterau a lleoliad

Ein sgyrsiau

Mae Dr Jenny Pike, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, yn esbonio ein meysydd pwnc eang ac yn rhoi blas i chi ar y rhaglenni gradd rydym yn eu cynnig.

Ein Hysgol a’n meysydd pwnc

Mae Dr Jenny Pike, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, yn esbonio ein meysydd pwnc eang ac yn rhoi blas i chi ar y rhaglenni gradd rydym yn eu cynnig.

Mae Dr Jenny Pike yn disgrifio strwythur ein rhaglenni gradd gan gynnwys ein dulliau addysgu, oriau cyswllt a'n dewis eang o fodiwlau.

Ein rhaglenni gradd

Mae Dr Jenny Pike yn disgrifio strwythur ein rhaglenni gradd gan gynnwys ein dulliau addysgu, oriau cyswllt a'n dewis eang o fodiwlau.

Mae’r Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr, Dr Andrew Kerr, yn rhoi arweiniad cyffredinol ar y math o gefndir yr ydym yn ei ddisgwyl gennych i astudio gyda ni. Gellir cael gofynion mynediad ar dudalennau’r cyrsiau.

Gofynion mynediad 2021/22

Mae’r Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr, Dr Andrew Kerr, yn rhoi arweiniad cyffredinol ar y math o gefndir yr ydym yn ei ddisgwyl gennych i astudio gyda ni. Gellir cael gofynion mynediad ar dudalennau’r cyrsiau.

Mae Dr Rhoda Ballinger yn archwilio'r cyfleoedd taith maes sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio ein rhaglenni gradd daearyddiaeth.

Gwaith maes i ddaearyddwyr

Mae Dr Rhoda Ballinger yn archwilio'r cyfleoedd taith maes sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio ein rhaglenni gradd daearyddiaeth.

Mae Dr Andrew Kerr yn adolygu rhai o'r gyrfaoedd posibl y gellir eu dilyn ar ôl astudio gyda ni, gan gynnwys astudiaethau achos gan gynfyfyrwyr.

Gyrfaoedd i raddedigion

Mae Dr Andrew Kerr yn adolygu rhai o'r gyrfaoedd posibl y gellir eu dilyn ar ôl astudio gyda ni, gan gynnwys astudiaethau achos gan gynfyfyrwyr.

Rwy'n gweithio fel Gwyddonydd Proses Arfordirol yn monitro'r arfordir fel rhan o Raglen Monitro Arfordirol Rhanbarthol Strategol y De-ddwyrain. Rydym yn cynnal arolygon traeth topograffig ac arolygon hydrograffig ger y lan. Mae'r data'n cael ei brosesu a'i ddefnyddio gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Rwy'n gyfrifol am gynllunio, cynnal a dadansoddi arolygon traeth yn ardal East Solent. Fe wnaeth yr amrywiaeth eang o fodiwlau y gwnes i eu cynnwys yng Nghaerdydd, ynghyd â defnyddio gwahanol feddalwedd a'r agwedd ymarferol ar waith maes, fy helpu i sicrhau swydd rwy'n ei charu.
Emma Evans, Daearyddiaeth Forol (MSci 2014)

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Library students

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate
Download icon

Lawrlwytho’r llyfryn

Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.

mobile-message

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn a chewch ymateb cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Cyflwyno cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio

Pynciau eraill

Bird's eye view of a beautiful landscape

Earth and environmental sciences

Dysgwch sut i warchod ein planed am genedlaethau i ddod. P'un a ydych chi'n dewis astudio daearyddiaeth, daeareg neu wyddor cynaliadwyedd amgylcheddol, byddwch chi'n ennill gwybodaeth a sgiliau gwyddonol i effeithio ar ddatblygiadau a phenderfyniadau amgylcheddol allweddol.

Student looking at a map

Geography (Human) and Planning

Ydych chi’n angerddol am fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol byd-eang i wella ble a sut rydym yn byw? Ein rhaglenni daearyddiaeth ddynol a chynllunio yw'r dewis i chi.


Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.

Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.