
Deintyddiaeth
Gwireddwch eich potensial a dechrau eich taith broffesiynol drwy ymuno â’n Hysgol Ddeintyddol arloesol sydd â naws deuluol.
Ein Hysgol
Mae’r Ysgol Deintyddiaeth wedi’i lleoli yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yng nghampws Parc y Mynydd Bychan Prifysgol Caerdydd, safle 53 erw yr ydym yn ei rannu ag Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae hyn yn golygu bod ein myfyrwyr yn cael amlygiad clinigol cynnar, gan drin cleifion go iawn mewn ystod o wahanol senarios dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol.
O’r eiliad y byddwch yn camu drwy ein drysau, bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i ddod yn weithiwr deintyddol proffesiynol: cymuned fywiog o fyfyrwyr, cyfleusterau o'r radd flaenaf, addysg eithriadol ac amgylchedd dysgu cefnogol.
Rydyn ni'n lwcus yng Nghaerdydd; mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn cynnwys ei Ysbyty Deintyddol ei hun sy'n cynnig opsiynau triniaeth pwrpasol a meysydd arbenigedd na allwch ddod o hyd iddynt mewn sawl ardal arall yng Nghymru. Mae'n golygu eich bod chi'n dod i gysylltiad â chymaint mwy o bethau nag y gallech chi mewn man arall. Mae’n werth chweil gweld y gwahaniaeth go iawn y gallwn ei wneud i gleifion a’u teuluoedd.
Pam y dylech astudio gyda ni
Ystafell efelychu £2.2 miliwn
Bydd ein hystafell efelychu fodern a gostiodd £2.2m yn eich paratoi'n berffaith ar gyfer darparu gofal deintyddol i gleifion yn y clinigau modern.
Profiad Clinigol Cynnar
Byddwch yn cael eich addysgu yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol ac yn ennill profiad clinigol clinigol gwerthfawr drwy weithio mewn ystod o senarios gyda staff profiadol a chefnogol.
Dewis cadarn
Fel rhan o'n cynnig i chi, os byddwch yn ein dewis ni fel eich dewis cadarn rydym yn addo cadw eich lle ar gyfer y flwyddyn ganlynol os byddwch yn methu â chael graddau eich cynnig, er mwyn eich galluogi i ailsefyll eich arholiadau.
Y 10 uchaf
Yr unig Ysgol Deintyddiaeth yng Nghymru ac un o’r 10 uchaf ar gyfer deintyddiaeth yn y DU (The Complete University Guide 2022).
Lleoedd wedi'u hariannu'n llawn ar gael
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer myfyrwyr BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a myfyrwyr DipHE Hylendid Deintyddol. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau
Cyflwyniad i astudio deintyddiaeth, hylendid deintyddol a therapi deintyddol
Mae’r Athro Mike Lewis yn cynnig cipolwg ar y profiad o astudio Deintyddiaeth, Hylendid Deintyddol a Therapi Deintyddol yng Nghaerdydd; gan gynnwys awgrymiadau ar sut i wneud cais, beth sy’n digwydd gyda’n proses ddewis a sut i gael rhagor o wybodaeth.
Astudio deintyddiaeth
Mae ein myfyrwyr yn trafod y profiad o astudio deintyddiaeth yn yr unig Ysgol Ddeintyddol yng Nghymru. Ar ddiwedd y rhaglen 5 mlynedd hon bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad sydd eu hangen arnoch i gofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC). Bydd hyn yn eich galluogi i gwblhau eich blwyddyn Hyfforddiant Sylfaenol Deintyddol (DFT) ac ymuno â’r byd deintyddiaeth proffesiynol.
Astudio therapi deintyddol a hylendid deintyddol
Mae ein myfyrwyr yn trafod y profiad o astudio therapi deintyddol a hylendid deintyddol yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd ein cwrs Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol yn eich galluogi i gymhwyso i arfer fel hylenydd neu therapydd gan ei fod wedi’i gydnabod gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Universal Clinical Aptitude Test (UCAT)
If you're thinking of applying to study dentistry, this short video offers official advice about how best to go about preparing to sit the UCAT, an admissions test used in the selection process by UK medical and dental schools. It shows the tools available to help you prepare and suggests a rough timeline for you. You can refer to key dates for UCAT.
Cyfleusterau a lleoliadau

Llyfrgell Parc y Mynydd Bychan
Wedi'i leoli yn Adeilad CochraneLlyfrgell 24 awr a man astudio sydd ar gael i'r holl fyfyrwyr ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Llyfrgell Brian Cooke
Wedi'i leoli yn Ysgol DeintyddiaethMae Llyfrgell Brian Cooke wedi'i lleoli yn yr Ysgol Deintyddiaeth ac mae'n cynnig gofod astudio a deunyddiau darllen ar gyfer myfyrwyr deintyddiaeth.

Ysgol Deintyddiaeth
The School of Dentistry is situated in the same building as the University Dental Hospital and is where most of your learning will take place.

Lolfa IV
Wedi'i leoli yn Campws Parc y Mynydd BychanWedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae'r lolfa IV yn ofod i bob myfyriwr ddal i fyny ar waith a dadflino.
Profiad ymarferol
Gan mai ni yw’r unig Ysbyty Deintyddol yng Nghymru bydd gennych gyfle i wasanaethu a rheoli grŵp amrywiol o gleifion sydd ag amrywiaeth eang o glefydau deintyddol.
Mae sgiliau clinigol yn cael eu datblygu yn y labordy sgiliau clinigol modern sy’n efelychu’r profiad clinigol go iawn, ac yn rhoi cyfle i chi ymarfer a pharatoi ar gyfer rhoi gofal i gleifion. Bydd hyn yn cefnogi eich dealltwriaeth o sut mae eich rôl yn ffitio i mewn i’r tîm deintyddol. Byddwch chi'n cael eich addysgu gan dîm ymroddedig o staff clinigol academaidd ac ymgynghorwyr yn yr ysbyty deintyddol a staff clinigol sy'n gweithio yn yr amgylchedd gofal sylfaenol.
Mae gan Brifysgol Caerdydd gyfleusterau Pennau Lledrithiol rhagorol. Byddwch yn dechrau eu defnyddio ym Mlwyddyn 2 a thrwy’r cwrs hyd at Flwyddyn 4. Mae sesiynau galw heibio ar gael hefyd os hoffech ehangu eich sgiliau clinigol. Un nodwedd unigryw o fy rhaglen ym mlwyddyn 1 yw eich bod yn cael mynediad at y ganolfan anatomeg sy’n golygu eich bod chi’n cael y cyfle i ddysgu am anatomeg â chelanedd yn hytrach na thrwy werslyfr. Nid oes llawer o ysgolion deintyddol yn gallu cynnig hyn.
Eich gyrfa
Ar ôl cymhwyso fel gweithiwr deintyddol proffesiynol, bydd nifer o opsiynau ar gael i chi o ran gyrfa. Wrth gymhwyso, gallwch gofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a gweithio mewn meysydd amrywiol yn y sector deintyddol, gan gynnwys ymarfer deintyddol cyffredinol, clinigau deintyddol cymunedol, ysbytai cyffredinol ac ysgolion deintyddol.
Mae yna hefyd gyfleoedd yn y lluoedd arfog, yn ogystal ag amrywiaeth o raglenni lefel meistr os oes gennych ddiddordeb mewn astudiaethau ôl-raddedig.
Rhagor o wybodaeth
Yr hyn sy’n arbennig am Gaerdydd yw’r cyfuniad prin o gyfleusterau ardderchog a staff gwybodus a chyfeillgar. Ceir ymdeimlad teuluol go iawn, sy’n ein helpu i roi profiad dysgu heb ei ail i fyfyrwyr, sydd yn ei dro yn ein galluogi ni i gyd i fwynhau’r hyn rydym yn ei wneud.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Polisïau derbyn
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses gwneud cais.
Lawrlwytho ein llyfryn
Manylion ein rhaglenni deintyddiaeth israddedig sy’n dechrau yn 2020/2021.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth sydd angen i chi ei wybod am wneud cais i astudio gyda ni.
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.