
Bydwreigiaeth
Ein rhaglen Bydwreigiaeth yw’r un orau yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU.
Pam y dylech astudio gyda ni
1af yng Nghymru a 3ydd yn y DU
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen Bydwreigiaeth yw’r un orau yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU.
Canolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd
Rydym yn un o Ganolfannau Cydweithio Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth. Ni yw'r unig ganolfan yn y rhanbarth Ewropeaidd.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein lleoliad
Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Ein sgwrs
Mae'r Tiwtor Derbyn Bydwreigiaeth (BMid), Janet Israel, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Rwyf wrth fy modd fy mod yno i fenywod ac yn eiriolwr drostynt.
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae Holly, sy'n fyfyriwr Bydwreigiaeth yn y drydedd flwyddyn (BMid), yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.
Mae’r cyfle i weithio o fewn dau Fwrdd Iechyd Prifysgol yn cyfoethogi eich addysg ac mae’r mentoriaid pwrpasol yn eich helpu i ddatblygu’n ymarferydd hyderus a medrus.
Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau

Cyfleoedd gofal iechyd byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol. Yn 2019, teithiodd dros 100 o fyfyrwyr israddedig gofal iechyd a chawsant brofiad o ofal iechyd dramor.
Ble yn y byd y byddech chi'n mynd?
Mwy i wylio
Crewyd y fideos canlynol gan staff a myfyrwyr er mwyn dathlu Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig 2020.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.