
Radiograffeg
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu yw’r un orau yn y DU.
Pam y dylech astudio gyda ni
1af yn y DU
Yn ôl y Complete University Guide 2021 ein rhaglen Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu (BSc) yw’r un orau yn y DU (*fel sefydliad sy’n cynnig Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu o dan y categori Technoleg Feddygol).
Ein cysylltiadau
Mae gennym gysylltiadau agos â Chymdeithas a Choleg y Radiograffyddion a chyrff proffesiynol allweddol eraill.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein lleoliad
Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad

Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer Clirio 2022
Efallai y bydd cyrsiau o'r pwnc hwn ar gael yn fuan drwy'r broses Clirio. Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chanllawiau am y cyfnod Clirio.
Ein sgwrs
Mae'r Tiwtor Derbyn Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (BSc), Gareth Thomas, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.
Mae mynd ar leoliad yn gyfle gwych i roi’r hyn rwyf wedi’i ddysgu ar waith a magu fy hyder.
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae myfyriwr trydedd flwyddyn Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu (BSc), Calum, yn siarad am ei brofiad o astudio gyda ni.
Mae gen i'r hyder nawr i fynd i helpu pobl.
Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau

Cyfleoedd gofal iechyd byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol. Yn 2019, teithiodd dros 100 o fyfyrwyr israddedig gofal iechyd a chawsant brofiad o ofal iechyd dramor.
Ble yn y byd y byddech chi'n mynd?
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Ein rhaglen Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu (BSc)
Ewch i'n tudalen rhaglen i gael gwybod am ofynion mynediad, ffioedd dysgu a mwy.
Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.