Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Ysgol Mathemateg Caerdydd, sydd bellach yn rhan o Abacws sef adeilad newydd a chyffrous Prifysgol Caerdydd gyferbyn â'r Prif Goleg hanesyddol ar gampws Parc Cathays, yn olrhain ei gwreiddiau i’r cyfnod pan grëwyd y Brifysgol ddiwedd y 1880au.

Heddiw rydyn ni’n gymuned o academyddion ac ymchwilwyr y mae eu henw da a'u gweledigaeth ryngwladol yn denu israddedigion, ôl-raddedigion ac ymwelwyr ymchwil o bob cwr o'r byd. Mae mwy na 60 o staff academaidd gyda ni a bob blwyddyn rydyn ni’n derbyn mwy na 450 o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd bob blwyddyn, gan gynnwys:

Ymchwil ac addysgu

Mae ein strategaeth o benodi ysgolheigion o bob cwr o'r byd, ynghyd â'n hymrwymiad i ymchwil sylfaenol ac i gysylltu’n gymdeithasol â phartneriaid allanol strategol, yn golygu y gallwn ni gynnig addysg sydd bob amser yn cael ei hysbrydoli gan y datblygiadau diweddaraf yn y gwyddorau mathemategol. Mae gradd o Ysgol Mathemateg Caerdydd yn arwain at gyfleoedd gyrfaol rhagorol ac yn sylfaen ddeallusol berffaith i'r rheiny sy'n dymuno mynd ymlaen i fyd ymchwil.

Ein henw da

Mae ein gwaith ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol yn helpu ein hymchwil i gael effaith fyd-eang a chreu cyfleoedd ym myd diwydiant i'n myfyrwyr.

Cymorth Mathemateg ar draws y Brifysgol

Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth galw heibio. Gall myfyrwyr sydd â chwestiwn mathemategol gael cymorth un i un neu mewn grŵp bach. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae myfyrwyr Mathemateg a myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill sydd â chwestiynau mathemategol yn defnyddio’r gwasanaeth.

Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant

Adlewyrchir ymrwymiad yr Ysgol i ragoriaeth ryngwladol yn amrywiaeth ein pobl. Mae Gwobr Athena SWAN gennym ac yn benodol felly, rydyn ni’n annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.