
Niwrowyddoniaeth
Gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau biolegol a seicolegol, mae ein gradd Niwrowyddoniaeth sy’n cael ei harwain gan ymchwil yn archwilio dirgelion yr ymennydd dynol.
Pam astudio gyda ni
Hyblygrwydd
Mae ein rhaglenni gradd arloesol sy'n seiliedig ar ymchwil yn hyblyg iawn, a gallwch deilwra eich cwrs at eich diddordebau chi.
Ymchwil o safon fyd-eang
Mae ein Hysgol yn chwarae rhan arweiniol mewn sawl un o Athrofeydd Ymchwil y Brifysgol.
Rhagolygon o ran gyrfa
Dywedodd 93% o’n graddedigion eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio (2016/17).
Pam astudio Niwrowyddoniaeth?
Astudiaeth o'r ymennydd a'r system nerfol yw Niwrowyddoniaeth. Yr ymennydd dynol yw'r system fwyaf cymhleth y gwyddom amdani yn y bydysawd a, gyda digon o gwestiynau ar ôl i'w hateb, mae Niwrowyddoniaeth yn faes astudio cyffrous sy'n cynnig potensial i gael effaith wirioneddol.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Un o fanteision bod yn fyfyriwr yn Ysgol y Biowyddorau, Caerdydd, yw cael mynediad at addysgu o ansawdd uchel iawn, sy’n cael ei yrru gan ymchwil. Mae’r holl ddarlithwyr sydd gennym yn ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn eu maes, ac yn gweithio ar bethau arloesol iawn. Mae’n hynod ddiddorol ac yn cydio yn eich dychymyg.

Dysgu gan y gorau
Mae’r byd yn wynebu heriau digynsail i gynnal ei boblogaeth gynyddol a’i ecosystemau’n iach. Mae gan y biowyddorau rôl hanfodol i’w chwarae o ran deall y mecanweithiau gwaelodol ac ymchwilio i ddatrysiadau.
Yn Ysgol y Biowyddorau, cewch eich addysgu gan ymchwil sy'n arwain y byd a byddwch yn ennill profiad ymarferol.
Cyflwyno Ysgol y Biowyddorau i chi

Adeiladu gyrfa
O ymchwilwyr canser i geidwaid anifeiliaid cigysol, amgylcheddwyr i blogwyr gwyddoniaeth, mae ein graddedigion yn mynd yn eu blaen i fwynhau ystod eang o yrfaoedd llwyddiannus a gwobrwyol.
Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Edrychwch ar ein holl gyrsiau niwrowyddoniaeth
Archwilio ein cyrsiau
Lawrlwythwch lyfryn Ysgol y Biowyddorau
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltwch â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.