
Fferylliaeth
Mae gennym ddiddordeb angerddol mewn fferylliaeth, ac rydym yn falch o fod yn un o Ysgolion Fferylliaeth gorau'r DU. Mae ein cwrs MPharm yn ceisio eich galluogi i archwilio gwahanol agweddau ar fferylliaeth fodern cyn dechrau ar eich gyrfa. Gobeithio y byddwch yn ymuno â'n cymuned gefnogol a chroesawgar wrth i chi ddechrau ar eich taith gyffrous i wella bywydau cleifion.
Pam astudio gyda ni?
100 mlynedd o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil
Rydym yn Ysgol glos a hirsefydlog ar ôl dathlu ein canmlwyddiant yn ddiweddar.
Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Uchaf
Yn ôl The Complete University Guide 2020, rydym ymlith yr Ysgolion gorau yng Nghymru a Lloegr,
Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol gyntaf ar y cyd ar gyfer ymchwil
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, rydym yn un o’r ddwy Ysgol Fferylliaeth orau ar gyfer ansawdd ac effaith ein hymchwil.
Datblygu ymarferwyr fferyllol o'r safon uchaf
Pasiodd 82% o'n myfyrwyr a safodd arholiad cyn-gofrestru'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn 2019 y tro cyntaf, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol cyffredinol o 72%
Rhagolygon gyrfa gwych
Mae 100% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio.
Cryfhau gwasanaethau fferyllol
Mae gennym ystod o weithgareddau addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a ddyluniwyd ar gyfer myfyrwyr a dysgwyr Cymraeg er budd darparu gofal iechyd.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgwrs
Cyflwyniad i'n cwrs israddedig MPharm
Mae'r fideo hon gan ein Cyfarwyddwr Derbyniadau a Recriwtio, Dr Allan Cosslett, yn rhoi trosolwg cynhwysfawr ar sut i ddod yn fferyllydd, yr opsiynau gyrfa amrywiol sydd ar gael ichi ynghyd â gwybodaeth am ein cwrs MPharm ac ein Hysgol. Peidiwch â cholli ein hawgrymiadau ar gyfer gwneud cais!

Beth mae fferyllwyr heddiw yn ei wneud
Mae fferyllwyr yn arbenigwyr ym maes cyffuriau a meddyginiaethau a gallant fod yn rhan o unrhyw agwedd ar baratoi a defnyddio cyffuriau. Mae hynny'n cynnwys darganfod meddyginiaethau, dod o hyd i'r ffordd orau i roi cyffuriau, eu cyflenwi i gleifion a gwneud y gorau o therapi cyffuriau.
Mae llawer o fferyllwyr heddiw bellach yn gymwys i ragnodi meddyginiaethau yn annibynnol ar feddyg ac maent ar reng flaen y ddarpariaeth gofal iechyd. Maent yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi cleifion a gwella eu hiechyd a'u lles.
Darganfyddwch fwy am ein Hysgol
Rydym yn angerddol am y proffesiwn fferylliaeth. Mae ein haddysgu yn cael ei lywio a'i gefnogi gan ein hymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae ein tîm o ymchwilwyr sy’n arwain y byd yn gweithio ar ddarganfod, datblygu a defnyddio cyffuriau a meddyginiaethau i fynd i’r afael â rhai o’r cyflyrau meddygol mwyaf gwanychol a bygwth bywyd fel Clefyd Alzheimer, Clefyd Parkinson, canser, diabetes a chlefydau heintus.
Darganfyddwch fwy am ein Hysgol a ymchwil arloesol a sut mae ein hymchwilwyr ymroddedig yn paratoi'r ffordd wrth greu dulliau newydd ac effeithiol ar gyfer cyflwyno'r cyffuriau hyn ac archwilio sut y gellir eu defnyddio i drin afiechyd yn well. Yr un tîm o ymchwilwyr ydyw, yn ogystal ag ymarferwyr arbenigol allanol, sy'n dysgu ein myfyrwyr fferylliaeth ac yn ysbrydoli ymchwil y dyfodol.
Y peth gorau am yr MPharm yw cael eich addysgu gan staff sy'n arwain y byd yn eu meysydd. Rydyn ni'n cael siarad â phobl sy'n siapio byd fferylliaeth, ac yn gwneud yr ymchwil a'r datblygu a fydd yn sail i driniaethau'r dyfodol. Rwyf wedi cael cyfle i dreulio amser dramor, cael fy newis ar gyfer sawl gwobr a chynrychioli ein corff proffesiynol, yr RPS. Rwyf wedi cael amser gwych yma.
Sut rydyn ni'n addysgu a barn ein myfyrwyr amdanon ni
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein llyfryn fferyllfa
Lawrlwytho llyfryn
Prosbectws israddedig
Gweld ein llyfryn
Cysylltwch
Cyflwynwch eich cwestiwn trwy ein ffurflen ymholiadau a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.