
Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant
Ymunwch â ni i astudio materion megis effaith y cyfryngau cymdeithasol, rôl cyfathrebu corfforaethol neu pam fo newyddiaduraeth o safon uchel yn bwysicach nag erioed yn oes y ‘newyddion ffug’.
Pam astudio gyda ni?
Rydym yn cynnig amgylchedd eithriadol i ddysgu, meddwl a datblygu sgiliau personol a phroffesiynol hanfodol gyda phwyslais ar chwilfrydedd ysgolheigaidd, trafodaeth ddeallus a meddwl yn greadigol. Mae ein graddedigion yn defnyddio eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hangerdd i ddilyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, y diwydiannau creadigol a busnes.
Cyflogadwyedd
Roedd 96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Addysg gan arbenigwyr
Mae ein staff arbenigol a phrofiadol yn cynnwys rhai o awduron, ymchwilwyr a meddylwyr mwyaf blaenllaw y byd yn ogystal â chydweithwyr proffesiynol o’r maes newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau.
Cysylltiadau da
Byddwch chi’n gweithio yng nghanol ardal cyfryngau fywiog Caerdydd mewn cyfleuster pwrpasol drws nesaf at adeilad newydd BBC Cymru/Wales.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau a'n fideos
Cyfryngau sy'n cyfri
Mae diwydiant y cyfryngau yn diffinio ein diwylliant a sut rydym yn byw. Felly, mae hyfforddi pobl gyda’r sgiliau addas a’r gwerthoedd cryfion i weithio yn y diwydiant cyfryngau yn hanfodol bwysig ac yn gofyn am ganolfannau rhagoriaeth fel Prifysgol Caerdydd i ymchwilio a deall y diwydiant cyfryngau modern.
Ceir cyfleoedd i siarad â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn ystod eich gradd, ac mae’r berthynas waith rhwng darlithwyr a myfyrwyr o’r radd flaenaf.
Sylfaen llwyddiant
Lansio eich gyrfa gyda ni
Cwrdd â newyddiadurwr, arweinydd digidol a chyflwynydd – Kathryn Charles
Newyddiadurwr ITV Cymru Wales Kathryn Charles (Tresilian yn y fideo) yn egluro sut y gwnaeth astudio materion cyfoes, gwleidyddiaeth y byd, hysbysebu a cysylltiadau cyhoeddus ei helpu i fod yn newyddiadurwr llwyddiannus ac effeithiol.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Gweld yr holl gyrsiau israddedig newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant
Cymerwch olwg ar ein cyrsiau israddedig ar gyfer 2021.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.