
Cymraeg
Pa fath o brofiad gallwch chi ei ddisgwyl wrth astudio Cymraeg yn y brifddinas? Fel y pwnc, bydd yn amrywiol, yn gyffrous ac yn datblygu’n gyson.
Pam astudio gyda ni?
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf. Ymunwch â ni a helpu i lunio dyfodol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd Cymru. Rydym yn cynnig meysydd astudio unigryw - astudiaethau cyfieithu, treftadaeth a thwristiaeth, ieithyddiaeth gymdeithasol, caffael iaith, tafodieitheg, llenyddiaeth - sy'n berthnasol i'r Gymraeg yng Nghymru heddiw.
Dyddiau hapus
Mae ein myfyrwyr yn mwynhau eu cyfnod yma ac mae 94% yn fodlon gyda’u profiad (NSS 2020).
Rhagolygon gyrfaol ardderchog
Roedd 91% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu'n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio (Arolwg DLHE 2016/17).
Astudio dau bwnc mewn un radd
Cyfunwch y Gymraeg â phwnc arall sy’n agos at eich calon - mae gennym ni lawer o raglenni cydanrhydedd i ddewis ohonynt.
Cyrsiau
Ein sgyrsiau a'n fideos
Make your mark in modern Wales, and beyond
Our alumni go into a range of different roles across the public, private and third sector, with many contributing significantly to Wales’ social, political and cultural landscapes. Catch up with some of our recent graduates as they reflect on how their academic experiences with us helped support, and inform, their career development. (This video is only available in Welsh)
Heb os, dilyn y radd BA yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg oedd un o benderfyniadau gorau fy mywyd. Uchafbwynt fy nghyfnod yn yr ysgol oedd treulio mis o brofiad gwaith yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, ar ôl ennill ysgoloriaeth gan yr Ysgol. Roedd y profiad hwnnw yn goron ar dair blynedd fythgofiadwy yn yr ysgol.
Eich profiad yng Nghaerdydd
Dod i'n hadnabod ni
Mae Ysgol y Gymraeg yn gymuned glòs gyda dulliau dysgu arloesol a safonau uchel. Mae’r holl staff mor gefnogol, angerddol, brwdfrydig ac yn barod i helpu bob amser, ac wedi gwneud y darlithoedd yn bleserus, sbarduno fy niddordeb mewn gwahanol feysydd ac wedi gwneud yr Ysgol yn lle cyffrous i astudio.

Rhagor o wybodaeth am ein Hysgol
Rydyn ni wedi ein lleoli yn Adeilad John Percival ar gampws Parc Cathays. Ychydig funudau o Undeb y Myfyrwyr, o lyfrgelloedd ac o wasanaethau cymorth y Brifysgol, gallwch chi hefyd gerdded i ganol y ddinas mewn 10 munud.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Edrychwch ar ein holl gyrsiau Cymraeg
Cymerwch olwg ar ein cyrsiau israddedig ar gyfer 2021.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
HESA data: Copyright Higher Education Statistics Agency Limited 2020. The Higher Education Statistics Agency Limited cannot accept responsibility for any inferences or conclusions derived by third parties from its data. Data is from the latest Graduate Outcomes Survey 2017/18, published by HESA in June 2020.