Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg a Cherddoriaeth gyda Blwyddyn Dramor (BA)

  • Meysydd pwnc: Mathemateg, Cerddoriaeth
  • Côd UCAS: GW31
  • Derbyniad nesaf: Medi 2023
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae'r radd Gydanrhydedd hon yn galluogi myfyrwyr i gyfuno astudio Cerddoriaeth a Mathemateg â blwyddyn sy'n llawn antur yn astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor.

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd.

building

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Mae Abacws, cartref newydd Mathemateg, yn cynnwys mannau pwrpasol i fyfyrwyr wneud gwaith prosiect, mannau ar gyfer partneriaid yn y diwydiant ac Ystafell Fasnachu.

certificate

Yr offeryn o’ch dewis

Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.

people

Cefnogaeth bersonol

Cyngor academaidd ac anacademaidd gan eich tiwtor; labordai cyfrifiadurol wedi’u goruchwylio a sesiynau galw heibio bob dydd.

structure

Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth

Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.

Fel myfyriwr Cerddoriaeth a Mathemateg cydanrhydedd, fe welwch chi fod meysydd a safbwyntiau ategol, yn ogystal â sgiliau, sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Byddwch yn treulio swm tebyg o amser ar bob pwnc, yn datblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau cerddorol wrth astudio pwnc cyfareddol a heriol Mathemateg.

Mae'r cwrs pedair blynedd hwn yn caniatáu ichi dreulio'r drydedd flwyddyn yn ehangu'ch gorwelion trwy astudio dramor.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gref o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ym mhrif feysydd mathemateg, ochr yn ochr â phrofiad o ystod o ddisgyblaethau cerddorol, gan gynnwys perfformiad, cyfansoddi, cerddoleg hanesyddol a beirniadol, ethnogerddoleg ac acwsteg.

Byddwch yn ymgyfarwyddo â chysyniadau mathemategol haniaethol, dadl resymegol a rhesymu diddwythol, wrth i chi adeiladu portffolio o sgiliau sy'n gysylltiedig â gallu cerddorol llythrennog.

Yn ddiweddarach yn y cwrs gallwch astudio pynciau mathemategol uwch priodol ac o leiaf un maes o arbenigedd cerddorol.

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi symud i feysydd cerddoriaeth-benodol fel perfformio a chyfansoddi, astudio ôl-raddedig mewn mathemateg a cherddoriaeth ac amrywiol rolau sydd angen dull rhifog neu ddadansoddol.

Mae Caerdydd yn lle gwych ar gyfer astudio cerddoriaeth yn y DU, gan ei bod yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC. Gall myfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth fynychu ymarferion a phrynu tocynnau am bris gostyngol ar gyfer cyngherddau.

Mae disgwyl i chi fod wedi cyrraedd neu fod wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un neu ragor o offerynnau, neu lais, ar adeg gwneud eich cais. Efallai y cewch chi eich ystyried os nad ydych chi’n astudio Cerddoriaeth Safon Uwch ond bod gennych chi Radd 7/8 Theori (neu'n gweithio tuag ati) a’ch bod chi’n astudio pynciau Dyniaethau priodol ar Safon Uwch.

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Maes pwnc: Cerddoriaeth

  • academic-schoolYr Ysgol Cerddoriaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4392
  • Marker31 Heol Corbett, Cathays, Caerdydd, CF10 3EB

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys gradd A mewn Mathemateg a gradd B mewn Cerddoriaeth.

Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Mathemateg Lefel Uwch.

Bydd ymgeiswyr heb Lefel Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

Graddau DD mewn Diploma BTEC mewn Cerddoriaeth, yn ogystal â gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Bydd ymgeiswyr heb BTEC mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).



Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2023. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2023 i ddangos y newidiadau.

Gradd dair blynedd amser lawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddwy Ysgol. 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o’rmodiwlau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

O ran Cerddoriaeth, mae’r flwyddyn gyntaf yn eich paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Byddwch yn cael hyfforddiant creiddiol mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol.

Mae pob myfyriwr BA yn cael rhwydd hynt i ddewis o'r pynciau hyn, os ydynt ar gael.

I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.

O ran Mathemateg, mae blwyddyn un yn cynnwys pedwar modiwl gorfodol. Y rhain yw Sylfeini Mathemateg I, Fectorau a Matricsau, Sylfeini Mathemateg a Hafaliadau Differol Elfennol.

Sylwer bod rhai modiwlau yn y ddau bwnc yn 'rhagofynion' sy'n rhoi paratoad hanfodol ar gyfer modiwlau mwy datblygedig os ydych chi’n dymuno eu dilyn mewn blynyddoedd diweddarach.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Elementary Differential EquationsMA100110 Credydau
Foundations of Mathematics IMA100520 Credydau
Foundations of Mathematics IIMA100620 Credydau
Linear Algebra IMA100810 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Composition 1AMU110710 Credydau
Elements of Tonal Music 1MU112520 Credydau
The Full WorksMU112820 Credydau
From Page to Stage: Dramaturgy in Musical TheatreMU112910 Credydau
Composition 1BMU120810 Credydau
Elements of Tonal Music 2MU122720 Credydau
Ethnomusicology 1: Music in Human LifeMU123310 Credydau
Rewinding PopMU123410 Credydau
Practical Musicianship 1MU131410 Credydau
Repertoire StudiesMU131720 Credydau
Practical Portfolio IMU131910 Credydau

Blwyddyn dau

O ran Cerddoriaeth, mae cyrsiau yn fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: Cyfansoddi ac Astudiaethau Electroacwstig, Dawn Gerddorol Ysgrifenedig ac Ymarferol, Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol, ac Astudiaethau Hanesyddol.

Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

O ran Mathemateg, gweler y rhestr modiwlau i weld manylion y modiwlau unigol sydd ar gael.

Noder nad yw Ystadegau ar gael fel maes pwnc i fyfyrwyr sy'n dilyn Cerddoriaeth.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir blwyddyn tri yn astudio dramor. Mae gan y Brifysgol gysylltiadau academaidd yn Ffrainc, Gwlad Belg, y Swistir, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, Awstralia, Canada a'r Unol Daleithiau. Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio dramor hawl i'w benthyciadau arferol ac mae grantiau teithio ar gael gan Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys i wneud cais am grant Erasmus.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad ac yn monitro eich cynnydd. Byddwch hefyd yn cael tiwtor personol yn y sefydliad sy'n eich derbyn.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Study AbroadMU2400120 Credydau

Blwyddyn pedwar

O ran Cerddoriaeth, fe fyddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, a chewch fynd ar drywydd un o'r tri phrosiect academaidd o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth.

Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'agored' o flaen arholwyr a chynulleidfa a wahoddir (Dawn Gerddorol Ymarferol IV).

Nid oes modiwlau craidd ar gyfer Mathemateg ym mlwyddyn pedwar.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

O ran Cerddoriaeth, cewch eich addysgu gan staff academaidd gydag arbenigedd ar draws cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg a cherddoriaeth boblogaidd.

Mae eich hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, os ydych chi'n astudio Modiwl Sgiliau Cerddorol Ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.

Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion ac astudio annibynnol.

Mae Mathemateg yn seiliedig ar ddarlithoedd wedi eu hategu gan ddosbarthiadau enghreifftiol (a dosbarthiadau labordy lle bo'n briodol). Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, ac ymwneud yn llawn a myfyrio ar yr asesiadau a gaiff eu cynnal. Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.

Sut y caf fy nghefnogi?

O ran Cerddoriaeth, ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.

Ar gyfer prosiectau’r flwyddyn olaf, byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.

Mewn Mathemateg mae tiwtorialau academaidd wedi eu trefnu ar gyfer pob modiwl craidd ym Mlwyddyn Un, a byddwch hefyd yn cael tiwtor personol sy'n gallu cynnig cyngor, arweiniad a chymorth bugeiliol i chi. Mae gwasanaeth galw heibio bob dydd yn yr Ysgol, hefyd, lle gallwch ofyn unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â Mathemateg.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Methods of assessment vary from module to module and may include essay assignments, presentations, extended projects, performances, and written exams.

NOTE: The University welcomes applications from disabled students and we may be able to offer alternative assessment methods. However, this may not always be possible, for example where performance is a mode of assessment in a performance module.  Such competence standards may limit the availability of adjustments or alternative assessments. For assessment details, please refer to the module descriptions.

Many mathematics modules include written examinations that take place at the end of the Autumn or Spring Semester, with some also having an element of continuous assessment. This may include problem solving exercises, written reports, computer programs or presentations.  Please see the module descriptions for further details.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:

  • llythrennedd datblygedig
  • llythrennedd cyfrifiadurol
  • meddwl yn rhesymegol a dadansoddol am broblemau
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
  • creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli, yn rhan annatod o weithgareddau cerddorol ymarferol
  • nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
  • aeddfedrwydd a hunanhyder o dreulio blwyddyn yn astudio dramor

Gwybodaeth arall

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu ystod eang o opsiynau modiwl lle bo modd, ond er y gwneir pob ymdrech i gynnig dewis, dylech fod yn ymwybodol y gallai hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fod wedi dilyn rhai pynciau penodol yn barod cyn cael lle ar rai modiwlau, ac mae modiwlau eraill yn rhai craidd neu'n ofynnol ar eich rhaglen ddewisol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Musicians

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

​Ysgol Cerddoriaeth

Yn 2015-16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.

Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli’r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.

​Ysgol Mathemateg

Bydd y rhaglenni gradd Mathemateg yng Nghaerdydd yn eich arfogi â sgiliau rhifiadol arbenigol ac yn datblygu eich gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn ddadansoddol. Mae'r rhain yn nodweddion y mae galw amdanynt ar draws amrywiaeth eang o yrfaoedd ysgogol a gwerth chweil.

Yn ogystal â’r addysg ffurfiol ar y rhaglen, mae’r Ysgol Mathemateg hefyd yn ymgysylltu'n helaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogwyr. Mae hyn yn cynnwys Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, nifer o gyflwyniadau gan gwmnïau yn yr Ysgol, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a noddir ar gyfer cyflawniad academaidd.

Lleoliadau

Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 17% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.