
Therapi Galwedigaethol
Our Occupational Therapy programme is ranked 1st in the UK by the Complete University Guide 2021.
Pam y dylech astudio gyda ni
1af yn y DU
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen Therapi Galwedigaethol yw’r un orau yn y DU.
Ein cysylltiadau
Mae gennym gysylltiadau agos â Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol ac â chyrff a sefydliadau proffesiynol allweddol eraill.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgwrs
Mae'r Tiwtor Derbyn Therapi Galwedigaethol (BSc), Dr Heather Hurst, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.
Dewisais ddod i Brifysgol Caerdydd oherwydd fy mod am gael yr addysg orau a fyddai'n fy ngalluogi i fod yn Therapydd Galwedigaethol.
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae Amy, myfyriwr Therapi Galwedigaethol yn y drydedd flwyddyn (BSc) yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.
Mae Prifysgol Caerdydd yn fy mharatoi'n dda ar gyfer yr hyn sy'n dod nesaf. Cefais flas go iawn ar y cyfleoedd sydd ar gael i mi, yn sgil fy lleoliadau, ac rwy'n gwybod bod cyflogwyr yn awyddus i gael ceisiadau gan raddedigion Prifysgol Caerdydd. Weithiau mae'r cwrs yn heriol ond mae mor werth chweil.
Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau

Cyfleoedd gofal iechyd byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol. Yn 2019, teithiodd dros 100 o fyfyrwyr israddedig gofal iechyd a chawsant brofiad o ofal iechyd dramor.
Ble yn y byd y byddech chi'n mynd?
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Ein rhaglen Therapi Galwedigaethol (BSc)
Ewch i'n tudalen rhaglen i gael gwybod am ofynion mynediad, ffioedd dysgu a mwy.
Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.