
Cerddoriaeth
Rydym yn cynnig hyfforddiant cerddorol trylwyr ac astudiaethau academaidd ac artistig ysgogol mewn amgylchedd cyfeillgar, colegol a chreadigol.
Pam astudio gyda ni?
Mae ein graddau mewn cerddoriaeth yn cynnig paratoad proffesiynol rhagorol ac maent yn hyblyg iawn, gan eich galluogi i archwilio eich diddordebau cerddorol eich hunain. Rydym yn ymroddedig i waith addysgu rhagorol, sydd wedi'i lywio gan ein hymchwil gerddorol o ansawdd uchel.
Creu cerddoriaeth
Ensemble ysgol wedi'u cyfarwyddo gan gerddorion proffesiynol
Ar ôl graddio
Roedd 97% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Lleoliadau gwaith
Cyfle i gyflawni lleoliad gwaith yn eich ail flwyddyn.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau a'n fideos
Clyweliadau yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Bydd pob myfyriwr anrhydedd sengl sy'n gwneud cais i astudio yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn cael ei wahodd i fynd i glyweliad. Mae'r tiwtor Dr Carlo Cenciarelli a rhai o'n myfyrwyr yn trafod yr hyn y gallwch ei ddisgwyl, a sut i baratoi ar gyfer eich clyweliad.
Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn hollol anhygoel o ran sut mae wedi cefnogi myfyrwyr a'u helpu i dyfu yn ystod eu hastudiaethau. Mae'r cyfleoedd sydd ar gael inni bob amser yn llawn brwdfrydedd a gwybodaeth. Mae buddiannau’r myfyrwyr yn agos at galon pob un o staff yr ysgol sydd wedi ymroi i gynnig y profiad gorau posibl.
Mwy amdanom ni

Hyfforddiant cerddorol trylwyr mewn amgylchedd celfyddydau breiniol bywiog a llawn dychymyg
Mae gan ein hadeilad pwrpasol yr holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau gan gynnwys dros 25 o ystafelloedd ymarfer, ystafelloedd ensemble a stiwdios electroacwstig.
Rydyn ni’n cynnal ystod o gyngherddau proffesiynol ar gyfer y cyhoedd yn ogystal â digwyddiadau dan arweiniad myfyrwyr yn ein neuadd gyngerdd sydd â 250 o seddi.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Pori drwy ein cyrsiau israddedig ym maes cerddoriaeth
Edrych ar ein cyrsiau.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.