Mathemateg
Mae ein hymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yn helpu i lywio ein portffolio o raddau hyblyg sy'n gyffrous yn ddeallusol. Bydd hyn yn eich galluogi i ddilyn eich ddiddordebau mathemategol wrth i chi ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a mathemategol, fydd yn eich paratoi at amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous.
Pam astudio gyda ni
Datblygiad proffesiynol
Un o'r rhaglenni datblygiad proffesiynol cryfaf ar gyfer israddedigion yn y DU.
Astudio a gweithio dramor
Rydym yn cynnig y cyfle i astudio yn un o'n prifysgolion partneriaeth dramor. Astudiwch yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig ac ysbrydoledig y byd gan gynnwys; Paris, Berlin, Milan a Barcelona.
Graddau achrededig
Achredir ein holl gyrsiau gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau
Astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae ein staff a’n myfyrwyr wedi creu nifer o fideos gwahanol i’ch tywys drwy agweddau amrywiol ar y profiad o astudio yma yn yr Ysgol Mathemateg. Gobeithiwn y cewch flas go iawn ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl fel myfyriwr mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ac y gallwn ateb y cwestiynau niferus a allai fod gennych wrth i chi ystyried pa Brifysgol sy’n iawn i chi.
Yn y fideo cyntaf hwn, bydd y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr, Dr Jonathan Gillard yn trafod popeth sydd angen i chi ei wybod am astudio mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys gwybodaeth am yr Ysgol, graddau, amgylchedd dysgu a'r gefnogaeth sydd ar gael.
Mwy o resymau dros ddewis yr Ysgol Mathemateg
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Edrychwch ar holl gyrsiau'r Ysgol Mathemateg yng Nghaerdydd
Archwilio ein cyrsiau
Lawrlwytho llyfryn yr Ysgol Mathemateg
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a'r Brifysgol ehangach.
Cysylltwch â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.