Llety
Mae ein gwarant o lety yn sicrhau bod myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy'n cyrraedd ym mis Medi yn gallu byw mewn un ystafell wely astudio sydd wrth ymyl myfyrwyr newydd eraill.
Dod o hyd i'r llety cywir i chi
Mae gennym amrywiaeth o neuaddau a lletai sy’n addas i’r hyn sydd orau gennych, eich diddordebau a’ch cyllideb.
Llety i ôl-raddedigion
Llety i israddedigion
Llety i israddedigion sy'n astudio gofal iechyd
Gallwch wneud cais ar gyfer llety'r Brifysgol unwaith y byddwch wedi cael eich cynnig a'i dderbyn i astudio yma. Gall gymryd hyd at 48 awr ar ôl i chi gadarnhau eich bod yn derbyn eich cynnig i astudio, nes byddwch yn gallu defnyddio’r system i wneud cais am lety.
Mae'r rhan fwyaf o'n llety yng nghanol y ddinas ac o fewn pellter cerdded byr i'r Brifysgol. Bydd ein rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid myfyrwyr yn eich helpu i ymgartrefu'n gyflym a chwrdd â phobl newydd.
Mae gennym ystod o lety i ddiwallu dewisiadau a chyllidebau unigol; gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr LGBT+, siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, teuluoedd a chyplau, a dewisiadau byw'n dawel.
Mae llety wedi'i addasu'n arbennig ar gael, yn enwedig ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a myfyrwyr â nam ar eu clyw. Gallwn hefyd wneud addasiadau rhesymol i ystafell i gefnogi myfyrwyr ag anabledd.

Welsh language Residences Guide
Llawylyfr am fyw yn Llety'r Brifysgol
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Llety i fyfyrwyr dros yr haf
Mae gan y Brifysgol lety hunanarlwyo sydd ar gael yn ystod yr haf.