
Meddygaeth
Diddordeb mewn bod yn feddyg? Mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol am astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd i’ch rhoi ar ben ffordd.
Pam astudio gyda ni?
Cyswllt cynnar â chleifion
Byddwn yn delio â chleifion go iawn mor gynnar â'r flwyddyn gyntaf ar ein cwrs Meddygaeth.
Rhagolygon gyrfa ardderchog
Mae 100% o'n myfyrwyr meddygol mewn swyddi a/neu'n gwneud astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.
Gwobr Busnes y Flwyddyn Admiral
Enillom y wobr hon yn 2018 oherwydd ein haddysgu sgiliau cyfathrebu.
Cyrsiau

Sut rydyn ni'n addasu i COVID-19
Mae'r pandemig yn gofyn am newid cwricwlwm ar gyfer pob ysgol feddygol ond rydym wedi arfer â hynny: fel rhaglen Meddygaeth arloesol rydym wastad yn ymateb i her ac rydym yn gwneud hynny nawr.
Rydym yn optimistaidd ond yn ymarferol, felly rydym yn cynllunio ar gyfer sawl senario. Gallwn addo i chi y byddwch yn cyflawni eich deilliannau dysgu trwy gydol eich cwrs. Ym Mlynyddoedd 1-2, rydym yn disgwyl i chi fod yn dysgu yng Nghaerdydd neu ar leoliad, gyda chyfuniad o gyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb ac e-Ddysgu. Bydd myfyrwyr yn cael eu hystyried yn weithwyr allweddol a bydd myfyrwyr ym Mlynyddoedd 3-3 yn parhau i fod ar leoliad ledled Cymru.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig ac rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraeth Cymru a'r GIG i sicrhau hyn. Lle mae risg yn annerbyniol, byddwn yn trafod gohirio astudiaethau (seibiant dysgu) gyda chi. Rydym hefyd yn gwybod y bydd y sefyllfa hon yn newid dros amser, felly rydym yn barod i newid ein cynlluniau hefyd.
Rhagor o wybodaeth am astudio meddygaeth gyda ni

Mae meddygaeth yn yrfa anhygoel. Byddai heriol, cyffrous a gwobrwyol yn rhai o’r geiriau y baswn yn eu defnyddio i’w disgrifio. Rwy’n siŵr y bydd gennych eich geiriau eich hun, ac mae’r sefyllfa ar hyn o bryd yn atgyfnerthu gwerth gweithlu gofal iechyd sydd wedi’u hyfforddi’n dda. Yn ogystal â’n fideos a chyflwyniadau gan ein staff academaidd, mae ein taith dywys yn eich galluogi i siarad â myfyrwyr sy’n astudio yn yr Ysgol Meddygaeth ar hyn o bryd i gael gwybod yn union pam maen nhw’n eich argymell i ddechrau eich gyrfa fel meddyg gydag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Sut byddaf i'n dysgu?
Cyflwyniad i’r Canolfannau Efelychu a Sgiliau Clinigol
Mae ein Canolfannau Efelychu a Sgiliau Clinigol yn llawn cyfarpar modern ac arbenigol ac yn cynnig cyfleusterau diogel lle gallwch ddatblygu sgiliau ymarferol ac ennill profiad gwerthfawr. Rydym am i chi ddeall sut i ymdrin yn ddiogel ac yn ddiffwdan â sefyllfaoedd sy'n codi, fel eich bod yn barod am eich diwrnod cyntaf fel meddyg iau.
Cwrs hyblyg
Mae ein rhaglen MBBCh Meddygaeth, o’r enw C21, yn cynnig hyblygrwydd a dewis i chi, nid yn unig mewn sut rydych yn cyflwyno cais, ond ble rydych yn bwriadu astudio.

Meddygaeth: gogledd Cymru (MBBCh)
Gan ddibynnu ar ba lwybr a ddewiswch wrth gyflwyno cais, mae C21 yn eich galluogi i ddewis opsiwn o fod yng ngogledd Cymru am eich holl raglen neu’n rhan ohoni, gan raddio o hyd gyda gradd MBBCh uchel ei bri o Brifysgol Caerdydd.
Bywyd fel myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd
Rydym yn falch o’n myfyrwyr meddygol ac wir yn credu ein bod yn cynnig y profiad gorau posibl iddynt. Ond peidiwch â chymryd ein gair yn unig, gadewch i’n myfyrwyr ddweud rhagor wrthych chi...
Gan fy mod wedi gwirfoddoli i wneud fy mloc SSA yn fy mlwyddyn olaf, roedd dechrau ar wardiau COVID yma yn ysbyty Glan Clwyd ychydig yn llethol! Serch hyn, mae'n rhaid i mi ddweud bod y staff wedi bod mor groesawgar ac rwy'n teimlo'n gartrefol yn barod er fy mod i yma ers llai nag wythnos! Felly, rwyf wedi mynd o deimlo fy mod i'n dysgu nofio mewn dŵr dwfn i deimlo'n rhan o dîm o ymladdwyr COVID cryf. Rwy'n atgoffa fy hun beth bynnag wyf yn ei bryderu amdano, dyw hynny'n ddim o'i gymharu â'r pryder mae ein cleifion yn ei deimlo wrth frwydro'r clefyd yma ac mae hynny'n fy atgoffa pam y dewisais yr yrfa ryfeddol hon. Rwyf mor falch i ddechrau gyda'r GIG yn y cyfnod digynsail hwn a byddaf i'n fythol ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd am fy nghael i yma.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Ein rhaglen radd a'n llwybrau at Feddygaeth
Manylion am sut gall Cymdeithas Feddygol Prydain eich helpu i fod yn feddyg.
Prawf Tueddfryd Clinigol y Brifysgol ar gyfer Meddygaeth a Deintyddiaeth (UCAT) 2021 - Prawf derbyn myfyrwyr yw UCAT. Caiff ei ddefnyddio gan gonsortiwm o Brifysgolion y DU ar gyfer derbyn myfyrwyr ar eu rhaglenni gradd meddygol a deintyddol.

Rhaglen radd israddedig Ysgol Meddygaeth - Mynediad 2022
Mae ein rhaglen i israddedigion yn rhoi manylion llawn am beth sydd gennym i'w gynnig.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Llwybrau at Feddygaeth
Pa lwybr i feddygaeth yw’r un iawn i chi a pha mor hir y bydd yn ei gymryd?
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Pasbort at Feddygaeth
Beth sydd rhaid i mi ei wneud i fod yn fyfyriwr meddygaeth?
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Ystyried gwneud cais i astudio Meddygaeth?
Adnoddau i ddarpar fyfyrwyr.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Camau nesaf
Edrychwch ar holl gyrsiau’r Ysgol Meddygaeth
Porwch drwy ein cyrsiau israddedig.
Sut i wneud cais
Diddordeb mewn astudio gyda ni? Dysgwch ragor am sut i gyflwyno cais.
Polisïau derbyn
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses gwneud cais.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am astudiaethau ar gyfer israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â ni.