Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Proffesiynol (BSc)

  • Maes pwnc: Mathemateg
  • Côd UCAS: G105
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae’r radd bedair blynedd hon yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl fel mathemategydd neu ystadegydd, gyda thâl, mewn sefydliad o’ch dewis.

briefcase

Blwyddyn ar leoliad proffesiynol

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn mewn gwaith cyflogedig mewn rôl mathemategydd neu ystadegydd lle gallwch ennill profiad gwaith gwerthfawr a datblygu eich sgiliau proffesiynol. Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant a thîm lleoliadau penodol i'ch cynorthwyo i ganfod lleoliad a chymorth yn ystod eich cyfnod yma.

rosette

Ystyriaeth am ddyfarniad proffesiynol

Os ydych chi’n cwblhau’r cyfnod hyfforddiant proffesiynol gallwch gael eich ystyried ar gyfer dyfarniad Uwch Drwydded City and Guilds (LCGI).

tick

Cynlluniau gradd hyblyg

Yn y rhan fwyaf o achosion, rydych chi’n rhydd i symud rhwng graddau ar ddiwedd blwyddyn un os bydd eich diddordebau’n newid. Bydd gennych y cyfle hefyd i gwblhau Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol neu Flwyddyn Dramor rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn. Nid oes rhaid i chi ymrwymo i’r naill na’r llall o’r opsiynau hyn nes dechrau eich ail flwyddyn, felly mae digon o amser i chi benderfynu.

people

Gwasanaethau cymorth

Mae eich tiwtor personol yno i gynnig cyngor, yn gyfrinachol, ar faterion academaidd ac anacademaidd. Gallwch hefyd fanteisio ar diwtorialau wythnosol, labordai cyfrifiadurol wedi'u goruchwylio a sesiynau galw heibio ar gyfer cymorth un-i-un.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch yn cael eich addysgu yn Abacws, cartref newydd yr Ysgol Mathemateg. Mae’r adeilad blaenllaw hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, ac mae mannau addysgu arloesol yn nodwedd allweddol, gan gynnwys Ystafell Masnachu efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol.

Ennill profiad ymarferol gwerthfawr a datblygu eich sgiliau proffesiynol wrth ymchwilio'n ddyfnach i fyd hynod ddiddorol mathemateg.

Mae cyflogwyr yn parchu cymhwyster mathemateg yn fawr. Bydd y galluoedd rhifyddol a’r sgiliau meddwl yn rhesymegol a datrys problemau y byddwch yn eu datblygu n eich galluogi i ymgymryd ag ystod eang o rolau.

Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'r radd yn cynnwys blwyddyn o waith cyflogedig mewn rôl mathemategydd a/neu ystadegydd yn ystod blwyddyn tri. Byddwch yn dychwelyd i Gaerdydd ar ôl cwblhau lleoliad gwaith llwyddiannus ar ddechrau semester yr hydref ar gyfer eich blwyddyn olaf o astudiaethau.

Mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion, gall lleoliad eich helpu i sicrhau sgiliau a phrofiad ychwanegol fydd yn sicrhau eich bod yn sefyll allan. Gallai eich helpu i gael rôl barhaol ar ôl graddio, yn ogystal â chynnig cyd-destun o’r byd go iawn i gefnogi eich astudiaethau. Os nad ydych chi’n sicr pa lwybr gyrfa i’w ddilyn, mae’n gyfle gwych i archwilio’ch opsiynau a gallai hyd yn oed eich helpu i wneud y penderfyniadau hanfodol hynny am eich dyfodol.

Mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant yn rhoi ystod eang o ddarparwyr lleoliadau i chi ddewis ohonynt. Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau cyffrous mewn sefydliadau gan gynnwys:

  • Cyllid a Thollau EM
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • GIG Cymru
  • Nationwide
  • BAE Systems
  • IBM
  • Disney

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i'r rhain gynnwys cynnwys gradd A mewn Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd 6 mewn Dadansoddiad a Dulliau Mathemateg neu Fathemateg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Ni fydd cyfweliadau. Mae'r dewis wedi'i seilio'n gyfan gwbl ar berfformiad Safon Uwch (neu gyfwerth). Bydd ymgeiswyr cyd-destunol yn cael cynnig a byddant yn amodol i ystyriaeth ychwanegol. Gwahoddir pob ymgeisydd i fynychu diwrnod Agored lle byddant yn ymweld â'r Ysgol Mathemateg a gwneir cynigion i ymgeiswyr sydd â'r potensial i fodloni'r cynnig.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,640 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Ym mhob blwyddyn o’r Rhaglen, byddwch yn cymryd Modiwlau hyd at werth 120 o gredydau. Treulir y ddwy flynedd gyntaf yn astudio Mathemateg. Treulir y drydedd flwyddyn ar leoliad diwydiannol a byddwch yn dychwelyd i gwblhau eich gradd ym mlwyddyn pedwar

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Bydd eich modiwlau craidd ym Mlwyddyn Un yn cwmpasu meysydd sylfaen Calculus, Algebra, Dadansoddi, Cyfrifiadura a Tebygolrwydd. Gallwch hefyd ddewis modiwlau dewisol mewn Ystadegau, Mecaneg a Chyllid.

Mae’r rhan fwyaf o Flwyddyn Un yn gyffredin i'n holl gynlluniau gradd ac felly mae fel arfer yn bosib trosglwyddo i radd Mathemateg arall.

Mae'n ofynnol i chi basio pob modiwl blwyddyn gyntaf a chyflawni cyfartaledd o 50%, o leiaf, i fynd ymlaen i'r cam ymgeisio.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hafaliadau Gwahaniaethol ElfennolMA100110 Credydau
Cyfrifiadura ar gyfer MathemategMA100320 Credydau
GeometregMA100410 Credydau
Sylfeini Mathemateg IMA100520 Credydau
Sylfeini Mathemateg IIMA100620 Credydau
Algebra llinol IMA100810 Credydau
Cyflwyniad i Theori TebygolrwyddMA150010 Credydau

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau, bydd eich modiwlau craidd yn parhau i adeiladu gwybodaeth sylfaenol ym meysydd Calculus, Algebra a Dadansoddi. Mae rhagor o fodiwlau dewisol ar gael, gan gynnwys Mathemateg Bur a Chymhwysol, Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.

Bydd y modiwlau y byddwch yn eu dewis yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer ym Mlwyddyn Pedwar.

Mae croeso i chi drosglwyddo i'r cynllun gradd BSc Mathemateg os ydych chi’n penderfynu peidio â chymryd y Flwyddyn Lleoliad Proffesiynol.

Byddwn yn darparu cymorth a chefnogaeth i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad i baratoi ar gyfer blwyddyn tri, fodd bynnag, chi sy'n gyfrifol am sicrhau lleoliad. Os na allwch gael lleoliad ym Mlwyddyn Dau, cewch eich trosglwyddo i'r radd BSc Mathemateg tair blynedd.

Mae'n ofynnol i chi basio o leiaf 100 credyd i symud ymlaen i'r Flwyddyn Lleoliad Proffesiynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Calculus o sawl newidynMA200110 Credydau
Dadansoddiad CymhlethMA200310 Credydau
Cyfres a ThrawsnewidiadauMA200410 Credydau
Dadansoddiad go iawnMA200610 Credydau
Algebra llinol IIMA200820 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyflwyniad i Theori Rhif IMA201110 Credydau
Algebra I: GrwpiauMA201410 Credydau
Calculus FectorMA230110 Credydau
Dirgryniadau a ThonnauMA230310 Credydau
Modelu gyda Hafaliadau DifferolMA232010 Credydau
Sylfeini Tebygolrwydd ac YstadegauMA250020 Credydau
Ystadegau CyfrifiannolMA250210 Credydau
Seiliau tebygolrwydd ac Ystadegaeth / Sefydliadau Tebygolrwydd ac YstadegauMA255020 Credydau
Ymchwil GweithredolMA260120 Credydau
Ymchwil WeithrediadolMA265120 Credydau
Dadansoddiad RhifiadolMA270110 Credydau
Ymchwiliadau Mathemategol gyda PythonMA276010 Credydau
Cyllid II: Rheoli BuddsoddiMA280010 Credydau
Datrys ProblemauMA290010 Credydau
Datrys ProblemauMA290110 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Ym Mlwyddyn Tri byddwch yn dechrau cyflogaeth cyflogedig, gan weithio fel Mathemategydd neu Ystadegydd mewn sefydliad yn y DU neu yn Ewrop.

Os ydych chi’n cwblhau’r cyfnod hyfforddiant proffesiynol gallwch gael eich ystyried ar gyfer dyfarniad Uwch Drwydded City and Guilds (LCGI).

Cewch gefnogaeth i gyflwyno cais am leoliad, y gellir ei gyflawni ag amrywiaeth eang o ddarparwyr ar draws y diwydiant a’r llywodraeth, gan gynnwys llawer yn y gwasanaethau ariannol, y diwydiant fferyllol, a sefydliadau fel Swyddfa’r Ystadegau Gwladol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hyfforddiant DiwydiannolMA9999120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Ym Mlwyddyn Pedwar, nid oes unrhyw fodiwlau gorfodol ac mae gennych ddewisiadau eang.

Mae gennych yr hyblygrwydd i arbenigo mewn maes penodol o fathemateg, neu gadw at set eang o ddiddordebau ac archwilio sawl maes gwahanol.

Yn ogystal â modiwlau a addysgir, gallwch hefyd ddewis ymgymryd â phrosiect 10 credyd neu 20 credyd unigol sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig – cyfathrebu, cyflwyno a rheoli amser - a chymhwyso eich gwybodaeth fathemategol i ymchwiliad o'ch dewis.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Swyddogaethol a FourierMA300520 Credydau
Theori CodioMA300710 Credydau
Topoleg algebraiddMA300810 Credydau
Cyflwyniad i Theori Rhif 2MA301110 Credydau
Hafaliadau Differol CyffredinMA301210 Credydau
Algebra II: ModrwyauMA301410 Credydau
Algebra III: MeysyddMA301510 Credydau
Hafaliadau Gwahaniaethol RhannolMA301610 Credydau
Mesur TheoriMA301820 Credydau
Dulliau Mathemateg GymhwysolMA330420 Credydau
Dynameg HylifMA330520 Credydau
Finite ElasticityMA331210 Credydau
Modiwl Prosiect (Blwyddyn Gyfan)MA339120 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner)MA339210 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester GwanwynMA339310 Credydau
Dadansoddiad Atchweliad a Dylunio ArbrofolMA350220 Credydau
Prosesau stocastig ar gyfer Cyllid ac YswiriantMA350320 Credydau
Ystadegau SwyddogolMA350410 Credydau
Dadansoddiad Data Aml-amrywiolMA350610 Credydau
Algorithmau a HeuristicsMA360210 Credydau
OptimeiddioMA360320 Credydau
Gêm TheoriMA360410 Credydau
Algorithmau a Dulliau Hewristig / Algorithms and HeuristicsMA365210 Credydau
Mathemateg Deallusrwydd ArtiffisialMA370110 Credydau
Cyllid YmddygiadolMA380010 Credydau
Rheoli Risg MeintiolMA380510 Credydau
Cyflwyniad i addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchraddMA390020 Credydau
Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg Ysgol UwchraddMA390120 Credydau
Modiwl DarllenMA390310 Credydau
Modiwl Darllen (Tymor yr Hydref)MA395210 Credydau
ProsiectMA397020 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester yr HydrefMA397110 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester y GwanwynMA397210 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, tiwtorialau i grwpiau bach, a dosbarthiadau trafod enghreifftiau. Mae Mathemateg yn ddisgyblaeth hierarchaidd, felly mae strwythur y cwrs yn systematig, gan adeiladu ar ddealltwriaeth sylfaenol. Cewch eich annog i ddysgu'n fwyfwy annibynnol drwy gydol y cwrs.

Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, a myfyrio ar asesiadau ac adborth.

Mae'r ddwy flynedd gyntaf yn canolbwyntio ar roi dealltwriaeth sylfaenol. Mae'r flwyddyn olaf yn ymdrin ag ystod o ddeunydd pwnc cyfoes, gan adlewyrchu diddordebau ymchwil yn yr Ysgol. Drwy gydol y gwaith o gyflawni‘r rhaglen, lle bynnag y bo'n bosibl, mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cael eu defnyddio i ddangos enghreifftiau a thaflu goleuni ar y pwnc.

Yn y flwyddyn gyntaf, mae sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach yn cael eu cynnal ym mhob modiwl mathemateg. Mae ymarferion yn rhan annatod o‘r holl fodiwlau sy'n seiliedig ar ddarlithoedd, ac mae'r rhain yn eich galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth a gwella eich sgiliau datrys problemau. Ar hyn o bryd cynhelir dosbarthiadau ymarfer neu enghreifftiau ychwanegol ym mhob modiwl mathemateg. Yn y rhain, bydd darlithydd yn trafod problemau ychwanegol gyda chi, yn rhoi adborth cyffredinol ar lafar ac yn modelu atebion ar gyfer myfyrio pellach.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau pob blwyddyn, byddwch yn cael arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen. Byddwn yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol.

Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol sydd ar gael bob dydd yw'r rhain. Gall myfyrwyr alw heibio i drafod unrhyw elfen o'u hastudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod un i un, neu mewn grŵp bach.

Pan fyddwch chi ar leoliad, bydd staff Academaidd a staff Gwasanaethau Proffesiynol yn ymweld â chi o leiaf ddwywaith. Mae pwyntiau cyswllt a enwir os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau.

Sut caf fy asesu?

Many modules have written examinations at the end of the autumn or spring Semesters, with some also having an element of continuous assessment. This may include problem-solving exercises, written reports, computer programs and oral presentations.  Feedback on progress is typically provided through a combination of discussion in class, written comments on submitted work and review of outline solutions to problems. You are encouraged to discuss any queries related to specific modules with individual lecturers.

The Professional Placement year is assessed via a combination of a report, a poster and an oral presentation. You are required to reflect upon and provide evidence for your progress in the areas of Professional Standards, Communication and Information Management, Leadership, Professional Development, Working with Others, and Managing Customer Relations. You submit monthly formative journal entries for which feedback will be provided, thereby monitoring your progress.

Feedback:

Written feedback and outline solutions on in-course assessment give you an opportunity to reflect on your progress. Further feedback is provided in examples classes and tutorials (in Year One) to review problems in more detail and discuss potential solutions. You should discuss any queries related to specific modules with individual lecturers. There are a number of further feedback mechanisms in place to support your study; please see “How will I be supported?” below.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dull dadansoddol o ddatrys problemau
  • Dealltwriaeth o syniadau profi, calcwlws, algebra, dadansoddi a mathemateg gymhwysol
  • Dealltwriaeth ehangach o gysyniadau mathemategol haniaethol, dadleuon rhesymegol a rhesymu casgliadol
  • Rhesymu a thrin mathemategol

Bydd y Lleoliad hefyd:

  • Yn rhoi profiad o gymhwyso cysyniadau mathemategol mewn amgylchedd diwydiannol
  • Yn eich gwneud yn ymwybodol o gyfrifoldebau proffesiynol a moesegol
  • Yn ymrwymo i safonau proffesiynol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i lunio modelau mathemategol a’u datrys
  • Y sgiliau i ddefnyddio ffyrdd dadansoddol a rhesymegol o feddwl i ddod i gasgliadau yn seiliedig ar wybodaeth feintiol
  • Sgiliau cyfathrebu a'r gallu i gyfathrebu gwybodaeth a dealltwriaeth fathemategol

Mae'r flwyddyn ar Leoli hefyd yn caniatáu ichi ddangos:

  • Hunan-fyfyrdod a chymhelliant
  • Arweinyddiaeth
  • Hunan-gyfeiriad wrth ddatrys problemau sydd heb eu gweld o'r blaen

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Defnyddio nifer o becynnau meddalwedd modern
  • Hyfedredd mewn perfformio arbrofion mewn dosbarthiadau labordy, gan ddangos sgiliau dadansoddi ac ymchwilio
  • Y gallu i gymhathu a chyfleu dadleuon mathemategol manwl
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau, y gallu i ysgrifennu'n gydlynol ac yn eglur, a rhoi cyflwyniadau.

Mae'r Flwyddyn ar Leoliad yn caniatáu ichi arddangos y canlynol:

  • Defnyddio meddalwedd mewn lleoliad diwydiannol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Rhesymu rhesymegol
  • Meddwl yn annibynnol
  • Meddwl yn feirniadol
  • Y gallu i gymhwyso sgiliau mathemategol i ddatrys problemau
  • Defnyddio technoleg gwybodaeth ac adnoddau llyfrgell
  • Rheoli amser a llwyth gwaith
  • Gweithio gydag eraill
  • Sgiliau trefnu a rheoli eich hun

Mae'r Flwyddyn ar Leoliad yn caniatáu ichi arddangos y canlynol:

  • Profiad gwaith mewn swydd sy'n gysylltiedig â Mathemateg
Mathematics lecture room with students
Mathematics lecture room with students

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gallwch ddefnyddio eich gradd BSc Mathemateg gyda Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol fel llwybr i’r gweithlu, lle gallech gwrdd â’n cynfyfyrwyr sy’n gweithio mewn swyddi traddodiadol fel addysgu, gwaith actiwaraidd, a chyfrifeg, yn ogystal â TG, ymchwil fferyllol, peirianneg a mwy. Neu, efallai byddwch chi’n dewis ehangu eich opsiynau gyrfa i gynnwys ystod o feysydd cysylltiedig trwy gwblhau astudiaethau ôl-raddedig yn y gwyddorau, cyfrifiadureg neu beirianneg.

Cymorth gyrfaoedd mathemateg

Yn semester y Gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar gael i chi i helpu i gefnogi eich rhagolygon gyrfa. Mae’r dosbarthiadau’n ymdrin â phrofiad gwaith, CV a llythyrau esboniadol, ffurflenni cais, technegau cyfweliad, a chyflwyniad i LinkedIn.

Mae gennym ni fwrdd swyddi myfyrwyr sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion, gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau. Ar ben hynny, rydym ni’n trefnu rhaglen lawn o gyflwyniadau gan fyfyrwyr a chyflogwyr bob blwyddyn gyda chyflogwyr fel Grŵp Bancio Lloyds, HSBC, PwC, Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid, Sainsburys, Network Rail, GSK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dŵr Cymru, a’r Swyddfa Feteorolegol.

Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a ddyfarnir am gyflawniad academaidd.

Lleoliadau

Mae lleoliad gwaith blwyddyn o hyd ar gael ar y rhaglen hon, ac mae i'w gymryd ar ôl i chi gwblhau blwyddyn dau.

Fe gewch gefnogaeth i wneud cais am leoliadau sy'n apelio atoch gan ystod eang o bartneriaid diwydiannol. Mae lleoliadau ar gael yng Nghaerdydd, ledled y DU a hefyd yn rhyngwladol ac mae’r rhan fwyaf yn cynnig cyflogau cystadleuol.

Mae darparwyr lleoliadau diweddar wedi cynnwys: CGI, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Goldman Sachs, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Gwasanaeth Traffig Awyr Cenedlaethol a Walt Disney.

Pan fyddwch chi ar eich lleoliad, darparwr eich lleoliad fydd yn goruchwylio eich gwaith yn uniongyrchol. Byddwch yn gweithio ar broblemau go iawn ac yn defnyddio mathemateg i gynhyrchu canlyniadau. Bydd gennych hefyd gysylltiad agos â'n cydlynwyr lleoliadau fel y gallant drafod eich cynnydd a sicrhau eich bod yn cael y gorau o'r flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys ymweliadau yn ogystal â chysylltiad rheolaidd drwy ebost.

Byddwn yn eich cefnogi i baratoi ar gyfer eich lleoliad gwaith trwy ystod o raglenni datblygu sgiliau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 52% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.