
Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd
Dysgwch sut i warchod ein planed am genedlaethau i ddod. P'un a ydych chi'n dewis astudio daearyddiaeth, daeareg neu wyddor cynaliadwyedd amgylcheddol, byddwch chi'n ennill gwybodaeth a sgiliau gwyddonol i effeithio ar ddatblygiadau a phenderfyniadau amgylcheddol allweddol.
Pam astudio gyda ni
Mae gan wyddonwyr y ddaear a’r amgylchedd ran bwysig i'w chwarae wrth ddatrys heriau byd-eang mwyaf dybryd y byd modern. Dim ond gweithwyr proffesiynol sy'n deall maint y broblem ac sydd eisiau gweithio'n galed i'w datrys a all wrthdroi'r difrod rydyn ni wedi'i wneud i'r byd. Mae gwyddorau’r Ddaear a’r amgylchedd yn bynciau ymarferol sy'n dwyn ynghyd sgiliau a gwybodaeth o’r meysydd bioleg, ffiseg, cemeg, daearyddiaeth a mathemateg i ddatguddio canfyddiadau newydd am y byd, sut mae'n gweithio, a sut y gallwn ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Lleoliadau gwaith
Rydym yn cynnig cyfleoedd i astudio dramor a lleoliadau gwaith blwyddyn yn y rhan fwyaf o’n cyrsiau.
Cyfleoedd gwaith maes
Rydym yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf.
Gwneud effaith
Rydym yn darparu amgylchedd lle gall pob myfyrwyr gyflawni eu potensial er budd cymdeithas.

Mae teithiau maes yn dysgu technegau newydd y byddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich gradd ac yn rhoi trosolwg i chi o’r cwrs. Maen nhw hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd. Pan gewch chi eich gollwng ar un o'ch teithiau cyntaf, allwch chi ddim peidio gwneud ffrindiau. Tra bod pawb a oedd yn rhannu fflat ‘da fi yn eistedd mewn darlithoedd ddydd ar ôl dydd, roeddwn i allan yn crwydro Caerdydd a'r cyffiniau.
Cyrsiau
Cyfleusterau a lleoliad

Ein Hysgol
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd wedi'i lleoli ym Mhrif Adeilad eiconig y Brifysgol. Gwyliwch ein taith dan arweiniad myfyrwyr ar YouTube.

Darlithfa fawr
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae Darlithfa Shandon yn un o'n darlithfeydd mawr. Mae’n bosib y cewch rai o'ch darlithoedd blwyddyn gyntaf yma. Mae pob un o'n myfyrwyr yn astudio rhai o'r un modiwlau yn y flwyddyn gyntaf i ddatblygu sgiliau GIS, mapiau, dadansoddol a maes pwysig.

Darlithfa fawr
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae Darlithfa Shandon yn un o'n darlithfeydd mawr. Mae’n bosib y cewch rai o'ch darlithoedd blwyddyn gyntaf yma.

Llyfrgell Gwyddoniaeth
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae'r llyfrgell yn cynnwys casgliadau biowyddorau, cemeg, gwyddorau’r Ddaear a'r amgylchedd, ynghyd â chyfleusterau i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.

Labordy
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae hwn yn labordy nodweddiadol lle gallai myfyrwyr daeareg a geowyddorau archwilio haenau tenau gan ddefnyddio microsgop, ac mae’n bosibl y bydd ein myfyrwyr daearyddiaeth yn cael sesiynau mapio.

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae ein Hysgol gyferbyn â chartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.

Llong Ymchwil y Guiding Light
Mae ein llong ymchwil arfordirol yn galluogi rhai o'n myfyrwyr daearyddiaeth i ddeall materion morol yn well, o godiad lefel y môr i erydiad a rheolaeth arfordirol.

Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru dafliad carreg i ffwrdd, ac felly bydd gennych fynediad hawdd i'w horielau arddangos a'u casgliadau trawiadol.
Ein sgyrsiau
Sylwch ar y diweddariadau pwysig canlynol, a wnaed ers ffilmio'r fideos isod. Mae ein rhaglenni BSc gyda Blwyddyn Dramor wedi'u cymeradwyo a byddant ar gael i ymgeiswyr ym mis Medi 2021. Mae enw ein hysgol wedi newid o Ysgol Gwyddorau Daear a Chefnfor i Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol.

Cyrsiau byr ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer un o'n cyrsiau byr ar-lein am ddim i gael blas ar astudio gwyddorau’r Ddaear a’r amgylchedd.
Gwaith maes
Mae daeareg yn bwnc ymarferol a brofir orau drwy waith maes. Mae gweld rhywbeth â’ch llygaid eich hun yn dod â theori yn fyw, o ffosilau mewn clogwyn i ddyddodion mwynol mewn afon. Rydym yn cynnig cyfuniad hwyl o ddarlithoedd, seminarau, labordai a gwaith maes i'n myfyrwyr. Os ydych chi'n hoffi teithio a threulio amser yn yr awyr agored, bydd ein teithiau maes yn gyfle perffaith i chi grwydro a darganfod. Rydym yn cwblhau gwaith maes lleol yn Ne Cymru ac o amgylch y DU, yn ogystal â theithiau maes preswyl mewn lleoliadau ledled Ewrop. Cymerwch olwg ar y teithiau maes rydym wedi’u cynnal yn y gorffennol.

Fe dreuliais i dair blynedd anhygoel yn astudio Geowyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers i mi raddio, rydw i wedi dod yn Swyddog Cadwraeth ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Bermuda, lle rwy’n rheoli 270 o erwau o fannau gwyrdd yn Bermuda. Bydd hyn bob amser yn her, ond rwy’n cael cymorth o hyd ac o hyd gan y profiadau a’r prosesau a ddysgwyd i mi yn ystod y cwrs BSc Geowyddorau Amgylcheddol. Enillais brofiad rhyngwladol amhrisiadwy ac fe wnes i lawer o ffrindiau gydol oes yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gyrfaoedd
Mae llawer o yrfaoedd ar gael i ddaearegwyr, ac os penderfynwch newid eich llwybr gyrfa, bydd y sgiliau rydych chi'n eu dysgu yn eich gradd yn dal i fod yn ddefnyddiol mewn ystod eang o feysydd gwahanol. Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA). Darllenwch straeon gan ein graddedigion diweddar.

Darlithoedd blasu
Cymerwch gip ar un o'n darlithoedd blasu i gael blas ar ein dull o addysgu, yn ogystal â rhai o'r pynciau cyffrous y gallech chi gael cyfle i'w hastudio.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld y cyrsiau
Edrychwch ar ein cyrsiau israddedig a’n meini prawf derbyn ar gyfer 2021.
Lawrlwytho’r llyfryn
Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn a chewch ymateb cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses gwneud cais.
Pynciau eraill
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.