Ymchwil
Sut mae ymateb i’r heriau digynsail y mae’r byd yn eu hwynebu i gynnal ei boblogaeth gynyddol ac ecosystemau’r blaned a’u cadw’n iach? Mae gan fiowyddoniaeth rôl hanfodol i’w chwarae o ran deall y mecanweithiau gwaelodol ac ymchwilio i ddatrysiadau.

Mae ein gwaith ymchwil yn cwmpasu’r gwyddorau biolegol a biofeddygol ac yn cael ei arwain gan ymchwilwyr sy’n enwog yn rhyngwladol, ac sy’n rhedeg rhaglenni ymchwil deinamig, gyda mynediad at amrywiaetho’r cyfleusterau technoleg
diweddaraf.
Dyma rai o'n prif feysydd ffocws:
- Newid byd-eang a’i effeithiau
- Mecanweithiau moleciwlaidd bywyd a chlefydau
- Modelu a pheirianneg systemau byw
Is-adrannau ymchwil
Mae ein hymchwil wedi ei threfnu yn ôl pedwar maes:
Ar ben y meysydd uchod, mae hefyd gennym is-adran Addysg ac Ysgolheictod weithgar.
Enw da rhyngwladol
Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, ni sydd yn y 13eg safle yn y DU, gydag effaith 60% o'n hymchwil yn 'rhagorol' o ran ehangder a’i harwyddocâd.
Yn ôl Tabl Cynghrair o Brifysgolion y Byd 2019 (ar sail perfformiad a chryfder ymchwil), roedd Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ymysg y 25 uchaf ledled y byd a’r 5 uchaf yn y DU.