Ewch i’r prif gynnwys

Biowyddorau

Mae ein gwaith ymchwil yn amrywio ar draws y gwyddorau biolegol, o ddeall sut yn union mae niwronau yn tyfu, i fecanweithiau canser a chlefydau eraill, sail moleciwlaidd datblygiad anifeiliaid a phlanhigion ac archwilio geneteg orangwtanau, eliffantod, pandas a rhywogaethau eraill sydd mewn perygl.

Arweinir yr ymchwil gan ymchwilwyr rhyngwladol sy’n rhedeg rhaglenni ymchwil deinamig, gyda mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau technoleg o’r radd flaenaf. Adlewyrchir ein henw da yn y degau o filiynau o bunnoedd o gyllid ymchwil rydym ni’n ei ddenu bob blwyddyn a gan ein lefel uchel gyson o gyhoeddiadau yn y cyfnodolion rhyngwladol gorau. Rydym yn annog cydweithrediadau rhyngddisgyblaethol ar lefel uchel, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rydym yn rhif 13 yn y DU yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Yn yr asesiad hwn, roedd 60% o'n gwaith ymchwil a aseswyd, yn 'rhagorol' am ei effaith o ran ehangder ac arwyddocâd.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil, MD
Hyd amser llawn PhD: 3-4 blynedd; MD: 2 flynedd; MPhil: 1-2 flynedd
Hyd rhan-amser PhD: 7 mlynedd; MD: 5 mlynedd; MPhil: 5 mlynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

PhD

Bydd myfyrwyr yn hyfforddi mewn labordai enwog dan oruchwyliaeth lawn, i gwblhau prosiect ymchwil lefel uchel.

Mae ein rhaglen seminarau, sgiliau a hyfforddi ardderchog ym Mhrifysgol Caerdydd yn darparu diwylliant ymchwil bywiog wedi'i deilwra’n llawn er mwyn sicrhau eich cyflogadwyedd a’ch datblygiad proffesiynol.

MD

Mae'r ysgol yn cynnig graddau labordy sy'n seiliedig ar ymchwil i raddedigion cydnabyddedig Meddygaeth, sy'n canolbwyntio ar bwnc ymchwil clinigol penodol i wneud cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth feddygol. Fel myfyriwr MD, byddwch yn derbyn lefel uchel o oruchwyliaeth a mynediad at hyfforddiant sgiliau ymchwil arbenigol.

MPhil

Mae ymchwil MPhil yn cynnig prosiect byrrach gyda mwy o ffocws o’i gymharu ag astudio ar gyfer PhD. Mae gradd MPhil yn cynnig cyfle i fyfyrwyr adeiladu ar brofiad academaidd a phroffesiynol blaenorol i ddatblygu sgiliau ymchwil. Mae myfyrwyr MPhil yn cymryd rhan weithgar mewn gwaith ar flaen y gad o’r holl weithgareddau ymchwil.

Rydym yn cynnig goruchwyliaeth a/neu brosiectau ymchwil yn y meysydd canlynol:

  • Biowyddorau Moleciwlaidd
  • Biofeddygaeth
  • Organebau a’r Amgylchedd
  • Canser
  • Peirianneg Systemau Byw
  • Mecanweithiau Bywyd a Chlefyd
  • Niwrowyddoniaeth
  • Planed Gynaliadwy
  • Technolegau Newydd.

Meysydd ymchwil

Biomeddygaeth

Mae Biofeddygaeth yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Biowyddorau.

Biowyddorau Moleciwlaidd

Mae Biowyddorau Moleciwl yn canolbwyntio ar fecanweithiau moleciwlaidd sy’n sail i swyddogaeth biolegol.

Niwrowyddoniaeth

Mae’r adran Niwrowyddoniaeth yn mynd ar drywydd amrywiaeth eang o ymchwil niwrofiolegol, yn cwmpasu lefelau moleciwlaidd i ymddygiadol.

Organebau a'r Amgylchedd

Mae’r adran ymchwil Organebau a’r Amgylchedd yn canolbwyntio ar fioleg organebau cyfan a’ rolau a’u rhyngweithiadau mewn ecosystemau sy’n newid, mewn haint ac iechyd, ac ar lefel genetig.

Prosiectau ymchwil

Ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o brosiectau ar gael i wneud cais amdanynt yn Ysgol y Biowyddorau, ac mae rhai yn cael eu cynnig fel rhan o’n amrywiaeth o ymglymiadau DTP.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr PhD yn cael eu hariannu gan ysgoloriaethau ymchwil DTP Cyngor Ymchwil y DU (fel NERC GW4+; BBSRC SWBio; MRC Biomed, EPRC DTP), Ymchwil Canser y DU, rhaglenni PhD Niwrowyddorau Cyfunol Ymddiriedolaeth, ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan ysgolion a sefydliadau, llysgenadaethau diwylliannol tramor, Ysgoloriaethau'r Gymanwlad ac elusennau.

Mae rhai myfyrwyr PhD yn ariannu eu hunain, ac rydym yn annog myfyrwyr sy'n ariannu eu hunain i wneud cais.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Fel arfer mae angen gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth yn y DU, neu gymhwyster cyfwerth.

Addas i raddedigion mewn gwyddorau biolegol a gwyddorau cysylltiedig, gan gynnwys anatomeg, ffisioleg a phatholeg, gwyddorau clywedol a geneuol, gwyddorau biofeddygol, bioleg, cemeg, cyfrifiadureg a gwybodeg, gwyddorau fforensig, geneteg, meddygaeth, niwrowyddoniaeth ac ystadegau, ffarmacoleg, seicoleg, gwyddorau chwaraeon a sŵoleg.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil ochr yn ochr â’u cais.

Os ydych yn gwneud cais am brosiect sydd wedi’i hysbysebu, nid oes angen cyflwyno cynnig ymchwil - dylech gyflwyno datganiad o gefnogaeth yn lle hynny.

Noder: Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth cyllid lle bynnag y bo'n bosibl, yn enwedig pan a ariennir gan noddwyr allanol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

School of Biosciences Education Office

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig