Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau

Rydym yn darparu amgylchedd addysgu dynamig ac ysgogol gyda chyfleusterau modern trawiadol, cyfarpar diweddaraf a staff o ansawdd uchel.

Mae ein hamgylchedd dysgu yn hyblyg, cynhwysol, ysgogol, gwerthfawr ac wedi'i gefnogi'n dda.  Drwy ddulliau dysgu ac asesu arloesol, a lefelau uchel o gefnogaeth academaidd a phroffesiynol, mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gyfranogi'n weithredol yn eu datblygiad eu hunain.

Rydym yn enwog am ardderchowgrwydd ein cyrsiau maes biowyddorau sy'n cynnig profiad ymarferol mewn technegau modern a sgiliau ymarferol mewn bioleg yn y maes.

Israddedig

Amrediad eang o raglenni gradd hyblyg, modiwlaidd sy’n rhychwantu sbectrwm llawn ein diddordebau academaidd mewn Gwyddorau Biolegol, Biocemegol a Biofeddygol.

Ôl-raddedig a addysgir

Rydym yn cynnig rhaglenni MSc Bioleg Data Mawr ac Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang

Ymchwil ôl-raddedig

Rhyddid i ymchwilio i destun sydd ar flaen y gad, ymysg ymchwilwyr blaenllaw gyda chyfleusterau modern.

Cyfleoedd yn yr iaith Gymraeg

Rydym yn cefnogi myfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac yn cynnig cyfleoedd i wneud hynny lle bo’n bosibl.

Mae astudio yn Ysgol y Biowyddorau yn agor cymaint o gyfleoedd; nid yw ynghylch y darlithoedd a’r gwaith ymarferol yn unig, ond mae ynghylch datblygu eich sgiliau eich hun yn ogystal. Mae’r staff yn eich annog i gael eich sbarduno a’ch ysgogi. Yn fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn yn gallu cael profiad gwaith mewn labordai microbioleg a chael lleoliad cyflogedig am yr haf. Mae’r gofal bugeiliol yn wych; darganfyddais y newid i’r brifysgol yn eithaf anodd, ond mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn ei gwneud yn llawer haws. Os ydych yn dymuno bod yn fyfyriwr hapus a bodlon, dyma’r lle i chi yn bendant.

Eleanor Gibson-Forty, Bioleg