Ewch i’r prif gynnwys

Bioleg Data Mawr (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd ein cwrs MSc arloesol yn eich galluogi i ddefnyddio’r platfformau diweddaraf ar gyfer data mawr i fynd i’r afael â phynciau sy’n amrywio o fioleg ddatblygiadol i oruchwyliaeth ar glefydau ac ecoleg clefydau.

molecule

Ymagwedd unigryw a chyfannol

Dysgwch sut i gyfuno data mawr â modelu i sicrhau dealltwriaeth fecanistig o brosesau biolegol.

microchip

Perthnasol i’r byd go iawn

Defnyddiwch eich sgiliau a'ch gwybodaeth wrth ymdrin â sefyllfaoedd yn y byd go iawn a datrys problemau yn y gweithle.

people

Cydweithio amlddisgyblaethol

Ymunwch â rhwydwaith cyffrous sy’n tyfu o fyfyrwyr ac academyddion sy'n gweithio ym maes bioleg ragfynegol.

rosette

4ydd yn y DU a 27ain yn y byd

Mae ein Hysgol Academaidd mewn safle uchel ar gyfer y Gwyddorau Biolegol yn Rhestr Fyd-eang o Bynciau Academaidd 2021 Shanghai Ranking.

O ficrobiomau, ffenomau a genomau i ecosystemau cyfan, mae bioleg fodern yn cynhyrchu symiau enfawr o ddata. Mae graddfa a natur yr wybodaeth hon yn gofyn am genhedlaeth newydd o wyddonwyr sydd â'r sgiliau i gywain, dadansoddi, trin a dehongli data mawr, ac i gysylltu'r broses ddadansoddi hon â mecanweithiau sylfaenol trwy fodelu mathemategol a chyfrifiadurol.

A chithau’n fyfyriwr ar ein cwrs arloesol, MSc Bioleg Data Mawr, cewch gyfle i archwilio’r llwyfannau blaengar a ddefnyddir ym maes dadansoddi biolegol modern. Byddwch yn dysgu am y dulliau ystadegol a chyfrifiadurol sy’n ofynnol i ddadansoddi'r data mawr a gynhyrchir, ac yn cloddio'r storfeydd cynyddol o ddata 'omeg' sydd bellach yn bodoli mewn bioleg.
Nodwedd wahaniaethol graidd o’n rhaglen yw y bydd yn eich galluogi i greu rhyngwyneb rhwng eich gwaith yn dadansoddi data mawr a systemau dynamegol a damcaniaeth rhwydweithiau, yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar ddadansoddi patrymau a/neu gymhwyso dulliau deallusrwydd artiffisial at ddata. Bydd y dull unigryw hwn o fodelu data mawr yn eich galluogi i brofi rhagdybiaethau a dadansoddi modelau i ddatgelu mecanweithiau biolegol o setiau data trwybwn uchel. Byddwch yn archwilio’r modd y gellir dehongli a chloddio data mawr yn well gan ddefnyddio dealltwriaeth fiolegol ac, i'r gwrthwyneb, y modd y gall y data hyn gynhyrchu mewnwelediadau biolegol newydd.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i’ch arfogi â’r sgiliau i weithio ar broblemau data “bywyd go iawn”. Byddwch yn dod yn hyfedr mewn defnyddio offer a dulliau craidd ar gyfer dadansoddi data mawr, ac yn magu hyder wrth ddewis a chymhwyso'r dulliau hyn mewn modd beirniadol er mwyn mynd i'r afael ag ystod eang o gwestiynau biolegol. Ar ôl cwblhau’r modiwlau craidd cyntaf, byddwch yn cymhwyso’r sgiliau a feithrinwyd at ddatrys senario data mawr ar gyfer “cleient” – problem bywyd go iawn a wynebir gan grŵp ymchwil mewn prifysgol, diwydiant neu sefydliad llywodraeth.

Mae strwythur y cwrs yn rhoi trosolwg eang o fioleg systemau, yn ogystal â'ch galluogi i arbenigo mewn maes sydd o ddiddordeb i chi trwy ystod eang o gyfleoedd ymchwil. Byddwch yn cwblhau'r rhaglen gyda sylfaen gadarn mewn bioleg systemau a biowybodeg, fel ei gilydd. At hynny, byddwch yn gallu gwella eich sgiliau trosglwyddadwy, er enghraifft gweithio mewn timau rhyngddisgyblaethol, dysgu sut i feistroli meddalwedd newydd mewn modd strwythuredig, ysgrifennu adroddiadau neu geisiadau am grantiau, a rhoi cyflwyniadau gwyddoniaeth – pob un ohonynt yn sgiliau pwysig i ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa.

Mae Bioleg Data Mawr yn faes gwyddoniaeth blaengar a chyffrous. Mae datblygu ein dealltwriaeth o systemau byw yn dibynnu ar ddatgloi potensial data mawr, o foleciwlau i'r biosffer. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio’n benodol i sicrhau eich bod yn cael eich paratoi’n llawn ar gyfer gyrfa mewn diwydiant neu ymchwil academaidd, a bod eich sgiliau’n adlewyrchu’n agos y rhai y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ar hyn o bryd. Yn hollbwysig, byddwch hefyd yn dysgu sut i symud bob yn gam â datblygiadau yn y dyfodol ym maes bioleg data mawr, a hynny trwy ddysgu sut i gymhathu a defnyddio strategaethau a thechnoleg newydd mewn modd effeithiol.

This is an original and exciting programme that should be very successful and will increase students' employability. The systemic, hands-on approach will ensure students actively engage, learn continuously and have a great, overall experience.
Prof Alain Goriely, Director of the Oxford Centre for Applied and Industrial Mathematics, Oxford University

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Biowyddorau

Rydym yn darparu amgylchedd addysgu ysgogol gyda chyfleusterau modern trawiadol, yr offer diweddaraf a staff o'r radd flaenaf.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4129
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis biowyddorau, gwyddorau cyfrifiadurol, peirianneg, gwyddorau amgylcheddol, mathemateg, neu ffiseg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n dangos diddordeb mewn biowybodeg, biofeddygaeth, bioleg foleciwlaidd, neu ystadegau.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs yn rhedeg am 12 mis ar sail amser llawn. Mae myfyrwyr yn astudio modiwlau gwerth 180 credyd.

Mae'r rhaglen yn cynnwys chwe modiwl craidd (120 credyd) a phrosiect ymchwil (60 credyd). Mae'n cynnwys dau gam:

  • Cam 1: modiwlau a addysgir. Mae cyfle i orffen y cwrs ar ddiwedd Cam 1 (120 credyd), sy'n arwain at Ddiploma Ôl-raddedig. Yn ogystal, mae cyfle i gael dyfarniad ar ôl cwblhau 60 credyd sy’n arwain at Dystysgrif Ôl-raddedig.
  • Cam 2: Prosiect Ymchwil

Modiwlau craidd (6); pob 20 credyd (Cam 1)

Modiwlau Craidd (Cam 2) – Prosiect Ymchwil 60 credyd (traethawd estynedig)

Mae pob myfyriwr MSc yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol sy'n diweddu gydag adroddiad o tua 8,000-10,000 o eiriau. Byddwch yn gallu cymhwyso'r profiad a gawsoch mewn ysgrifennu adroddiadau trwy gydol y modiwl Astudiaeth Achos i'r prosiect hwn. Yn ogystal, byddwch yn cyflwyno eich prosiect ymchwil i'r grŵp, ac wedi hynny byddwch yn derbyn adborth ac fe allwch ei ddefnyddio wrth baratoi eich adroddiad terfynol.

 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae technoleg gyfredol, o ddilynianwyr genomau i gaffael delweddau (cellog neu anatomegol), yn hybu’r angen am weithlu sy’n deall y dulliau ystadegol a chyfrifiadurol a’r seiber-seilwaith sy’n ofynnol. Bydd arbenigedd o'r fath yn ehangu ffiniau ymchwil sylfaenol, a bydd hefyd yn hanfodol i ddatblygiadau mewn ymchwil gymhwysol. Mae’r gwaith o gadw gwyliadwriaeth ar glefydau mewn bodau dynol, da byw a bywyd gwyllt yn cael ei lywio gan y broses o ddilyniannu genomau cyfan, tra bo integreiddio data morffolegol a genetig mawr i ddatgelu cysylltiad clefydau neu ffenoteipiau planhigion sy'n bwysig yn amaethyddol, ill dau yn gofyn am hyfedredd mewn dadansoddeg data mawr. At hynny, mae cysylltu dynameg clefydau, neu ôl-gysylltu ffenoteip â'r lefel enetig, yn gofyn am ddull modelu aml-lefel sy'n gweithio mewn synergedd â'r gwaith dadansoddi data. Mae’r gynghrair modelu-data mawr hon yn cael ei meithrin yng Ngham 1 y cwrs, ac mae’n un o’i nodweddion gwahaniaethol, sy’n ei gosod ar wahân i ddulliau data mawr safonol.

Mae gwybodaeth ymarferol am fioystadegaeth, biogyfrifiadura a modelu yn hanfodol ar gyfer pob gyrfa ym maes gwyddor bywyd, ac, ynghyd â'n modiwl 'Astudiaeth Achos' arloesol (lle byddwch yn cymhwyso eich hyfedredd at broblem data mawr "bywyd go iawn"), mae'n darparu sylfaen greiddiol y rhaglen hon. Mae ehangder a dyfnder y modiwlau yn cynnig sgiliau trosglwyddadwy ac arbenigol, sy’n eich galluogi i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd yn ystod eich ymchwil i ddatblygu eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfa eich hun ymhellach. 

Modiwlau Craidd (Cam 2) – Prosiect Ymchwil (traethawd estynedig)

Mae pob myfyriwr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol sy'n diweddu gydag adroddiad o tua 8,000-10,000 o eiriau. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn rhan annatod o grŵp ymchwil gweithredol, ac yn ennill profiad ymchwil dilys ochr yn ochr ag academyddion blaenllaw, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr PhD. Byddwch yn cael eich goruchwylio gan aelod o staff academaidd sydd â phrofiad ym maes eich prosiect.

 

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu ystod eang o opsiynau modiwl lle bo modd, ond er y gwneir pob ymdrech i gynnig dewis, dylech fod yn ymwybodol y gallai hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fod wedi dilyn pynciau penodol yn barod cyn cael lle ar rai modiwlau, ac mae modiwlau eraill yn rhai craidd neu'n ofynnol ar eich rhaglen ddewisol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol ar y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Biogyfrifiadura a Thrin Data MawrBIT10120 credydau
ModeluBIT10220 credydau
Astudiaeth AchosBIT10320 credydau
Systemau a Bioleg RhagfynegolBIT10520 credydau
BiowybodegBIT10620 credydau
Gwyddor Data MawrBIT10720 credydau
Prosiect YmchwilBIT10460 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae strategaethau addysgu wedi'u cynllunio'n arbennig i fodloni heriau penodol pob modiwl. Byddwch yn cael eich addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau grwpiau bach a gweithdai cyfrifiadurol ymarferol. 

Bydd llawer o'r modiwlau yn defnyddio strategaethau dysgu gwrthdro er mwyn sicrhau cymaint o ddysgu ymarferol â phosibl a chefnogi cryfderau a gwendidau unigol. Yn achos dysgu gwrthdro, caiff y darlithoedd eu recordio ymlaen llaw a byddant ar gael i chi ddirnad yr wybodaeth cyn ein hamser cyswllt wyneb yn wyneb. Yn ystod ein sesiynau byw, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddeall y cysyniadau yn well, ac i fynd ati i’w cymhwyso a’u harchwilio trwy gyfres o weithgareddau. Byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn trafodaeth agored a chymryd yr awenau wrth drefnu deialog wyddonol mewn fformatau gwahanol. Oherwydd natur ryngddisgyblaethol y rhaglen, mae'r gweithgareddau hyn yn ysgogi gweithgarwch adeiladu tîm a datrys problemau mewn grŵp gan ddefnyddio cryfderau penodol pob aelod o'r grŵp.

Bydd sgiliau rhaglennu a'r defnydd o becynnau meddalwedd perthnasol yn cael eu haddysgu (neu eu datblygu) yn ein hystafelloedd cyfrifiaduron pwrpasol. Er mwyn cefnogi myfyrwyr sy'n ymuno â ni heb y lefel ofynnol o wybodaeth gyfrifiadurol, byddwn yn darparu deunydd cefndir yn ymwneud â defnyddio'r system weithredu a gwybodaeth sylfaenol am y pecyn rhaglennu R cyn y cwrs. Mae’r staff addysgu yn barod i’ch helpu i feithrin unrhyw sgiliau TG sy’n ofynnol i ymgysylltu â’r maes llafur mewn modd effeithiol – byddwn yn mynd ati i annog ymholiadau dan arweiniad myfyrwyr ac yn cynnal sesiynau cymorth cyfrifiadurol ychwanegol pan fo angen. Elfen bwysig o'r cwrs yw bod dysgu technegol parhaus yn digwydd wrth archwilio cysyniadau systemau biolegol a dynamig sylfaenol.

Fe'ch anogir i fynychu cyfres o seminarau ein Hysgol, lle cewch y cyfle i ryngweithio'n uniongyrchol â'r siaradwyr ac, yn achlysurol, i helpu i gynnig y gwyddonwyr i'w gwahodd. Mae prosiectau’r traethawd estynedig wedi'u cynllunio er mwyn i chi allu defnyddio eich gwybodaeth mewn prosiect ymchwil penagored. Bydd y dewis o ran testun y prosiect ar gyfer y modiwl 'Astudiaeth Achos' a thestun y traethawd estynedig, fel ei gilydd, yn cael eu cefnogi gan sesiynau “trafodaeth gyflym”, lle bydd darpar oruchwylwyr yn disgrifio'n gryno y set ddata a'r math o gwestiynau yr hoffent weld yn cael eu hateb. Gweler y Cyfleoedd ar gyfer Lleoliad i gael rhagor o fanylion.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu trwy gyfuniad o asesiad o sgiliau ymarferol, gwaith cwrs, adroddiadau, cyflwyniadau a phrosiect ymchwil (= traethawd estynedig; 8,000-10,000 o eiriau). Bwriedir i’r asesiadau atgyfnerthu ac ysgogi'r broses ddysgu mewn modd pwrpasol ac amrywiol. Gallant fod ar ffurf gwaith cwrs (dylunio llifoedd biowybodeg, dadansoddiad ystadegol o setiau data, archwilio model ar gyfer problem fiolegol benodol, adolygiad beirniadol o bapur gwyddonol, podlediadau, ystorfa codau, ac ati), cyflwyniadau poster, portffolios ac asesiadau ar-lein.

Gellir cyflwyno pob asesiad trwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â Safonau’r Gymraeg mewn Addysg Uwch. Mae gan Ysgol y Biowyddorau hanes sefydledig o farcio asesiadau Cymraeg yn fewnol, neu, lle bo angen, trwy wasanaethau cyfieithu cymwys. Goruchwylir y broses hon gan Swyddog Cyswllt y Gymraeg yr Ysgol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd Tiwtor Personol yn cael ei ddynodi i chi pan fyddwch yn cyrraedd Prifysgol Caerdydd, a gallwch ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg lle bo angen. Mae sawl un o staff academaidd Ysgol y Biowyddorau yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ac mae’r arfer o ddarparu Tiwtoriaid Personol sy’n siarad Cymraeg wedi hen sefydlu yn ein Hysgol. Fe'ch anogir i gysylltu â'ch Tiwtor Personol os bydd gennych unrhyw faterion academaidd neu fugeiliol yr hoffech eu trafod. Byddwch yn cwrdd â'ch Tiwtor Personol yn ystod pythefnos cyntaf y cwrs, ac yna’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Bydd eich Tiwtor Personol hefyd yn helpu i sicrhau bod unrhyw brofiad ymchwil gyda sefydliadau allanol yn dilyn yr un safonau academaidd uchel â’r rheiny yn yr Ysgol. 

Cefnogi Rhyngddisgyblaeth

Rhan o gryfder y rhaglen hon yw’r ffaith bod myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol yn dysgu ochr yn ochr ac yn cydweithio. Rydym yn rhagweld y bydd myfyrwyr yn ymuno â ni â lefelau tra gwahanol o brofiad cyfrifiadurol blaenorol, ac rydym yn barod i gefnogi eich dysgu a’ch taith i feithrin sgiliau technegol, beth bynnag fo eich lefel. Cyn i chi gyrraedd, byddwn yn darparu deunydd darllen a darlithoedd wedi'u recordio ymlaen llaw ar yr agweddau perthnasol ar gefndir cyfrifiadurol. Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael digon o gymorth ar gyfer asesiadau ffurfiannol i'ch paratoi i weithio'n annibynnol ar yr asesiadau crynodol, a gellir hefyd drefnu tiwtorialau cyfrifiadurol ychwanegol, yn ôl yr angen. Mae natur ymarferol ein gweithdai niferus yn gyfleoedd gwych i chi feithrin sgiliau cyfrifiadurol a’u profi, a gofyn i hyfforddwyr am arweiniad ychwanegol.

Rhwydwaith Data Mawr

Byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn rhwydwaith cyffrous a chynyddol o fyfyrwyr ac academyddion sy'n gweithio ym maes bioleg ragfynegol ac sy’n defnyddio data mawr yn rhan annatod o'u hymchwiliad am fewnwelediadau biolegol, a hynny yn yr Ysgol ac mewn disgyblaethau eraill. Bydd y rhwydwaith hwn yn “cwrdd” mewn gofodau rhithwir, seminarau pwrpasol, a digwyddiadau cymdeithasol, ac yn rhyngweithio â biolegwyr cyfrifiadurol, modelwyr mathemategol, ac ymchwilwyr biofeddygol, pob un yn gofyn cwestiynau tebyg ac yn defnyddio adnoddau tebyg. Bydd myfyrwyr MSc Bioleg Data Mawr yn gallu mynd i Ddiwrnod Ymchwil Gyrfa i archwilio cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth mewn rôl gwyddonydd y genhedlaeth newydd, lle bydd yna gyfle i drafod llwybrau i ddiwydiant yn ogystal ag i'r byd academaidd, megis rhaglenni PhD priodol. A chithau’n fyfyriwr, fe'ch anogir hefyd i helpu i drefnu a phenderfynu ar siaradwyr, a hynny er mwyn meithrin sgiliau trosglwyddadwy ac annibyniaeth wyddonol.

Cymorth Cymheiriaid ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig

Yn ogystal â’r system tiwtora personol, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cymorth cymheiriaid yn benodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, gan gydnabod anghenion penodol myfyrwyr sy’n astudio ar y lefel hon. Mae Myfyrwyr Ôl-raddedig sy’n Cefnogi Cymheiriaid yn gwirfoddoli i gynnal llesiant myfyrwyr ôl-raddedig eraill trwy hwyluso Grwpiau Cymorth Cymheiriaid Ôl-raddedig misol. Mae'r Grwpiau Cymorth Cymheiriaid Ôl-raddedig yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn (gan gynnwys dros yr haf). Bydd arweinwyr modiwlau hefyd yn hyrwyddo gweithgareddau dysgu a gefnogir gan gymheiriaid ar gyfer eu modiwlau penodol, a fydd yn dibynnu ar anghenion a lefelau ymgysylltu y myfyrwyr.

Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • Perfformio ymagwedd drylwyr a yrrir gan ddamcaniaeth at ddata mawr biolegol ac argymell dyluniad arbrofol priodol ar gyfer casglu data yn y dyfodol.
  • Trosi systemau biolegol cymhleth ac wedi'u maglu yn fodelau mathemategol a chyfrifiadurol hydrin.
  • Perthnasu ymagweddau 'omics' i fodelau mecanistig a dealltwriaeth ddeilliedig.
  • Dadansoddi problemau biolegol ar raddfeydd gwahanol – o foleciwlau a chelloedd i ecosystemau.

Sgiliau deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • Cymharu a chyferbynnu gwahanol ddamcaniaethau a modelau yn ddadansoddol.
  • Cymhwyso strategaethau dysgu annibynnol i ddamcaniaethau, technolegau a meddalwedd sy'n cael eu datblygu.
  • Defnyddio dulliau arloesol o ddatrys problemau dadansoddol.
  • Gwerthuso'n feirniadol ac addasu gwahanol ffurfioldebau modelu sy'n dod i'r amlwg i heriau biolegol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • Defnyddio rhaglennu cyfrifiadurol a rhifedd uwch i sbectrwm eang o broblemau sy'n cael eu gyrru gan ddata.
  • Cyfathrebu'n effeithiol ac yn hyderus trwy ysgrifennu a chyflwyno gwyddonol.
  • Cynllunio, dylunio a gwneud y gorau o atebion sgriptio.
  • Gwerthuso'n feirniadol y llif gwaith a ddisgrifir mewn adroddiadau a phapurau.
  • Beirniadu dilysrwydd casgliadau biolegol o setiau data mawr.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • Arwain a chefnogi arferion gorau “bioleg agored”.
  • Gweithio'n effeithiol mewn timau rhyngddisgyblaethol.
  • Dylunio a chydlynu piblinellau i hwyluso dadansoddiadau cyfaint uchel.
  • Dewis a gwerthuso meddalwedd ffynhonnell agored sy'n briodol ar gyfer prosesu data penodol.
  • Defnyddio sgiliau cyflwyno i gyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd amrywiol gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau.
  • Cymhwyso dulliau delweddu data i gyflwyno data a strategaethau cyfathrebu.
  • Gwerthuso a chyfuno cysyniadau allweddol mewn biowybodeg yn algorithmau o'r radd flaenaf. 

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 £2,500

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £27,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

No additional charges are made for other aspects of tuition, although some services (such as student printing on demand) may incur a charge.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nid oes angen unrhyw gyfarpar penodol, ond argymhellir yn gryf bod gennych liniadur personol neu ddyfais debyg. Gallwn roi cyngor ar y manylebau gofynnol os bydd angen. Mae'r Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn gofod cymunedol), labordai sydd ag offer arbenigol, gan gynnwys adnoddau cyfrifiadurol, a'r holl feddalwedd arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs. Bydd y Brifysgol hefyd yn darparu pecynnau biowybodeg a phecynnau modelu rhifiadol arbenigol i'w defnyddio ar y cyrsiau.

Yn ystod yr MSc, rydym yn addysgu ac yn defnyddio'r iaith raglennu R. Rydym yn defnyddio RStudio mewn llawer o fodiwlau i asesu a dadansoddi data mawr, yn ogystal ag astudio modelau mecanistig sy'n helpu i ddal a datrys y ddeinameg fiolegol a arsylwyd.

Mae gan Ysgol y Biowyddorau Gyfleuster e-Ddysgu ac e-Asesu â 160 o seddi. Bydd gan fyfyrwyr fynediad at gyfleusterau Cyfrifiadura Perfformiad Uchel ar y safle, yn ogystal ag oddi ar y safle trwy VPN.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae ein cwrs MSc yn cynnig hyfforddiant sbectrwm eang rhagorol ar gyfer biolegwyr systemau’r dyfodol. Yn ogystal â dod yn dechnegol fedrus, byddwch yn gallu ystyried goblygiadau a rhagdybiaethau biolegol, deillio rhagfynegiadau, ac ymgysylltu mewn modd effeithlon â chylchoedd modelu-data-arbrofi. Bydd y rhaglen felly yn eich paratoi ar gyfer dyfodol bioleg ragfynegol mewn cyd-destunau gwahanol, o fioleg ddatblygiadol i glefydau ac ecoleg, yn ogystal â'ch arfogi â'r sgiliau i ragori mewn unrhyw ymchwil ddiwydiannol sy'n gweithio gyda data mawr. Bydd ei chyfuniad o theori a sgiliau ymchwil ymarferol, sylfeini cadarn systemau dynamegol, a bioleg ddamcaniaethol, yn eich arfogi â'r wybodaeth wyddonol, y profiad ymarferol a'r hyblygrwydd sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi fyd-eang bresennol.

Yn benodol, rydym yn disgwyl i lawer o’n graddedigion fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus mewn ymchwil ryngddisgyblaethol, a hynny yn y byd academaidd ac yn y sector preifat, fel ei gilydd. Gyda'i ffocws ar hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau ymchwil pwnc-benodol a generig, mae ein rhaglen yn darparu'r llwyfan delfrydol ar gyfer astudio pellach a gyrfa yn y byd academaidd. Yn ystod y cwrs, bydd gwaith cwrs llawer o’r modiwlau hefyd yn pwysleisio’r modd i drosi gwyddoniaeth ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan agor llwybrau cyffrous posibl eraill, megis golygu gwyddonol ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Ochr yn ochr â’r ffocws ar systemau biolegol, byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt yn y gwyddorau cymhwysol, ac y maent yn hanfodol mewn amrywiaeth o rolau ledled y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys rheoli data, curadu, dadansoddi a llythrennedd; modelu cyfrifiadurol; dulliau delweddu data; gwneud ymchwil gymhleth yn hygyrch i gynulleidfa eang; sgriptio a dogfennu piblinellau cyfrifiadurol cymhleth; rheoli a dehongli data gweledol; a chynhyrchu a phrofi damcaniaethau gan ddefnyddio modelau mathemategol syml a setiau data mawr.

Byddwch yn rhan o amgylchedd ymchwil gweithredol lle gall syniadau a dulliau newydd gael eu profi a’u harchwilio gyda’r nod o ddeillio mewnwelediadau biolegol newydd. Bydd gennych fynediad at academyddion sy'n arwain y byd, sy’n meddu ar ystod o arbenigeddau, ac sy'n ymroddedig i helpu i'ch tywys trwy unrhyw her ryngddisgyblaethol. Bydd yr amgylchedd hwn yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa ar ôl gadael y brifysgol, a byddwch yn rhan o rwydwaith cynyddol a fydd yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y dyfodol ni waeth i ba gyfeiriad y byddwch yn dymuno mynd.

Lleoliadau

Nid yw'r cwrs hwn yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol. Fodd bynnag, mae yna ddau gyfle lle gallwch ddewis gweithio gyda sefydliad allanol.

Mae ein modiwl 'Astudiaeth Achos' unigryw yn eich galluogi i gymhwyso eich sgiliau at “brosiect cleient” – naill ai ar ffurf senario go iawn a wynebir gan grŵp ymchwil mewn prifysgol, diwydiant neu sefydliad llywodraeth, neu'n uniongyrchol gyda sefydliad allanol.  Bydd myfyrwyr sy’n gweithio gyda sefydliadau allanol yn rhan o fodiwlau a addysgir yn cael eu cefnogi gan fentor o’r Brifysgol i sicrhau bod yna gyfathrebu effeithiol a’u bod yn gwneud y cynnydd gorau posibl o ran eu hymchwil. 

Gallwch hefyd ddewis ymgymryd â'ch prosiect ymchwil terfynol gyda sefydliad allanol, yn amodol ar ganiatâd gan Gyfarwyddwr y Cwrs. Bydd Cyfarwyddwr y Cwrs hefyd yn sicrhau bod amcanion prosiect y modiwl yn cael eu bodloni, a bod goruchwyliaeth briodol yn cael ei rhoi, fel arfer trwy gyd-oruchwyliaeth gan fentor o’r Brifysgol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Biosciences


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.