Ewch i’r prif gynnwys

Ecoleg Bydeang a Chadwraeth (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod ein MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yw hyfforddi ecolegwyr a chadwraethwyr y dyfodol.

tick

Y tueddiadau diweddaraf ym maes cadwraeth

Ewch ati i ddysgu beth yw’r cysyniadau a'r heriau ym maes cadwraeth, gan gynnwys yng nghyd-destun deddfwriaeth a chyrff anllywodraethol, a ‘sganio’r gorwel’ ar gyfer bygythiadau yn y dyfodol.

molecule

Hyfforddiant ymarferol

Defnyddiwch y technolegau arolygu diweddaraf fel dronau ac eDNA ar gyfer monitro ecosystemau, nodi rhywogaethau sy’n prinhau a gwneud diagnosis o'r achosion.

plane

Gwaith maes yn y DU neu dramor

Drwy gwrs maes a lleoliad gwaith dewisol, mae’r addysgu yn y maes yn cael ei ymestyn 10 i 15 diwrnod mewn dewis o gyrchfannau yn y DU ac yn rhyngwladol.

people

Gwaith allanol cyhoeddus

Ymgysylltwch â chydweithwyr gwyddonol, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach drwy wneud ein modiwl Cyfathrebu Gwyddoniaeth pwrpasol.

star

Cyfranwyr arbenigol

Rydym yn gofyn i arbenigwyr a meddylwyr allanol blaenllaw ym maes cadwraeth i gyfrannu'n rheolaidd at ein cwrs.

Gyda hinsawdd sy'n newid, poblogaeth sy’n tyfu a chyfraddau mwyfwy o ddifodiant a cholli cynefinoedd, mae'r byd yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg erioed. Er mwyn ymateb i'r heriau hyn a diogelu ein bywyd gwyllt a'n hecosystemau, mae arnom angen gwyddonwyr arloesol a hyblyg a all ddatblygu strategaethau cadwraeth sy’n cael effaith go iawn.

Nod ein MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yw hyfforddi ecolegwyr a chadwraethwyr y dyfodol. Byddwn yn cwmpasu'r rhychwant cyflawn o theori ecolegol ac ymchwil arloesol, hyd at asesiadau safle ymarferol ac ymyriadau cadwraeth, gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fynd i'r afael â heriau byd-eang mawr a gwneud gwahaniaeth yn y ""byd go iawn"".

O afonydd de Cymru i fforestydd glaw Borneo, mae ein MSc yn cwmpasu'r prif ystyriaethau cadwraeth sy'n effeithio ar gynefinoedd ledled y byd. Gyda hyfforddiant mewn meysydd craidd, fel arolygon bywyd gwyllt, asesiadau bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau, byddwch yn dysgu sut i adnabod bygythiadau cyfredol a newydd i rywogaethau ac ecosystemau, ac yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r bygythiadau hyn gyda datrysiadau effeithiol a graddadwy.

Mae yna bynciau craidd, ac yna ceir dewis rhydd o fodiwlau dewisol, gan gynnwys Cyfathrebu Gwyddoniaeth, Dŵr a Bywyd ar y Ddaear, a Ffiniau yn y Biowyddorau, a dewisiadau eang ar gyfer y prosiect ymchwil a llawer o bynciau gwaith cwrs. Mae hyn yn rhoi'r rhyddid i chi deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfa. Mae nifer o'n modiwlau craidd yn cynnwys elfen gwaith maes, tra bod ein modiwl Lleoliad ac Ymchwil Maes dewisol yn cynnwys cwrs maes estynedig yn y DU neu dramor, ynghyd â lleoliad gwaith proffesiynol.

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan academyddion blaenllaw sy’n gweithio ledled y byd yn cynnal ymchwil arloesol ac sy’n rhoi sylw i heriau byd-eang allweddol - o ymchwil arloesol sy’n ymdrin â heriau byd-eang, i ddatblygu cynlluniau gweithredol i warchod rhywogaethau brodorol. Yn ogystal â phrofi’r cyffro o ddysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol, bydd yr ymagwedd hon hefyd yn dangos sut gall eich gwaith gael ei drosi i fesurau cadwraeth ymarferol.

Rydyn ni’n gwybod bod ecoleg a chadwraeth yn esblygu'n gyson, ac, mewn ymateb, rydyn ni wedi datblygu MSc sy'n edrych tua'r dyfodol yn benodol, sy'n cwmpasu technoleg newydd ac sy’n ""sganio'r gorwel"" gyfer ystyriaethau cadwraeth y dyfodol. Rydyn ni’n mynd ati gydag ymagwedd hyblyg a rhyngddisgyblaethol, a’n nod yw hyfforddi ôl-raddedigion sy'n gallu ymgymryd â rolau mewn ymchwil, ymarfer, polisi, ymgynghoriaeth a mwy, ac sydd â'r sgiliau, yr hyder a'r sylfaen wybodaeth i addasu i farchnad swyddi fyd-eang ac amgylchedd sy'n newid.

Mae astudio’r radd MSc Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang wedi bod yn un o benderfyniadau mwyaf gwerth chweil fy mywyd. Mae'r cwrs nid yn unig wedi datblygu fy ngwybodaeth ddamcaniaethol am faterion cadwraeth ar draws y byd, ond mae hefyd wedi rhoi sgiliau pwysig i mi eu defnyddio mewn cyd-destunau cadwraeth mwy ymarferol.
Alex Griffiths - 2022 gradd MSc Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Biowyddorau

Rydym yn darparu amgylchedd addysgu ysgogol gyda chyfleusterau modern trawiadol, yr offer diweddaraf a staff o'r radd flaenaf.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4129
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel Bioleg, Botaneg, Ecoleg, Gwyddorau Amgylcheddol neu Sŵoleg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol mewn cadwraeth neu reolaeth amgylcheddol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
 
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs yn rhedeg am 12 mis ar sail amser llawn. Mae myfyrwyr yn astudio modiwlau gwerth 180 credyd.

Mae'r rhaglen yn cynnwys pedwar modiwl craidd (80 credyd), dau fodiwl dewisol (40 credyd) a phrosiect ymchwil (60 credyd). Mae'n cynnwys dau gam:

  • Cam 1: modiwlau a addysgir. Mae man ymadael ar ddiwedd Cam 1 (120 credyd), sy'n arwain at Ddiploma Ôl-raddedig. Mae amseriad y pwynt hwn yn dibynnu ar y modiwlau penodol y mae'r myfyriwr wedi'u dewis
  • Cam 2: Prosiect Ymchwil

Prosiect Ymchwil (traethawd hir)

Mae pob myfyriwr MSc yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol sy'n diweddu gydag adroddiad o tua 8,000-10,000 o eiriau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae cydran a addysgir y rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau ymarferol cyfrifiadurol ac addysgu yn y maes, yn ogystal â darlithoedd ""rhithwir"" arloesol a thaith maes rhithwir i goedwig law Borneo. Mae modiwl Cwrs Maes a Lleoliad dewisol yn ymestyn yr addysgu yn y maes gyda chwrs maes tua 10-15 diwrnod mewn dewis o gyrchfannau yn y DU ac yn rhyngwladol.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o asesu sgiliau ymarferol, gwaith cwrs, traethodau, cyflwyniadau a phrosiect ymchwil (= traethawd hir; 8,000-10,000 o eiriau). Gall rhai modiwlau dewisol hefyd gynnwys arholiadau fel rhan o'r asesiad.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd Tiwtor Personol yn cael ei ddynodi i chi pan fyddwch yn cyrraedd Prifysgol Caerdydd, a gallwch ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg lle bo angen. Fe'ch anogir i gysylltu â'ch Tiwtor Personol os bydd gennych unrhyw faterion academaidd neu fugeiliol yr hoffech eu trafod. Byddwch yn cwrdd â'ch Tiwtor Personol yn ystod pythefnos cyntaf y cwrs, ac yna’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.

Cyfoedion yn Cefnogi Myfyrwyr Ôl-raddedig

Yn ogystal â’r system tiwtor personol, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig system benodol o gefnogaeth cyfoedion ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, gan gydnabod anghenion penodol myfyrwyr sy’n astudio ar y lefel hon. Mae Myfyrwyr Ôl-raddedig sy’n Cefnogi Cyfoedion yn gwirfoddoli i gynnal llesiant myfyrwyr ôl-raddedig eraill drwy hwyluso Grwpiau Cefnogi Cyfoedion Ôl-raddedig bob mis. Mae'r Grwpiau Cefnogi Cyfoedion Ôl-raddedig yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn (gan gynnwys dros yr haf).

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Trafod egwyddorion allweddol sy'n sail i ecoleg a chadwraeth, yn enwedig gan eu bod yn ymwneud â newid amgylcheddol a byd-eang.
  • Gwybod y gwahaniaeth rhwng agweddau gwahanol ar fioamrywiaeth (e.e. swyddogaethol, tacsonomaidd) ar raddfeydd sy'n amrywio o enynnau i ecosystemau, ac esbonio sut i'w mesur nhw a'u newidiadau drwy ofod a/neu amser
  • Disgrifio gwahanol dechnegau arolwg maes, gydag arferion gwaith diogel cysylltiedig a deddfwriaeth berthnasol
  • Asesu bygythiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg i fioamrywiaeth, ochr yn ochr â pholisi a deddfwriaeth berthnasol
  • Adolygu strategaethau cadwraeth traddodiadol ac arloesol, fel ailgyflwyno, dad-ddofi tir a chreu coridorau cadwraeth

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu

  • Dyfeisio strategaethau rheoli, gydag egwyddorion a thystiolaeth ecolegol yn sail iddyn nhw, i warchod rhywogaethau a/neu reoli safleoedd cadwraeth natur
  • Dewis dulliau addas o ddadansoddi data a darlunio'r canlyniadau
  • Diagnosio sbardunau newid mewn bioamrywiaeth/ecosystem gan ddefnyddio data.
  • Gwerthuso'n feirniadol: i) dulliau arolwg ecolegol a data a gesglir gan ddefnyddio'r dulliau hynny, ii) asesiadau effaith amgylcheddol; iii) canlyniadau dadansoddiadau data; a iv) ymchwil wedi’i chyhoeddi o'r llenyddiaeth wyddonol

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dylunio arolygon maes a phrosiectau ymchwil i fynd i'r afael â nodau neu ragdybiaethau penodol
  • Casglu data ar gyfer gwahanol dacsonau ac amgylcheddau, gan ddefnyddio dulliau sefydledig a blaengar sy'n berthnasol i gyd-destunau ymchwil a chymhwysol (e.e. ymgynghoriaeth ecolegol)
  • Dewis, a chyfiawnhau'r dewis o ddulliau addas ar gyfer mesur gwahanol agweddau ar fioamrywiaeth pan gaiff senarios ecolegol a chadwraeth neu gwestiynau ymchwil eu cyflwyno
  • Gwerthuso gwahanol ddulliau ystadegol yn feirniadol a dewis rhai priodol pan gaiff senarios a setiau data cysylltiedig eu cyflwyno.
  • Defnyddio meddalwedd o safon y diwydiant (systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) ac R) i ddylunio a llunio mapiau digidol, a dadansoddi data
  • Cyfosod, gwerthuso a chyfleu allbynnau ymchwil (e.e. papurau gwyddonol, dadansoddiadau data) i gyfoedion gwyddonol yn ysgrifenedig ac ar lafar

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cyfosod allbynnau gwyddonol cymhleth (e.e. papurau gwyddonol, dadansoddiadau data, asesiadau effaith amgylcheddol) yn fformatau ysgrifenedig a llafar wedi'u teilwra i gynulleidfa anarbenigol (e.e. llunwyr polisi, y cyhoedd)
  • Paratoi adroddiadau ysgrifenedig, gyda strwythurau clir a threfnu gwybodaeth mewn modd rhesymegol, gan ddefnyddio gramadeg/sillafu yn gywir
  • Fformatio setiau data i hwyluso cydweithio ac archifo hirdymor
  • Dadansoddi, darlunio a dehongli data cymhleth
  • Dylunio a rheoli prosiectau ymchwil
  • Gwerthuso, blaenoriaethu a chymhwyso gwybodaeth a data cymhleth i ddyfeisio strategaethau a chynlluniau
  • Cymhwyso arferion gwaith diogel wrth wneud gwaith maes
  • Gweithio'n unigol neu ar y cyd i ddatrys problemau
  • Dehongli a chymhwyso canllawiau cyfreithiol ar gyfer cynigion prosiect neu ddyluniadau arolygon

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £27,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Os byddwch yn dewis y modiwl dewisol, Lleoliad ac Ymchwil Maes (BIT055), ac yn dymuno mynychu cwrs maes tramor, bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â theithio, llety a chynhaliaeth. Ymhlith y lleoliadau presennol mae Tobago a Borneo, yn astudio ecoleg y môr neu'r goedwig law, ac mae'r costau'n amrywio o tua £1100 (Tobago) i £2000-2500 (ar gyfer gwahanol gyrsiau yn Borneo). Rydyn ni’n gwneud ein gorau i gadw'r costau hyn mor isel â phosibl, er enghraifft yn Borneo rydyn ni’n cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru nad ydyn nhw’n arwain at gostau ychwanegol. Cysylltwch â'r Ysgol i gael rhagor o wybodaeth am gostau cyrsiau maes.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae ein MSc yn cynnig hyfforddiant rhagorol i ecolegwyr a chadwraethwyr y dyfodol. Bydd y cyfuniad o sgiliau theori ac ymchwil ymarferol, rheoli cadwraeth a deddfwriaeth, a nodi bygythiadau sy'n dod i'r amlwg, yn rhoi'r wybodaeth wyddonol, y profiad ymarferol a'r hyblygrwydd sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi fyd-eang heddiw.

Yn benodol, rydym yn disgwyl i lawer o'n graddedigion fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus mewn ymchwil, ymgynghoriaeth ecolegol, a pholisi ac ymarfer cadwraeth. Gyda'i ffocws ar hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau ymchwil pwnc-benodol a generig, mae ein MSc yn darparu'r llwyfan delfrydol ar gyfer astudio pellach a gyrfa yn y byd academaidd. Bydd myfyrwyr sy'n dewis y modiwl Cyfathrebu Gwyddoniaeth dewisol yn dysgu sut i gyfieithu gwyddoniaeth ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan agor llwybrau cyffrous eraill, megis newyddiaduraeth, darlledu ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Ochr yn ochr â hyfforddiant gwyddonol cadarn, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt y tu hwnt i ecoleg a chadwraeth. Yn benodol, sgiliau megis rheoli data, dadansoddi a llythrennedd; gwneud ymchwil gymhleth yn hygyrch i gynulleidfa eang; arfarnu cynigion a pholisïau rheoli amgen; a dyfeisio atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i broblemau, yn hanfodol mewn amrywiaeth o rolau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol lle gall ymchwil ffynnu ac rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich gyrfa ôl-brifysgol. Drwy gydol y cwrs, cewch amrywiaeth eang o gyfleoedd i sefydlu cysylltiadau â darpar gyflogwyr, boed hynny drwy leoliad profiad gwaith, cydweithrediadau a ddatblygwyd yn ystod y prosiect ymchwil, neu ddarlithoedd gwadd gan arbenigwyr allanol blaenllaw.

Lleoliadau

Mae'r cwrs hwn yn cynnig sawl cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymchwil ymarferol drwy fodiwlau gwaith maes a lleoliad proffesiynol.

Mae profiad uniongyrchol o wahanol gynefinoedd a thechnegau gwaith maes yn rhan bwysig o hyfforddiant ecolegydd, ac mae nifer o'n modiwlau craidd yn cynnwys elfen gwaith maes, sy'n cynnwys ymarfer sgiliau maes mewn lleoliadau ledled de Cymru. Yn dibynnu ar y pwnc a ddewisir, gall eich prosiect ymchwil hefyd gynnig cyfle am waith maes helaeth.

Gall ymgeiswyr sy'n dewis y modiwl dewisol, Lleoliad ac Ymchwil Maes, ddewis o amrywiaeth o gyrsiau maes (tua 10-15 diwrnod), yma yn y DU ac mewn lleoliadau rhyngwladol, fel Tobago a Borneo. Mae costau ychwanegol ynghlwm â’n cyrsiau maes rhyngwladol, ond mae Ysgol y Biowyddorau yn rhoi rhywfaint o gymhorthdal ar gyfer y rhain. Mae'r modiwl hwn hefyd yn cynnwys lleoliad pum diwrnod mewn sefydliad perthnasol yn y DU, fel corff anllywodraethol cadwraeth, labordy ymchwil, canolfan maes, amgueddfa neu sefydliad sŵolegol. Mae myfyrwyr yn trefnu eu lleoliadau eu hunain, gyda chymorth ac arweiniad gan staff y Brifysgol.

Gyda’i gilydd, gallwch ddewis treulio tua mis yn y maes fel rhan o'ch modiwlau a addysgir (heb gynnwys y prosiect ymchwil, a all hefyd fod yn y maes), sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cadwraeth ac ecoleg ymarferol y gellir eu defnyddio ledled y byd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Biowyddorau


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.