Ewch i’r prif gynnwys

Biowyddorau (MRes)

Mae’r MRes yn helpu i wella eich sgiliau ymchwil ac gallai eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn labordy gwyddonydd o fri rhyngwladol.

Mae’r Meistr mewn Ymchwil (MRes) mewn Biowyddorau yn rhaglen sy’n para blwyddyn, wedi’i dylunio i ddarparu cymhwyster ôl-raddedig gwerthfawr sy’n galluogi unigolion sy’n dymuno gwella’u sgiliau ymchwil i wneud prosiect ymchwil yn labordy gwyddonydd o fri rhyngwladol. Byddai hynny’n ddelfrydol i’r sawl a hoffai ddysgu rhagor am ymchwil cyn ystyried gwneud PhD. Drwyddi, hefyd, gellir cael tystysgrif ôl-raddedig, ac mae hynny’n golygu ei bod hi’n hygyrch dros ben i unigolion sy’n gweithio ym myd diwydiant neu addysg uwch yma neu mewn gwlad dramor.

Nodau'r rhaglen

Nodau cyffredinol y rhaglen yw rhoi’r cyfle i ôl-raddedigion ac unigolion o’r diwydiant, cartref a thramor, i ymgymryd â hyfforddiant ymchwil ar ddau lefel academaidd benodol. Bydd hyn yn galluogi caffael y sgiliau, y technegau a’r profiad angenrheidiol i ddod yn ymchwilydd cyflogadwy, mwy cymwys.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn
Cymhwyster MRes
Hyd amser llawn Blwyddyn
Derbyniadau Medi

Mae'r rhaglen yn cynnwys dau gyfnod:

Cyfnod 1

Cymerir cyfnod 1 rhwng mis Medi a mis Ionawr.

Mae myfyrwyr yn cwblhau modiwlau a addysgir, cyfanswm o 60 credyd, a allai arwain at ddyfarnu Tystysgrif Ôl-raddedig yn y Biowyddorau.

Mae’r holl fodiwlau a restrir isod yn orfodol.

Technegau Ymchwil yn y Biowyddorau (20 credyd)

Nod y modiwl yw i ddeall y disgyblaethau ymchwil pwysig ym maes biowyddorau modern. Mae Asesiad yn bortffolio o ymchwil sy’n seiliedig ar lenyddiaeth ac ymarferion ymarferol yn ystod y cwrs, megis technoleg DNA, samplo maes a phoblogaeth, bioleg bôn-gelloedd a thechnoleg niwrowyddonol.

Trin Data ac Ystadegau (20 credyd)

I hyfforddi myfyrwyr i feddwl yn rhesymegol a dadansoddi data rhifiadol yn feirniadol. Mae myfyrwyr yn astudio agweddau ar ddadansoddi ystadegol a biowybodeg. Mae asesiad yn seiliedig ar nifer o aseiniadau a gwblheir yn ystod y tymor a prosiect bach a gyflwynwyd.

Sgiliau Allweddol ym maes Ymarfer Ymchwil (20 credyd)

Rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o amrywiaeth o sgiliau sylfaen sy'n angenrheidiol i fod yn wyddonydd proffesiynol. Mae asesiadau yn amrywio o ysgrifennu erthygl, cyflwyno poster, ysgrifennu cynnig grantiau a chyflwyno portffolio.

Gellir gofyn am ddisgrifiad llawn o bob modiwl yng ngham 1 drwy e-bost.

Cyfnod 2

Mae cyfnod 2 yn digwydd rhwng mis Chwefror a mis Medi.

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau prosiect ymarferol (100 credyd).

Strwythur y prosiect cyffredinol ar gyfer y prosiect ymarferol yn y Biowyddorau yw un darn o waith a gynhaliwyd dros 8 mis o’r rhaglen MRes gan ddechrau o fis Chwefror ac yn gorffen ym mis Medi.

Bydd y prosiect yn cael ei ddewis gan y myfyriwr ar y cyd â staff academaidd yn un o adrannau yr Ysgol.

Mae myfyrwyr hefyd yn cyflwyno poster ac yn rhoi sgwrs am eu gwaith ymchwil (20 credyd).

Mae ein sefydliad ymchwil yn canolbwyntio ar bedair adran. Mae pob un yn cael eu harwain gan ymchwilydd blaenllaw sy’n rhedeg rhaglenni ymchwil deinamig.

  • Biowyddorau Moleciwlaidd: Mae’r adran arloesol hon yn canolbwyntio ar fecanweithiau moleciwlaidd sy’n sail i swyddogaeth biolegol.
  • Niwrowyddoniaeth: Mae’r adran niwrowyddoniaeth yn mynd ar drywydd amrywiaeth eang o ymchwil niwrofiolegol, yn cwmpasu lefelau moleciwlaidd i ymddygiadol.
  • Organebau a’r amgylchedd: Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar fioleg organebau cyfan a’ rolau a’u rhyngweithiadau mewn ecosystemau sy’n newid, mewn haint ac iechyd, ac ar lefel enynnol y boblogaeth.
  • Biofeddygaeth: Rydym yn canolbwyntio ar fecanweithiau moleciwlaidd arferol a systemau clefyd a phrosesau sy’n cymell atgyweirio ac adfywio.

Mae'r rhagolygon gyrfa yn y maes hwn yn ardderchog ar y cyfan. Mae myfyrwyr sy'n graddio yn bennaf yn dilyn llwybrau i ymchwil neu i'r diwydiant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant, mae llawer o'n graddedigion MRes yn sicrhau swyddi gwych mewn sefydliadau fel technegwyr labordy, athrawon, ymgynghorwyr, cadwraethwyr natur a thechnegwyr ymchwil.

Mae tua 55-65% o'n myfyrwyr MRes yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer PhD. O ran ymchwil, mae gennym lawer o feysydd sy'n gofyn am fyfyrwyr PhD, a bydd yr MRes yn rhoi llwyfan ardderchog i chi os mai dyma'r llwybr gyrfa o'ch dewis.

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Ysgoloriaethau ar gael gwerth £3,000 yr un ar gyfer myfyrwyr o'r DU/UE sy'n dechrau gradd meistr.

Rhagor o wybodaeth.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2022/23.

Rhagor o wybodaeth.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Yr hyn sy’n gyfwerth â gradd is-raddedig ar lefel 2:2 (neu uwch) mewn pwnc biolegol, biofeddygol neu fiofoleciwlar perthnasol.

Ystyrir ceisiadau hefyd gan ymgeiswyr sydd ag o leiafswm 5 mlynedd o brofiad masnachol perthnasol ac sy’n bwriadu ymgymryd â Chyfnod 1 y Rhaglen yn unig (Tystysgrif Ôl-raddedig).

Sylwer bod rhaid i ymgeiswyr uwchlwytho dau eirda ysgrifenedig gyda'u cais – mae'r rhain yn ofynnol ar gyfer pob ymgeisydd. Er bod y ffurflen gais yn gofyn i ymgeiswyr lenwi cynnig ymchwil, nodwch nad ydym yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau hyn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, er mwyn cyflwyno'r ffurflen rhaid i chi ysgrifennu 'N/A' yn y blwch testun.

Bydd disgwyl i bob ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan mewn cyfweliad, naill ai wyneb yn wyneb neu drwy Skype.

Gofynion Iaith Saesneg

Dylai ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn famiaith iddyn nhw fod wedi ennill 6.5 (o leiaf 6.0 ym mhob elfen) ym mhrawf IELTS os nad oes cymhwyster Saesneg cydnabyddedig gyda nhw.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Derbyniad

Tua 20-25 o fyfyrwyr fesul sesiwn academaidd.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Rhian Watkins

Rhian Watkins

Administrative Officer

Email
watkinsr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4865

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig