Ewch i’r prif gynnwys

Organebau a'r Amgylchedd

Mae Organebau a’r Amgylchedd yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Biowyddorau (PhD, MPhil, MD).

Mae’r adran ymchwil Organebau a’r Amgylchedd yn canolbwyntio ar fioleg organebau cyfan a’ rolau a’u rhyngweithiadau mewn ecosystemau sy’n newid, mewn haint ac iechyd, ac ar lefel genetig. Ein nod yw deall canlyniadau ecolegol, iechyd a genetig newid amgylcheddol ar amrywiaeth biolegol. Ein dull yw canolbwyntio ar brosesau a rhagfynegi, gan gyfuno dulliau ecolegol, arbrofol a moleciwlaidd, mewn gwahanol grwpiau o organebau. Mae’r holl brif grwpiau’n cael eu hastudio, gan gynnwys anifeiliaid, planhigion, bacteria, archaea, protosoa, ffyngau ffilimentaidd a burum.

Mae meysydd ymchwil yn cael eu rhannu'n fras yn dri maes:

  • genomau, amrywiaeth ac addasu
  • unigolion, ecosystemau a Newid Byd-eang
  • microbau, haint a chymunedau.

Mae prosiectau PhD yn dueddol o fod yn amlddisgyblaethol eu natur, ac yn amrywio o ecoleg maes i ficrobioleg arbrofol i enomeg poblogaeth. Mae gan y grŵp ganolfan maes yn Sabah, Malaysia a chyfleuster O&E ac maen nhw hefyd yn gyfrifol am gynnal cyfleusterau cefnogi Bioleg Moleciwlaidd a Dadansoddiadol yr Ysgol. Yn yr is-adran ymchwil fywiog a mawr hon, mae nifer o brosiectau’n cael eu rhedeg mewn cydweithrediad â Phrifysgolion a Sefydliadau Ymchwil mewn mannau eraill yn y DU a thramor, yn ogystal ag adrannau eraill (fel Gwyddorau y Ddaear ac Amgylcheddol, Gwyddorau Cymdeithasol, Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol) yn y Brifysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am ymchwilwyr a chyfleusterau yn yr adran Organebau a’r Amgylchedd ar gael ar wefan yr ysgol.

Nodweddion unigryw

  • Rhaglen o seminarau: Mae gan Organebau a’r Amgylchedd raglen seminar gweithredol i alluogi myfyrwyr is-raddedig i gyfarfod yr ymchwilwyr rhyngwladol gorau a hefyd cyflwyno eu hymchwil eu hunain

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

School of Biosciences Education Office

Mae sbectrwm y gweithgareddau ymchwil yn cynnwys:

  • Ecoleg microbau a phridd
  • Ymchwil rhywogaethau sydd mewn perygl
  • Genomeg, metagenomeg, poblogaeth a geneteg amgylcheddol planhigion, anifeiliaid a microbau
  • Ecotocsioleg mewn amgylcheddau dyfrol a daearol
  • Ecoleg cymunedol gan gynnwys rheoli plâu
  • Rhyngweithio rhwng organebau a’u adnoddau bwyd
  • Ecoleg ymddygiadol ac esblygol
  • Ecoleg cemegol a rheoli gwastraff
  • Deinameg poblogaeth mewn dŵr croyw a systemau daearol
  • Rhyngweithio ysglyfaethwr-ysglyfaeth a pharasitiaid-lletyol
  • Epidemioleg a pathogenesis, gan gynnwys bacteria meddygol pwysig.

I gael manylion am brosiectau parhaus a phartneriaethau, ewch i wefannau aelodau unigol yr Is-adran Organebau a’r Amgylchedd.

Prosiectau

Ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o brosiectau ar gael i wneud cais amdanynt yn Ysgol y Biowyddorau, ac mae rhai yn cael eu cynnig fel rhan o’n amrywiaeth o ymglymiadau DTP.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Biowyddorau.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig