PhD a MPhil

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi rhwydd hynt i chi ymchwilio'n ddwfn i bwnc cyfoes, gan weithio gydag ymchwilwyr blaenllaw a chael defnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Biowyddorau, byddwch yn elwa ar weithio mewn amgylchedd hyfforddiant ac ymchwil rhagorol, gyda rhaglen wedi’i strwythuro a’i chefnogi’n dda er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwilio’n annibynnol.
PhD
Rydym yn cynnig ysgoloriaethau PhD wedi’u hariannu’n llawn i gyfranogwyr o’r DU a’r UE drwy raglen PhD Biowyddorau, yn ogystal â chynnig cyfleoedd hunan-ariannu i fyfyrwyr o bedwar ban byd.
PhDs wedi’u hariannu’n llawn
Rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau wedi’u hariannu’n llawn mewn nifer o feysydd ymchwil.
Ystyriwch ein cyfleoedd presennol am PhD
PhDs wedi’u hunan-ariannu
Rydym yn cynnig goruchwyliaeth a / neu brosiectau ymchwil yn y meysydd canlynol i fyfyrwyr wedi’u hunan-ariannu o’r DU, yr UE a thramor.
- Biowyddorau Moleciwlaid
- Biofeddygaeth
- Organebau a’r Amgylchedd
- Canser
- Peirianneg Systemau Byw
- Mecanweithiau Bywyd a Chlefyd
- Niwrowyddoniaeth
- Planed Gynaliadwy
- Technolegau Newydd.
Rydym hefyd yn croesawu cynigion ymchwil gan fyfyrwyr wedi’u hunan-ariannu. Mae’n bwysig bod eich cais yn cyd-fynd â diddordebau ymchwil yr Ysgol, felly cyn cyflwyno cais, cysylltwch ag aelodau o staff o’r is-adran ymchwil berthnasol i drafod eich cynnig ymchwil posibl.
MPhil
Mae ein MPhil yn cynnwys prosiect byrrach, gyda mwy o ffocws, na PhD, ac yn caniatáu i chi adeiladu ar brofiad academaidd a phroffesiynol i ddatblygu eich sgiliau ymchwil ymhellach.
Dylai ceisiadau am MPhil fod yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil staff yn Ysgol y Biowyddorau.
Byddwn yn argymell Prifysgol Caerdydd i ddarpar fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae amgylchedd dysgu cefnogol iawn a rhwydwaith da o ymchwilwyr yma. Ar ben hynny, mae Caerdydd yn ddinas wirioneddol wych i fyw ynddi.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth: