Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

Mae'r gyfraith yn bwnc sy'n berthnasol i bob agwedd ar eich bywyd: mae'r dderbynneb yn eich poced, eich contract cyflogaeth, eich hawliau fel perchennog cartref neu denant, y gofal mae eich nain neu’ch taid yn ei gael mewn cartref gofal, a'r polisïau a ffurfir ac a drosglwyddir gan y llywodraeth oll yn enghreifftiau o'r ffordd mae'r gyfraith yn chwarae rhan yn ein bywydau.

academic-school

Pro bono

Datblygu eich sgiliau cyfreithiol gan weithio ar achosion go iawn a helpu aelodau o'r gymuned gyda'n gwahanol gynlluniau Pro Bono.

tick

Cyflogadwyedd

96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

rosette

Cymdeithas arobryn

Enillodd ein cymdeithas y Gyfraith wobr 'Ymgysylltu Gorau' yng Ngwobrau Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith LawCareers.Net 2020.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Y Gyfraith (LLB)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae ein rhaglen flaenllaw yn y Gyfraith yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau ar Gyfraith yr Amgylchedd, Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Cyfryngau a Chyfraith Teulu ac yn cynnwys cyfleoedd i wneud cais am leoliadau paragyfreithiol a gweithgareddau pro

Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth (LLB)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cael effaith enfawr ar ein bywydau beth bynnag ein hoedran, ein hethnigrwydd a'n cefndir cymdeithasol. Mae'r rhaglen hon yn eich galluogi i gyfuno'r pynciau diddorol hyn o fewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol Ysgol

Y Gyfraith a Throseddeg (LLB)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Bydd eich modiwlau yn y Gyfraith yn archwilio'r system o reolau a ddefnyddir gan wlad neu wladwriaeth i reoleiddio ei thrigolion, a bydd eich modiwlau Troseddeg yn canolbwyntio ar droseddoleiddio, erledigaeth, ac ymatebion cymdeithasol i drosedd ac

Y Gyfraith a’r Gymraeg (LLB)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae'r gallu i weithio'n broffesiynol yn y Gymraeg yn sgil y mae galw cynyddol amdano yng Nghymru heddiw. Cewch sylfaen gynhwysfawr yng Nghyfraith Cymru a Lloegr a datblygu dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o'r Gymraeg, ynghyd â llenyddiaeth a

Ein sgyrsiau a'n fideos

Studying law at Cardiff University

Professor Nicolas Ryder explores the multifaceted topic of law and how, without us really noticing, it permeates most aspects of our lives. Professor Ryder talks about studying law at Cardiff University and how our offering differs from other universities via the choices, pro bono opportunities, and extra-curricular activities we provide you.

Barn ein myfyrwyr

Dyma sydd gan Ollie i'w ddweud am ei gyfnod yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Astudiodd Ollie raglenni israddedig ac uwchraddedig yn y gyfraith gyda ni.

Cewch wybod rhagor am Brosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd a gynhelir gan yr Uned Pro Bono

Gwrandewch ar Kyprianos, sy’n fyfyriwr y gyfraith, yn sôn am sut brofiad yw bod yn rhan o Brosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd.

Uchafbwynt y cwrs i mi oedd dod i ddeall sut mae gan y gyfraith rôl mor hanfodol mewn bywyd bob dydd. Bod yn gyfreithiwr oedd fy nymuniad ers i mi fod yn 15 oed ac mae'r cwrs wedi bod yn allweddol gan fy helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni fy nodau. Er bod y cwrs wedi bod yn heriol yn ddeallusol, rwyf i wedi mwynhau gweld twf personol a chynnyddu fy hunanhyder.
Chloe Daley Y Gyfraith LLB

Mwy amdanom ni

Student speaking with lecturer.

Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth

Rydym ni'n cynnig amrywiol gyfleoedd fydd yn eich helpu i dynnu sylw mewn marchnad cyflogaeth gystadleuol.

Student working on legal cases

Pro Bono

Cewch gychwyn da i'ch gyrfa gyfreithiol yn ein Huned Pro Bono. Cewch ddatblygu sgiliau gofalu am gleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus wrth weithio ar achosion go iawn a helpu aelodau o'r gymuned.

Law Building

Ble byddwch chi'n astudio

Rydym mewn man canolog ym mhrifddinas Cymru, yn y ganolfan ddinesig a chyfreithiol. Yn agos at ganol y dref a chysylltiadau trafnidiaeth.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Library students

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

academic-school
Download icon

Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion

Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.

icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Cyflwyno cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Student sitting behind a laptop

Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Ymunwch ag un o'r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mwyaf yn y DU.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.