Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith a Throseddeg (LLB)

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Blwyddyn dramor neu ar leoliad

Ehangwch eich gorwelion; manteisiwch ar y cyfle i astudio dramor neu ar leoliad proffesiynol gyda blwyddyn ryngosod ddewisol.

academic-school

Cysylltiadau sefydliadol

Dysgwch gan sefydliadau blaenllaw drwy gysylltiadau â llunwyr polisïau, ysgolion lleol, colegau a sefydliadau addysg/hyfforddiant eraill.

tick

Achrediad proffesiynol

Cwrs wedi'i achredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

structure

Y gyfraith yn ei chyd-destun

Dysgwch am faterion cyfoes mewn cyfraith amgylcheddol, cyfraith hawliau dynol a gwahaniaethu a'r gyfraith.

academic-school

Ategwch eich astudiaethau academaidd

Rydym yn cynnig amrywiaeth o brosiectau pro bono arloesol lle gallwch weithio gyda chleientiaid dan oruchwyliaeth broffesiynol.

Tra bo’r Gyfraith yn archwilio'r system o reolau a ddefnyddir gan wlad neu wladwriaeth i reoleiddio ei thrigolion, mae Troseddeg yn canolbwyntio ar droseddoleiddio, erledigaeth, ac ymatebion cymdeithasol i drosedd ac anhrefn. Mae hyn yn gwneud y ddau bwnc yn bâr delfrydol i'w astudio gyda’i gilydd fel rhan o raglen gydanrhydedd.

Mae’r rhaglen radd hon yn gyfle i astudio'r Gyfraith a Throseddeg yng nghyd-destun rhyngddisgyblaethol gwyddorau cymdeithasol.

Cewch eich trwytho yng Nghyfraith Cymru a Lloegr drwy astudio’r modiwlau sylfaen (sy’n cynnwys cam academaidd yr hyfforddiant sy'n angenrheidiol ar hyn o bryd i ddod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr). Yn ogystal â hynny byddwch yn astudio trosedd, cyfiawnder a rheolaeth fel gwyddonydd cymdeithasol cyn cymhwyso eich sgiliau ymchwil newydd i faterion a dadleuon yn y byd go iawn.

Troseddeg yw’r maes astudio sy’n canolbwyntio ar droseddoli, erledigaeth, ac ymatebion cymdeithasol i droseddu ac anhrefn. Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o safbwyntiau gwyddorau cymdeithasol, ac yn cynnig y cyfle i chi archwilio dulliau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol o ymdrin â throseddu a ffyrdd o’i reoli.

Maes pwnc: Y Gyfraith

Maes pwnc: Y Gwyddorau Cymdeithasol

  • academic-schoolYsgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4208
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :
- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar
- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,950 Dim
Blwyddyn dau £22,950 Dim
Blwyddyn tri £22,950 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai gwerslyfrau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn arbennig o ddiddorol.

Os oes gennych liniadur bydd gennych yr opsiwn o brynu meddalwedd am brisiau gostyngedig.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnoch i astudio ar y rhaglen hon.  Byddai defnydd o liniadur yn fanteisiol gan fod llawer o'r gwaith darllen ar gael yn electronig a chaiff y rhan fwyaf o'r asesiadau eu paratoi ar feddalwedd prosesu geiriau safonol.

Beth fydd y Brifysgol yn ei ddarparu:

Cyfrifiaduron ar rwydwaith gyda gofod priodol i ffeiliau a'r holl feddalwedd angenrheidiol.  Mynediad at ddarllen hanfodol a chefndir ar gyfer pob modiwl ac amrywiaeth eang o gyfnodolion ac adnoddau ar-lein eraill.  Bydd holl ddogfennau'r cwrs ar gael ar-lein (drwy'r VLE) a chaiff copïau caled o ddogfennau hanfodol eu darparu ar gais.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.

Yn ystod eich gradd, byddwch yn gallu astudio modiwlau Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol sy'n ffurfio'r Radd Cymhwyso yn y Gyfraith.

Mae modiwlau a gynigir gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn galluogi myfyrwyr i archwilio dulliau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol o astudio troseddeg.

Mae'r blynyddoedd academaidd yn cynnwys dau semester. Mae'n ofynnol i chi astudio modiwlau sy'n werth 120 o gredydau yn ystod pob blwyddyn astudio.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un byddwch yn astudio pedwar modiwl gorfodol 20 credyd yn y Gyfraith a dau fodiwl gorfodol 20 credyd mewn Troseddeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Contract [20]CL420120 Credydau
Criminal [20]CL420220 Credydau
Legal Foundations [20]CL420320 Credydau
Public Law [20]CL420420 Credydau
Foundations of Contemporary CriminologySI028420 Credydau
Key Ideas In Social ScienceSI042220 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio gwerth 120 credyd o fodiwlau gyda’i gilydd, gydag 80 ohonyn nhw’n cael eu dewis o'r rhestr o fodiwlau dewisol y Gyfraith sydd ar gael. Cymerir y modiwlau sy’n weddill o'r rhestr o ddewisiadau Troseddeg.

Os ydych yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y Gyfraith, byddwch yn sylwi bod ein modiwlau QLD (Tort a Chyfraith Tir) yn cael eu cynnig gydag ystod o bwysoliadau credyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi yn eich dewisiadau modiwl ond mae hefyd yn eich galluogi i astudio'r modiwlau sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith.

Adolygir rhestr y modiwlau dewisol bob blwyddyn yng ngoleuni ffactorau fel adnoddau staff a’r galw ymysg y myfyrwyr. Mae'r dosbarthiad anrhydedd terfynol yn seiliedig ar yr asesiadau a gaiff eu cynnal yn ystod blynyddoedd dau a thri

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Offending and VictimisationSI020120 Credydau
Responses to CrimeSI020220 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Land Law [20]CL520120 Credydau
Tort [20]CL520220 Credydau
Discrimination and Law [20]CL520520 Credydau
Cyfraith Tir [20]CL522120 Credydau
CAMWEDD [20]CL522220 Credydau
Welsh DevolutionCL522320 Credydau
Datganoli yng NghymruCL522420 Credydau
French Law ICL525520 Credydau
French Law IICL525620 Credydau
Land Law [30]CL530130 Credydau
Tort [30]CL530230 Credydau
Discrimination and Law [30]CL530530 Credydau
Crime, Law and SocietyCL531330 Credydau
Media Law [30]CL531830 Credydau
Cyfraith Tir [30]CL532130 Credydau
CAMWEDD [30]CL532230 Credydau
Welsh Devolution [30]CL532330 Credydau
Datganoli yng Nghymru [30]CL532430 Credydau
Legal Practice: Foundation SkillsCL532730 Credydau
Miscarriages of Justice: The Cardiff Innocence ProjectCL532830 Credydau
Public International LawCL532930 Credydau
Law, Technology and SocietyCL533030 Credydau
Employment LawCL533130 Credydau
Law and PovertyCL533230 Credydau

Blwyddyn tri

Yn ystod blwyddyn tri, byddwch yn dewis rhwng 60- 80 ac 40-60 o gredydau o fodiwlau'r Gyfraith a dewisir y 40-60 o gredydau sy'n weddill o'r dewisiadau mewn Troseddeg.

Os ydych yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y Gyfraith, byddwch yn sylwi bod ein modiwlau QLD (Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd ac Ecwiti ac Ymddiriedolaethau) yn cael eu cynnig gydag ystod o bwysoliadau credyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi yn eich dewisiadau modiwl ond mae hefyd yn eich galluogi i astudio'r modiwlau sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Law of the European Union [20]CL620120 Credydau
Company Law [20]CL620420 Credydau
Dissertation [20]CL620520 Credydau
Dissertation (Cymraeg)CL621420 Credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [20]CL622120 Credydau
Healthcare, Ethics and LawCL623020 Credydau
Equity and TrustsCL623120 Credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [20]CL623220 Credydau
Financial Crime [20]CL624220 Credydau
International Law and Transnational Challenges [20]CL624320 Credydau
Law of the European Union [30]CL630130 Credydau
Company Law [30]CL630430 Credydau
Dissertation [30]CL630530 Credydau
Family LawCL630730 Credydau
Human Rights LawCL630830 Credydau
Commercial LawCL631330 Credydau
Traethawd Hir [30]CL631430 Credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [30]CL632130 Credydau
Global Problems and Legal TheoryCL632830 Credydau
Healthcare, Ethics and Law [30]CL633030 Credydau
Equity and Trusts [30]CL633130 Credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [30]CL633230 Credydau
Law & Governance in Practice: Work Placement Module [30]CL633630 Credydau
Intellectual Property Law: Copyright, Patents and Trade MarksCL633830 Credydau
Environmental Law and PolicyCL633930 Credydau
EvidenceCL634030 Credydau
Comparative LawCL634130 Credydau
Financial Crime [30]CL634230 Credydau
International Law and Transnational Challenges [30]CL634330 Credydau
Crime, Security and Justice in the CitySI060020 Credydau
Police and PolicingSI060120 Credydau
Prisons and PrisonersSI060220 Credydau
Drugs, Crime and SocietySI060320 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Ymhob blwyddyn y rhaglen, gofynnir i fyfyrwyr astudio modiwlau sy'n werth hyd at 120 o gredydau, a fydd yn cynnwys 80 o gredydau yn y Gyfraith a 40 o gredydau ym maes Troseddeg. Caiff modiwlau eu haddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, sy'n cyfateb i tua deg neu ddeuddeg awr o addysgu ffurfiol yr wythnos. Bydd hyn, wrth gwrs, yn cael ei ategu gan ymchwil ac astudiaeth annibynnol lle bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth fwy datblygedig.

Bydd myfyrwyr yn astudio pedwar modiwl gorfodol gwerth 20 o gredydau yn y Gyfraith a dau fodiwl gorfodol gwerth 20 o gredydau ym maes Troseddeg yn y flwyddyn gyntaf, ac nid oes un ohonynt yn cyfrif tuag at ddosbarth terfynol y radd. Ym Mlynyddoedd 2 a 3, caiff modiwlau eu dewis o amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys y rhai hynny sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer cyfreithiol yn y DU.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae’r holl fodiwlau o fewn y rhaglen yn defnyddio llawer ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd; Dysgu Canolog (Learning Central). Yma gall myfyrwyr ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunydd cwrs yn cynnwys recordiau o ddarlithoedd dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig, profion amlddewis, hen bapurau arholiad ac enghreifftiau o waith cyn-fyfyrwyr. Rydym yn rhoi adborth rheolaidd i fyfyrwyr ar eu gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau). Bwriad yr adborth hwn yw helpu myfyrwyr i fyfyrio ar eu perfformiad a nodi pethau y gallant eu gwneud i wella.

Dyrennir tiwtor personol i bob myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Ni fydd tiwtoriaid personol yn helpu myfyrwyr i fyfyrio ar eu perfformiad ar y cwrs ond byddant hefyd yn rhoi cyngor ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol) a chynnig pwynt cyswllt cyntaf pan wynebir anawsterau.

Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn Ysgol y Gyfraith ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol ar gael.

Mae amrywiaeth o staff ar gael i gynnig cymorth pellach, gan gynnwys tiwtor cefnogaeth academaidd, cyd-gysylltydd cynllun pro-bono a llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu'ch galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Disgrifiwch brif egwyddorion, gwerthoedd, sefydliadau a phrosesau y systemau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Undeb Ewropeaidd
  • Lle y bo'n briodol, dangoswch ymwybyddiaeth o effaith cyfraith ryngwladol berthnasol ar gyfreithiau Cymru a Lloegr ac amlinellwch fodelau amgen o reoleiddio cyfreithiol gan gyfeirio at gyfreithiau awdurdodaethau eraill
  • Disgrifiwch ac esboniwch brif egwyddorion, gwerthoedd a rheolau prif feysydd cyfraith sylweddol system gyfreithiol Cymru a Lloegr
  • Esboniwch y berthynas rhwng corff o gyfreithiau presennol a materion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol perthnasol ac amlinellwch sut mae'r ffactorau hyn yn cyfrannu at ddadleuon cyfreithiol cyfoes
  • Esboniwch gyd-destun gwleidyddol, cyfreithiol, cymdeithasol a/neu athronyddol esblygiad corff penodol o gyfreithiau
  • Rhowch esboniad o ystyr deddfwriaeth gymhleth a nodwch ei goblygiadau athrawiaethol
  • Rhowch grynodeb o gorff cymhleth o gyfraith achosion a nodwch yr egwyddorion cyfreithiol sy'n deillio ohoni
  • Esboniwch ystyr ac arwyddocâd amrywiaeth o ddeunyddiau cyfreithiol sylfaenol ac eilaidd, ymchwil academaidd a sylwebaeth.
  • Esboniwch gysyniadau allweddol a dulliau damcaniaethol ym maes Troseddeg.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cymhwyso gwybodaeth am reolau ac egwyddorion cyfreithiol i gynnig atebion i broblemau athrawiaethol o gymhlethdod amrywiol
  • Gwerthuso cydlyniad athrawiaethol ac arwyddocâd corff o statudau a/neu gyfraith achos
  • Gwerthuso llwyddiant a/neu ddiffygion maes cyfraith mewn perthynas â safbwyntiau polisïau a materion cymdeithasol/cyd-destunol ehangach a nodi meysydd lle gallai fod angen diwygio'r gyfraith
  • Gwerthuso cynigion i ddiwygio'r gyfraith mewn ffordd sy'n dangos dealltwriaeth gref o broblemau cyfreithiol cyfredol, sensitifrwydd i gyd-destun cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol y gyfraith ac ymwybyddiaeth o ymrwymiadau cyfreithiol rhyngwladol
  • Cysylltu darn o ysgrifennu academaidd neu ymchwil â dadl gyfreithiol gyfoes a gwerthuso ei gryfderau a'i wendidau gan gyfeirio at ddeunyddiau cefnogol eraill
  • Defnyddio cyhoeddiadau swyddogol, ymchwil academaidd a sylwebaethau a gyflwynir mewn amrywiaeth o fformatau i lunio dadl sy'n berthnasol i ddadl gyfreithiol gyfoes
  • Gwahaniaethu rhwng deunyddiau cynradd ac eilaidd, gan gyfeirio at eu hawdurdod, eu perthnasedd a’u gwrthrychedd
  • Drwy ymchwil annibynnol, nodwch ffynonellau cyfreithiol sylfaenol ac eilaidd priodol, ymchwil a sylwebaeth a'u cymhwyso mewn gwaith ysgrifenedig neu gyflwyniad llafar
  • Gwerthuso'r egwyddorion sy'n sail i bolisïau cyfiawnder troseddol a strategaethau rheoli troseddau

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dod o hyd i amrywiaeth o ddeunyddiau cynradd ac uwchradd ar ffurf electronig ac ar bapur
  • Nodi a chyrchu deddfwriaeth gyfredol a chyfraith achosion ar fater cyfreithiol
  • Defnyddio cronfeydd data er mwyn dod o hyd i ymchwil academaidd a sylwebaeth sy’n berthnasol i’w pwnc i ategu rhestrau darllen a deunyddiau a addysgir
  • Llunio gwaith ysgrifenedig, mewn amrywiaeth o fformatau, sydd wedi'i hysbysu'n gywir, wedi'i ysgrifennu a'i strwythuro'n gydlynol, a'i gyfeirio'n briodol yn unol â chanllawiau OSCOLA
  • Rhowch gyflwyniad neu ymateb llafar clir, hyderus a gwybodus wrth ateb cwestiwn ar bwnc cyfreithiol a addysgir neu a ymchwilir yn annibynnol iddo mewn modd a fyddai'n briodol ar gyfer amgylchedd proffesiynol.
  • Gyda chefnogaeth, cynigiwch gwestiynau trafod priodol ar gyfer astudiaeth mewn grŵp mewn tiwtorial neu seminar a rheolwch drafodaeth grŵp byr o'r cwestiynau hynny
  • Gwerthuso ac arfarnu ymchwil droseddegol yn feirniadol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cyfleu gwybodaeth a syniadau’n effeithiol ��� ar lafar ac yn ysgrifenedig ��� ar lefel sy’n dangos defnydd cywir a chlir o’r iaith Saesneg
  • Paratoi a rhoi cyflwyniad llafar a darparu deunyddiau ategol clir a chywir mewn fformat priodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am strwythuro, rheoli ac adrodd, ar lafar a/neu’n ysgrifenedig, prosiect ymchwil bach
  • Cyfrannu’n adeiladol ac yn ddibynadwy at dasg grŵp
  • Rheoli amser yn effeithiol a chynnal astudiaeth hunangyfeiriedig yng nghyd-destun amserlen strwythuredig, gweithgareddau dysgu penodol a dyddiadau cau tasgau
  • Myfyrio ar eu dysgu eu hunain, nodi bylchau yn eu gwybodaeth a chynllunio strategaethau ar gyfer cau'r bylchau hynny
  • Defnyddio adborth ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys adborth a gafwyd drwy asesiad gan diwtor, hunanasesiad ac asesiad gan gymheiriaid
  • Defnyddio ffynonellau electronig sy’n benodol i’r pwnc ac Amgylcheddau Dysgu Rhithwir
  • Defnyddiwch ddulliau electronig ar gyfer ymchwil a dangos cymhwysedd cyffredinol mewn sgiliau TG wrth baratoi a chyflwyno deunydd ysgrifenedig

Wrth i fyfyrwyr symud drwy dair blynedd y radd, bydd dyfnder ac ehangder eu hastudiaethau yn cynyddu. Ein hamcan cyffredinol yw annog myfyrwyr i fod yn ddysgwyr annibynnol, gydag ymrwymiad at ddysgu a datblygu'n barhaus.

Gwybodaeth arall

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr dros raddedigion eraill yn y gyfraith.


Ymryson (Mooting)

Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu.

Mae ymryson yn sgil wych i allu ychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol.


Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid

Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni. Byddwch yn meithrin profiad cyfweld mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Reolwr Lleoliadau penodol sy'n gallu cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda gwneud cais am swydd a thechnegau cyfweliad ar gael hefyd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth ar ôl graddio gael swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr morgeisi a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.

Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.

Bydd gennych fynediad at Ymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Maent yn trefnu gweithdai cyflogadwyedd ymarferol trwy gydol y flwyddyn sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys ysgrifennu CV a gorchuddio llythyrau, paratoi ar gyfer diwrnodau dewis cyflogwyr a chyfweliadau, strategaethau chwilio am swydd a dod o hyd i waith.

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae rhoi damcaniaeth ar waith yn ymarferol, a darparu profiad o'r byd gwaith yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion at fywyd y tu allan i fyd addysg.

Rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r Brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio.

Lleoliadau

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn cael y cyfle i wneud cais am leoliad gwaith, a gaiff ei gwblhau yn nhrydedd flwyddyn eich gradd. Bydd y lleoliadau cyflogedig amser llawn ar gael drwy broses ymgeisio gystadleuol sy’n ceisio efelychu’r broses recriwtio graddedigion y byddwch yn ei hwynebu ar ôl gadael y Brifysgol. Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn ymgymryd ag ymarfer cyfreithiol fel paragyfreithwyr, ac yn gwneud gwaith ar lefel graddedigion. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol i ymarferwyr megis rheoli achosion, ymchwil gyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol megis rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Bydd y lleoliadau gwaith yng Nghaerdydd ac yn cyfrif am 10% o ddosbarthiad eich gradd.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 38% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.