Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth (LLB)
- Meysydd pwnc: Y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
- Côd UCAS: ML12
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol
Manteisiwch ar gysylltiadau â senedd San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.
Ategwch eich astudiaethau academaidd
Rydym yn cynnig amrywiaeth o brosiectau pro bono arloesol lle gallwch weithio gyda chleientiaid dan oruchwyliaeth broffesiynol.
Achrediad proffesiynol
Cwrs wedi'i achredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
Cewch brofiad o wleidyddiaeth ar waith
Dewiswch fodiwl a addysgir ar y cyd â San Steffan, sy'n cynnwys addysgu gan glercod Tŷ'r Cyffredin ac ymweliadau astudio.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Enillwch brofiad gwerthfawr ar lefel ôl-raddedig fel paragyfreithiwr gan gynnwys: rheoli achosion, ymchwil gyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol.
Heb os nac ni bai, mae'r berthynas rhwng y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn un sy’n dibynnu ar ei gilydd.
Mae'r ddau bwnc yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl beth bynnag fo’u hoedran, eu hethnigrwydd a'u cefndir cymdeithasol. Mae'r rhaglen hon yn eich galluogi i gyfuno'r pynciau diddorol hyn o fewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Cewch eich trwytho yn y Gyfraith drwy astudio’r modiwlau sylfaen (sy’n cynnwys cam academaidd yr hyfforddiant angenrheidiol ar hyn o bryd i ddod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr) ar draws tair blynedd eich rhaglen. Ochr yn ochr â'ch modiwlau yn y Gyfraith byddwch yn astudio modiwlau Gwleidyddiaeth sy’n edrych ar sut mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu a dysgu gwerthuso syniadau gwleidyddol megis grym, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, dilysrwydd ac atebolrwydd.

Maes pwnc: Y Gyfraith
Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-AAB
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :
- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar
- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.
PTE Academic
O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.
Trinity ISE II/III
II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £22,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £22,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £22,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.
Yn ystod eich gradd, byddwch yn gallu astudio modiwlau Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol sy'n ffurfio'r Radd Cymhwyso yn y Gyfraith.
Yn eich ail flwyddyn byddwch yn cael y cyfle i wneud cais am leoliad gwaith, a gaiff ei gwblhau yn nhrydedd flwyddyn eich gradd. Bydd y lleoliadau cyflogedig amser llawn ar gael drwy broses ymgeisio gystadleuol sy’n ceisio efelychu’r broses recriwtio graddedigion y byddwch yn ei hwynebu ar ôl gadael y Brifysgol. Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn ymgymryd ag ymarfer cyfreithiol fel paragyfreithwyr, ac yn gwneud gwaith ar lefel graddedigion. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol i ymarferwyr megis rheoli achosion, ymchwil gyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol megis rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Bydd y lleoliadau gwaith yng Nghaerdydd ac yn cyfrif am 10% o ddosbarthiad eich gradd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio gwerth 120 credyd o fodiwlau yn eich blwyddyn gyntaf.
Byddwch yn astudio pedwar modiwl 20 credyd gorfodol yn y Gyfraith a dau fodiwl 20 credyd dewisol mewn Gwleidyddiaeth yn eich blwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich rhaglen gradd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Contract [20] | CL4201 | 20 Credydau |
Criminal [20] | CL4202 | 20 Credydau |
Legal Foundations [20] | CL4203 | 20 Credydau |
Public Law [20] | CL4204 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Y Da, Drwg a'r Gwleidyddol: The Good, the Bad and the Political | PL9193 | 20 Credydau |
Introduction to Political Science | PL9194 | 20 Credydau |
Introduction to Political Thought | PL9196 | 20 Credydau |
Introduction to Globalisation | PL9197 | 20 Credydau |
Introduction to Government | PL9199 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn astudio gwerth 120 credyd o fodiwlau gyda’i gilydd, gydag 80 ohonyn nhw’n cael eu dewis o'r rhestr o fodiwlau dewisol y Gyfraith sydd ar gael. Cymerir y modiwlau sy’n weddill o'r rhestr o ddewisiadau Gwleidyddiaeth.
Os ydych yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y Gyfraith, byddwch yn sylwi bod ein modiwlau QLD (Tort a Chyfraith Tir) yn cael eu cynnig gydag ystod o bwysoliadau credyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi yn eich dewisiadau modiwl ond mae hefyd yn eich galluogi i astudio'r modiwlau sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith.
Adolygir rhestr y modiwlau dewisol bob blwyddyn yng ngoleuni ffactorau fel adnoddau staff a’r galw ymysg y myfyrwyr. Mae'r dosbarthiad anrhydedd terfynol yn seiliedig ar yr asesiadau a gaiff eu cynnal yn ystod blynyddoedd dau a thri.
Blwyddyn tri
Yn ystod blwyddyn tri, byddwch yn dewis rhwng 60 ac 80 o gredydau o fodiwlau'r Gyfraith a dewisir y 40-60 o gredydau sy'n weddill o'r dewisiadau Gwleidyddiaeth.
Os ydych yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y Gyfraith, byddwch yn sylwi bod ein modiwlau QLD (Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd ac Ecwiti ac Ymddiriedolaethau) yn cael eu cynnig gydag ystod o bwysoliadau credyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi yn eich dewisiadau modiwl ond mae hefyd yn eich galluogi i astudio'r modiwlau sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, cyfreithiol a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau cyfreithiol, trafodaethau mewn grwpiau bach, dadlau, ymrysonfeydd, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.
Sut y caf fy nghefnogi?
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Cyflwynir Rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith ar gael.
Mae amrywiaeth o staff ar gael i gynnig cymorth pellach, gan gynnwys tiwtor cefnogaeth academaidd, cyd-gysylltydd cynllun pro-bono a llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu'ch galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.
Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae gradd yn y gyfraith yn datblygu eich gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, nodi gwybodaeth berthnasol a gwerthuso'r rhain i lunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol.
Byddwch hefyd yn gallu:
- gwella eich gallu i ddadlau mewn modd gwrthrychol, rhesymegol a phroffesiynol, gyda sylw dyledus i awdurdod a dulliau enwi dderbyniol
- datblygu eich gallu i ymgymryd â dysgu annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
- gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm, gan gyfrannu’n adeiladol ac yn ddibynadwy
- datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- dysgu sut i ddefnyddio ffynonellau electronig penodol i’r pwnc, cronfeydd data a’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir i gasglu tystiolaeth ac i ymchwilio i gwestiynau cyfreithiol
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gwybodaeth arall
Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr dros raddedigion eraill yn y gyfraith.
Ymryson (Mooting)
Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu.
Mae ymryson yn sgil wych i allu ychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol.
Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid
Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni. Byddwch yn meithrin profiad cyfweld a chwnsela mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae graddau mewn Gwleidyddiaeth yn rhoi sylfaen ar gyfer ystod eang o yrfaoedd megis mewn cyrff anllywodraethol, datblygiad byd-eang, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth a chudd-wybodaeth mewn llywodraeth, newyddiaduraeth, ac ymchwil polisi, yn ogystal â bod yn sail ar gyfer pynciau mwy arbenigol sy’n cael eu haddysgu ar lefel ôl-raddedig.
Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth astudio’r Gyfraith ac sydd wedi dewis gweithio yn syth ar ôl graddio gael swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr morgeisi a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.
Fodd bynnag, nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.
Bydd gennych fynediad at Ymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Maent yn trefnu gweithdai cyflogadwyedd ymarferol trwy gydol y flwyddyn sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys ysgrifennu CV a gorchuddio llythyrau, paratoi ar gyfer diwrnodau dewis cyflogwyr a chyfweliadau, strategaethau chwilio am swydd a dod o hyd i waith.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.