Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith a’r Gymraeg (LLB)

  • Meysydd pwnc: Y Gyfraith, Cymraeg
  • Côd UCAS: MQ15
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

academic-school

Ategwch eich astudiaethau academaidd

Rydym yn cynnig amrywiaeth o brosiectau pro bono arloesol lle gallwch weithio gyda chleientiaid dan oruchwyliaeth broffesiynol.

tick

Achrediad proffesiynol

Cwrs wedi'i achredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

people

Cymuned lewyrchus

Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.

structure

Cysylltiadau’r Brifddinas

Lleoliad delfrydol gyda chysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau i'ch helpu ar eich ffordd.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Enillwch brofiad gwerthfawr ar lefel ôl-raddedig fel paragyfreithiwr gan gynnwys: rheoli achosion, ymchwil gyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol.

Mae rhaglen LLB y Gyfraith a'r Gymraeg yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ac amrywiaeth eang o broffesiynau. Yn ogystal â'r modiwlau sylfaen sy'n cynnwys y cam hyfforddi academaidd sydd ei angen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, y cyfeirir ato fel 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith', rydym yn cynnig amrywiaeth eang o feysydd astudio dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes. Mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu ar y cyd gan ysgolion y Gymraeg, a’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gan roi cyfle i chi astudio’n fanwl yn naill ddisgyblaeth a’r llall.

Mae ein gradd yn eich galluogi chi i gwblhau cyfnodau academaidd hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr ac i symud ymlaen yn syth at y cyfnodau hyfforddi galwedigaethol ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr: y Cwrs Hyfforddiant Bar Proffesiynol neu'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol. Ni yw’r unig Brifysgol yng Ngrŵp Russell i gynnig y ddau gwrs hyn, sydd yn golygu bod gennych y dewis i aros gyda ni yng Nghaerdydd i gwblhau eich addysg gyfreithiol gyfan. Yn rheolaidd, mae’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol wedi cael sgôr uchaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr / Cymdeithas y Gyfraith.

Mae datganoli Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod y gallu i siarad a deall Cymraeg at lefel uchel yn ddeniadol i gyflogwyr. Mae astudio yng Nghaerdydd yn gyfle i elwa ar ymchwil sy’n berthnasol i’r gymdeithas sy'n cyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.

Maes pwnc: Y Gyfraith

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid cynnwys Iaith Gyntaf Gymraeg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys cymhwyster Iaith Gyntaf Gymraeg sy'n cyfateb i radd A ar Safon Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B/6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :
- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar
- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Iaith Gyntaf Gymraeg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Ym mhob blwyddyn o’r cwrs, byddwch yn cymryd modiwlau sy’n werth hyd at 120 o gredydau.

Ym mlwyddyn un byddwch yn astudio pedwar modiwl gorfodol 20 credyd yn y gyfraith a dau fodiwl gorfodol 20 credyd yn y Gymraeg. Nid yw’r rhain yn cyfrif at ddosbarth terfynol y radd.

Yn ystod blynyddoedd dau a thri ceir nifer fechan o fodiwlau gorfodol, gan gynnwys traethawd hir yn y Gymraeg ar bwnc cyfreithiol ym mlwyddyn tri, ond mae’r rhan fwyaf yn cael eu dewis o'r amrywiaeth o ddewisiadau yn y gyfraith a'r Gymraeg. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi ddilyn eich diddordebau personol. Mae modd astudio’r holl bynciau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig.

Mae lefel y cymhwyster gradd a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn cael y cyfle i wneud cais am leoliad gwaith, a gaiff ei gwblhau yn nhrydedd flwyddyn eich gradd. Bydd y lleoliadau cyflogedig amser llawn ar gael drwy broses ymgeisio gystadleuol sy’n ceisio efelychu’r broses recriwtio graddedigion y byddwch yn ei hwynebu ar ôl gadael y Brifysgol. Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn ymgymryd ag ymarfer cyfreithiol fel paragyfreithwyr, ac yn gwneud gwaith ar lefel graddedigion. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol i ymarferwyr megis rheoli achosion, ymchwil gyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol megis rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Bydd y lleoliadau gwaith yng Nghaerdydd ac yn cyfrif am 10% o ddosbarthiad eich gradd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio pedwar modiwl 20 credyd gorfodol yn y Gyfraith a dau fodiwl 20 credyd gorfodol yn y Gymraeg yn y flwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich rhaglen gradd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Contract [20]CL420120 Credydau
Troseddol [20]CL420220 Credydau
Sefydliadau cyfreithiol [20]CL420320 Credydau
Cyfraith Gyhoeddus [20]CL420420 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio gwerth 120 credyd o fodiwlau gyda’i gilydd, gydag 80 ohonyn nhw’n cael eu dewis o'r rhestr o fodiwlau dewisol y Gyfraith sydd ar gael. Cymerir y modiwlau sy’n weddill o'r rhestr o ddewisiadau Cymraeg.

Os ydych yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y Gyfraith, byddwch yn sylwi bod ein modiwlau QLD (Tort a Chyfraith Tir) yn cael eu cynnig gydag ystod o bwysoliadau credyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi yn eich dewisiadau modiwl ond mae hefyd yn eich galluogi i astudio'r modiwlau sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith.

Adolygir rhestr y modiwlau dewisol bob blwyddyn yng ngoleuni ffactorau fel adnoddau staff a’r galw ymysg y myfyrwyr. Mae'r dosbarthiad anrhydedd terfynol yn seiliedig ar yr asesiadau a gaiff eu cynnal yn ystod blynyddoedd dau a thri

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyfraith Tir [20]CL520120 Credydau
Tort [20]CL520220 Credydau
Gwahaniaethu a'r Gyfraith [20]CL520520 Credydau
Cyfraith Tir [20]CL522120 Credydau
CAMWEDD [20]CL522220 Credydau
Datganoli CymruCL522320 Credydau
Datganoli yng NghymruCL522420 Credydau
Cyfraith Tir [30]CL530130 Credydau
Tort [30]CL530230 Credydau
Gwahaniaethu a'r Gyfraith [30]CL530530 Credydau
Cymdeithaseg y GyfraithCL531230 Credydau
Trosedd, Y Gyfraith a ChymdeithasCL531330 Credydau
Cyfraith y Cyfryngau [30]CL531830 Credydau
Cyfraith Tir [30]CL532130 Credydau
CAMWEDD [30]CL532230 Credydau
Datganoli Cymru [30]CL532330 Credydau
Datganoli yng Nghymru [30]CL532430 Credydau
Ymarfer Cyfreithiol: Sgiliau SylfaenCL532730 Credydau
Camweinyddu Cyfiawnder: Prosiect Dieuog CaerdyddCL532830 Credydau
Cyfraith Ryngwladol GyhoeddusCL532930 Credydau
Y Gyfraith a ThlodiCL533230 Credydau
Dafydd ap Gwilym a'i GyfnodCY229020 Credydau
Llenyddiaeth PlantCY231020 Credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY233020 Credydau
Ysgrifennu CreadigolCY236020 Credydau
Bywydau LlênCY242520 Credydau
TafodieithegCY245020 Credydau
Enwau'r Cymry: Lleoedd, Pobl a PholisiCY246020 Credydau
SosioieithyddiaethCY253020 Credydau

Blwyddyn tri

Yn ystod blwyddyn tri, byddwch yn dewis rhwng 60 ac 80 o gredydau o fodiwlau'r Gyfraith a dewisir y 40-60 o gredydau sy'n weddill o'r dewisiadau mewn Cymraeg.

Os ydych yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y Gyfraith, byddwch yn sylwi bod ein modiwlau QLD (Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd ac Ecwiti ac Ymddiriedolaethau) yn cael eu cynnig gydag ystod o bwysoliadau credyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi yn eich dewisiadau modiwl ond mae hefyd yn eich galluogi i astudio'r modiwlau sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [20]CL620120 Credydau
Cyfraith y Cwmni [20]CL620420 Credydau
Traethawd Hir [20]CL620520 Credydau
Traethawd Hir (Cymraeg)CL621420 Credydau
Hanes Cyfreithiol [20]CL622020 Credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [20]CL622120 Credydau
Iechyd, Moeseg a'r GyfraithCL623020 Credydau
Ecwiti ac YmddiriedolaethauCL623120 Credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [20]CL623220 Credydau
Trosedd Ariannol [20]CL624220 Credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [30]CL630130 Credydau
Cyfraith y Cwmni [30]CL630430 Credydau
Traethawd Hir [30]CL630530 Credydau
Cyfraith TeuluCL630730 Credydau
Cyfraith Hawliau DynolCL630830 Credydau
Cyfraith FasnacholCL631330 Credydau
Traethawd Hir [30]CL631430 Credydau
Hanes Cyfreithiol [30]CL632030 Credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [30]CL632130 Credydau
Problemau Byd-eang a Theori GyfreithiolCL632830 Credydau
Y Gyfraith a LlenyddiaethCL632930 Credydau
Gofal Iechyd, Moeseg a'r Gyfraith [30]CL633030 Credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [30]CL633130 Credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [30]CL633230 Credydau
Y Gyfraith a Llywodraethu mewn Ymarfer: Modiwl Lleoliad Gwaith [30]CL633630 Credydau
Cyfraith Eiddo Deallusol: Hawlfraint, Patentau a Nodau MasnachCL633830 Credydau
Cyfraith a Pholisi AmgylcheddolCL633930 Credydau
TystiolaethCL634030 Credydau
Trosedd Ariannol [30]CL634230 Credydau
Dafydd ap Gwilym a'i GyfnodCY329020 Credydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 Credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY333020 Credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 Credydau
Bywydau LlênCY342520 Credydau
TafodieithegCY345020 Credydau
Enwau'r Cymry: Lleoedd, Pobl a PholisiCY346020 Credydau
SosioieithyddiaethCY353020 Credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 Credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Blas ar YmchwilCY390020 Credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau yn bennaf, er y bydd eich modiwlau Cymraeg hefyd yn cynnig cyfle i ymuno â gweithdai a dosbarthiadau iaith.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Bydd gennych hefyd fynediad at fersiynau clywedol o ddarlithoedd y Gyfraith hefyd.

Mewn tiwtorialau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi dyfarniad neu erthygl benodol i'r grŵp.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, cyfreithiol a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau cyfreithiol, trafodaethau mewn grwpiau bach, dadlau, ymrysonfeydd, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cewch diwtoriaid personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddan nhw hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau.

Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith ar gael.

Mae amrywiaeth o staff ar gael i gynnig cymorth pellach, gan gynnwys tiwtor cefnogaeth academaidd, cyd-gysylltydd cynllun pro-bono a llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.

Mae’r holl fodiwlau’n defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol; Dysgu Canolog (Learning Central). Yma gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunydd cwrs yn cynnwys recordiau o ddarlithoedd, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig, profion amlddewis, hen bapurau arholiad ac enghreifftiau o waith cyn-fyfyrwyr.

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Sut caf fy asesu?

Caiff modiwlau eu hasesu drwy arholiad neu waith cwrs neu drwy gyfuniad o'r ddau. Mae fformat gwaith cwrs yn amrywio, gan gynnwys traethodau safonol, traethodau estynedig, portffolios o waith a gynhyrchir dros y flwyddyn academaidd gyfan ac atebion ysgrifenedig i broblemau cyfreithiol. Mae arholiadau yn cael eu cynnal ym mis Ionawr neu yn yr haf.  Cyflwynir gwaith cwrs ar ddyddiadau dynodedig yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Yn ystod y flwyddyn academaidd, byddwch yn cwblhau darnau gwahanol o waith nad ydyn nhw’n cyfrif tuag at farciau terfynol eich modiwlau, ond sydd wedi eu cynllunio i’ch helpu chi i gyflawni canlyniadau dysgu eich modiwlau ac i baratoi ar gyfer eich arholiadau a’ch gwaith cwrs. Gallai hyn fod yn ysgrifenedig neu ar lafar a gellir ei gyflwyno’n ffurfiol i diwtor neu ei gyflwyno yn ystod tiwtorialau neu seminarau. Fel arfer, bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod eich amser astudio annibynnol. Rhoddir adborth ar y gwaith hwn yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae gradd yn y gyfraith yn datblygu eich gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, nodi gwybodaeth berthnasol a gwerthuso'r rhain i lunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol.

Byddwch hefyd yn:

  • gwella eich gallu i ddadlau mewn modd gwrthrychol, rhesymegol a phroffesiynol, gyda sylw dyledus i awdurdod a dulliau enwi dderbyniol
  • datblygu eich gallu i ymgymryd â dysgu annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
  • gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm, gan gyfrannu’n adeiladol ac yn ddibynadwy
  • datblygu eich sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • dysgu sut i ddefnyddio ffynonellau electronig penodol i’r pwnc, cronfeydd data a’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir i gasglu tystiolaeth ac i ymchwilio i gwestiynau cyfreithiol.

Gwybodaeth arall

Uned Pro Bono Ysgol y Gyfraith Caerdydd – y gyfraith yn y byd go iawn

Rydym wedi ymrwymo i ymestyn cyfleoedd allgyrsiol i'n myfyrwyr, gan helpu i wella eu CVs mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.

Mae Pro Bono yn ymadrodd y mae cyfreithwyr yn ei ddefnyddio ar gyfer cyngor cyfreithiol am ddim. Rydym yn rhedeg sawl cynllun Pro Bono ac yn rhoi cyngor i aelodau o'r gymuned ar faterion cyfreithiol gwahanol.

Prosiect Dieuogrwydd

Mae ein Prosiect Dieuogrwydd yn gweithio gyda charcharorion tymor hir sy’n mynnu eu bod nhw’n ddieuog o droseddau difrifol fel llofruddiaeth, ymosodiad difrifol a throseddau rhywiol. Y nod yw atal camweinyddu cyfiawnder lle gallai unigolyn fod wedi ei gollfarnu ar gam.

Yn 2014, ein prosiect ni oedd y Prosiect Dieuogrwydd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod euogfarn yn cael ei wrthdroi gan y Llys Apêl.

Mae myfyrwyr yn gweithio dan oruchwyliaeth bargyfreithwyr cymwys, yn ymchwilio i achosion ac yn eu cyflwyno nhw i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.

Cynllun gofal iechyd parhaus y GIG

Dan y cynllun hwn, rydym yn mynd i’r afael â chyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae hon yn broblem gynyddol ledled y wlad sy’n effeithio ar ran o’r gymuned sy’n agored i niwed, yn enwedig y rhai sy’n dioddef o glefyd Alzheimer a ffurfiau eraill o ddementia. Gall unigolion o’r fath gael eu gorfodi i fod mewn cartrefi nyrsio, gan dalu eu ffioedd yn breifat, lle gellid dadlau bod ganddyn nhw hawl i fynnu bod y GIG yn diwallu cost eu gofal yn llawn.

Mae myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y maes arbenigol hwn o’r gyfraith, a dyrennir gwaith ar eu cyfer ar ffurf ‘cwmnïau’ o chwe myfyriwr. Maen nhw’n cael eu goruchwylio gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol o gwmni cyfreithwyr Hugh James yng Nghaerdydd, ac mae’r gwaith yn cynnwys cyfweliadau â chleientiaid, ysgrifennu llythyrau, ac ymchwil.

Prosiect Undeb Rygbi Cymru

Gan weithio mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, mae myfyrwyr yn rhoi gwasanaeth cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i glybiau rygbi Cymru o dan lefel Uwch-gynghrair Principality. Mae materion cyfreithiol y mae clybiau yn eu hwynebu yn cynnwys cyflogi staff, cynnal a chadw’r meysydd chwarae, iechyd a diogelwch a llawer mwy.

Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi a’i warantu gan gyfreithwyr Hugh James, a siambrau bargyfreithwyr Civitas. Mae myfyrwyr hefyd yn cydweithio i gynhyrchu taflenni gwybodaeth sy’n cwmpasu materion cyfreithiol y mae clybiau yn eu hwynebu.

Prosiect Ymchwil Hawliau Cyfreithiol Cerebra

Mae myfyrwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn yn ymchwilio i’r gyfraith sy’n ymwneud â phlant anabl ac yn rhoi cyngor i deuluoedd plant anabl sy’n wynebu anghydfod ynghylch eu hawliau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cafodd y prosiect ymchwil ei sefydlu ar y cyd â’r elusen blant ryngwladol Cerebra, sy’n cyfeirio achosion at y prosiect. Mae myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan staff Ysgol y Gyfraith ac mae’r gwaith yn cael ei warantu gan gyfreithwyr gweithredol.

Cynllun Oedolion Priodol Hafal

Hafal yw prif elusen iechyd meddwl Cymru. Mae Hafal yn hyfforddi myfyrwyr i weithio fel ‘Oedolion Priodol’, i gefnogi oedolion sy’n agored i niwed sy’n cael eu cyfweld mewn gorsaf heddlu ar ôl cael eu harestio. Ar ôl cael eu hyfforddi, mae myfyrwyr yn gwirfoddoli i fod ar rota i gael eu galw i mewn i orsafoedd heddlu ar draws de Cymru.

Uned Cymorth Personol

Mae’r Uned Cymorth Personol yn cefnogi’r rhai sy’n ymgyfreitha drostyn nhw eu hunain, tystion, dioddefwyr, aelodau o’u teuluoedd a chefnogwyr. Mae’n darparu cymorth di-dâl, cyfrinachol, annibynnol, nad yw’n gyfreithiol i gleientiaid, i’w helpu drwy broses y llys. Mae’r Uned yn hyfforddi myfyrwyr i gynorthwyo ymgyfreithwyr yn y Ganolfan Cyfiawnder Sifil yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth ar ôl graddio gael swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr ailforgeisio a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.

Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.

Yn sgîl y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn gallu bod yn gymhwyster hynod werthfawr ar gyfer rolau sy’n gofyn am siaradwyr dwyieithog. Mae llawer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd megis y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, ac ar bob lefel.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 100% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.