Gyrfaoedd
Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang.
O ymchwilwyr canser i geidwaid anifeiliaid cigysol, amgylcheddwyr i flogwyr gwyddoniaeth, mae ein graddedigion yn mynd yn eu blaen i fwynhau ystod eang o yrfaoedd llwyddiannus a gwobrwyol.
Mae gan ein myfyrwyr enw da rhagorol am ddod o hyd i waith ar ôl iddynt raddio. Yn ôl ein data mwyaf diweddar, roedd 93% o'n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae cyfran sylweddol o’n graddedigion yn mynd yn eu blaen i astudio gradd meistr neu PhD, tra bod eraill yn cael gyrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, megis ymchwil a datblygu, cadwraeth, rheoli amgylcheddol, ymchwil feddygol, cyhoeddi gwyddonol, iechyd cyhoeddus, a rheoli bywyd gwyllt, ymysg pethau eraill.
Mae hefyd gan ein graddedigion nifer o sgiliau trosglwyddadwy sy’n denu ystod eang o gyflogwyr mewn diwydiannau eraill. Yn olaf, gall gradd Biowyddoniaeth fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio a gwyddoniaeth filfeddygol.
Straeon graddedigion
Gwasanaethau Dyfodol Myfyrwyr
Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig ystod eang o wasanaethau drwy gydol y flwyddyn gyda’r nod o helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, cynllunio ar gyfer eu dyfodol a bod yn barod i drosglwyddo i fyd gwaith. Wedi’i leoli yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ac yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, mae ein gwasanaethau’n cynnwys:
- cyfres eang o adnoddau ar-lein gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr+, y cartref ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac adnoddau gyrfaoedd wedi’u teilwra i fyfyrwyr Caerdydd
- gweithdai cyflogadwyedd ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys archwilio opsiynau gyrfa, CVs, ceisiadau, LinkedIn, paratoi ar gyfer cyfweliadau a llawer mwy
- apwyntiadau y gellir eu harchebu gyda Chynghorwyr Gyrfa a Chyflogadwyedd a gwasanaeth galw heibio gyda Chynorthwywyr Dyfodol Myfyrwyr
- rhaglen datblygiad proffesiynol Gwobr Caerdydd
- mynediad i ystod o gyfleoedd profiad gwaith, interniaeth a lleoliadau
- cymorth wedi’i deilwra ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a’r rhai sydd angen cymorth un-i-un ychwanegol
- ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau a arweinir gan gyflogwyr i hwyluso rhwydweithio gyda chyflogwyr graddedigion gorau a thrafodaethau ar yrfaoedd a chyfleoedd swyddi
- cyfleoedd i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor
- mentora busnes, gwobrau cychwyn busnes, gofod desgiau poeth a chyfleoedd menter
Ar ôl i chi raddio
Nid yw ein cefnogaeth yn dod i ben ar ôl graddio, gan y bydd gennych fynediad i ystod o wasanaethau a buddion i gyn-fyfyrwyr yn unig. Gall graddedigion barhau i gael cymorth gyrfaoedd am 3 blynedd ar ôl graddio gan y byddwch yn gallu trefnu apwyntiadau gyrfaoedd, mynychu digwyddiadau a gweithdai cyflogwyr, yn ogystal â chael mynediad at gyfleoedd gwaith a gwybodaeth, cyngor ac adnoddau ar-lein.
Darganfyddwch mwy am ein cyrsiau Biowyddorau israddedig.