Ewch i’r prif gynnwys

Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol

Student trekking in dolomite mountains

Gellir astudio pob un o'n cyrsiau gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (neu 'Ryngosod'), a gaiff ei threulio ar leoliad mewn sefydliad perthnasol.

Mae’n ffordd wych i gael profiad ymchwil ymarferol gwerthfawr, a gall fod o fantais i chi ar gyfer gweddill eich gradd a'ch gyrfa ar ôl gadael y brifysgol.

Yn ystod eich blwyddyn ryngosod, byddwch yn ymgymryd â phob agwedd ar ymchwil - o ddylunio arbrofol a chaffael data, i ddadansoddi data a chyflwyno. Byddwch hefyd yn ysgrifennu adroddiad ar y lleoliad gwaith, fydd yn rhan o'ch asesiad gradd terfynol.

Un o'r pethau gorau am gyflawni fy Mlwyddyn Hyfforddi Proffesiynol yng Nghanolfan Maes Danau Girang yn Borneo yw'r profiad o fyw yng nghanol y jyngl - nid ydych yn cyfarwyddo â deffro i sain mwncïod trwynol! Mae dewis gwneud blwyddyn ryngosod ymhlith y penderfyniadau gorau rydw i erioed wedi’u gwneud! Mae wedi rhoi cyfle gwych i mi weithio’n rhan o sefydliad sydd â gwir amcanion cadwraeth.

Elizabeth Witcombe BSc Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg) gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol

Amrywiaeth eang o leoliadau gwaith

Mae ein myfyrwyr yn dod o hyd i leoliadau gwaith mewn ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau fferyllol a biodechnegol, labordai ysbytai, sefydliadau ymchwil, amgueddfeydd, sŵau, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, a sefydliadau amgylcheddol eraill, yn ogystal â phrifysgolion yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae llawer o'r lleoliadau yn y DU ond mae nifer cynyddol  mewn mannau tramor fel De-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal, Awstralia, Madagascar a'r Unol Daleithiau.

male scientist in laboratory

Ymhlith y sefydliadau sydd wedi cynnig lleoliadau gwaith yn ddiweddar mae GlaxoSmithKline, Asiantaeth yr Amgylchedd, Sefydliad Francis Crick, Morvus Technology, yr Ymddiriedolaeth Helwriaeth a Chadwraeth Bywyd Gwyllt a Sefydliad Roskamp yn Florida.

Nid oes modd gwarantu lleoliad gwaith, ond rydym ni fel arfer yn llwyddo i osod y mwyafrif llethol o fyfyrwyr sy'n dymuno cael blwyddyn rhyngosod, a bydd ein staff yn cynnig cymorth ac arweiniad i ddod o hyd i leoliad addas sy'n berthnasol i'ch diddordebau ymchwil a'ch nodau gyrfa.

"Treuliais fy Mlwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol mewn labordy ym Mhrifysgol Otago yn Seland Newydd. Roedd hyn yn brofiad gwych gan i mi orfod defnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol, dysgu technegau newydd a chwrdd â phobl wych, yn ogystal â chael y cyfle i ymweld â gwlad newydd. Byddwn yn argymell unrhyw un i fynd ar Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol.”

Henry Finnigan BSc Gwyddorau Biofeddygol gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol

Dewisiadau hyblyg

Mae ein Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn hyblyg iawn. Does dim cap ar y nifer o bobl sy'n dewis blwyddyn rhyngosod, a does dim angen i fyfyrwyr gyflawni isafswm gradd. Mae hyn yn golygu bod manteision lleoliad gwaith proffesiynol ar gael i'r holl fyfyrwyr yn Ysgol y Biowyddorau.

Gallwch ymgeisio am un o'n graddau gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol o'r dechrau, neu gallwch benderfynu newid o'r BSc safonol neu radd meistr integredig cyn diwedd eich ail flwyddyn. Yn yr un modd, gallwch ddewis newid o radd gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol i un o'n graddau BSc neu feistr integredig safonol. Chi sydd â’r dewis.

Mae ein Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad ymchwil ymarferol mewn amgylchedd proffesiynol - a gall fod yn hynod o fuddiol i ganlyniad gradd myfyriwr a rhagolygon gyrfa wedi hynny.

Yr Athro Sarah Hall Athro