Cyrsiau
Mae ein myfyrwyr yn cael budd o addysgu rhagorol a gwaith ymarferol mewn amgylchedd ymchwil arloesol.
Mae ymchwil gweithredol yn yr Ysgol yn caniatáu i ddarganfyddiadau newydd mewn optometreg raeadru at ein myfyrwyr a'r cyhoedd a fydd yn elwa arnyn nhw. Mae ymglymiad staff addysgu â'r ymchwil hefyd yn sicrhau bod ein rhaglenni addysgu'n esblygu'n barhaus i sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol mewn proffesiwn sy'n newid yn gyflym.
Mae asesiad 'Rhagorol' annibynnol ein haddysgu yn dyst i ansawdd ac ymroddiad ein staff addysgu. Mae myfyrwyr hefyd yn cael budd o ddysgu yn ein hadeilad Optometreg pwrpasol sy'n cynnwys y labordai a'r cyfarpar diweddaraf.
Yn ein cwrs gradd israddedig, rydym ni'n gosod pwyslais mawr ar agweddau ymarferol optometreg, gyda myfyrwyr yn treulio amser sylweddol yn y clinig llygaid ar y safle. Mae'r clinig ar agor i'r cyhoedd, gan gynnwys plant ac oedolion ag anghenion arbennig.
Bydd myfyrwyr ymchwil yn cael profiad o weithio gydag arweinwyr ymchwil byd-enwog, ynghyd â'u timau a'u cydweithwyr, gan ennill y sgiliau angenrheidiol i ddilyn gyrfa academaidd lwyddiannus ar ôl cwblhau'r radd
Caiff optometryddion sy'n ymarfer hefyd gofrestru ar ein rhaglen addysg ôl-raddedig, er mwyn gweithio at sicrhau'r cymwysterau clinigol diweddaraf, sy'n gynyddol bwysig ar gyfer gwella a chynnal arbenigedd clinigol mewn proffesiwn sy'n ehangu'n barhaus.