Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Rydym yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o optometryddion, ac mae ein hymchwil arloesol wedi datblygu dealltwriaeth fyd-eang o anhwylderau golwg i wella ansawdd bywyd ledled y byd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol a byd-eang i ddarparu'r gofal llygaid gorau a datblygiadau arloesol mewn iechyd llygaid.
O ddarparu addysg o'r radd flaenaf a dysgu gydol oes i optometryddion i helpu cymunedau trwy ein hymchwil ac allgymorth dinesig a byd-eang - mae ein heffaith yn eang.