Deintyddiaeth Glinigol (Prosthodonteg) (MClinDent)
- Hyd: Tair blynedd
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datblygu sgiliau clinigol uwch i'ch galluogi i ddod yn fono-arbenigwr mewn Prosthodonteg sownd ac y gellir eu tynnu.
Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghaeredin
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, cewch gymhwyster MClinDent mewn Prosthondonteg gan Brifysgol Caerdydd a byddwch yn gymwys i sefyll arholiad Aelodaeth Prosthondonteg (MProstho) Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghaeredin.
Ymunwch ag Ysgol Ddeintyddiaeth sydd ymhlith tair orau
Rydym wedi'n rhestru ymhlith tair orau’r Complete University Guide 2020 yn seiliedig ar foddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil a rhagolygon graddedigion.
Ysbyty Deintyddol y Brifysgol
Wedi’i lleoli yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, lle mae oddeutu 100,000 o gysylltiadau â chleifion bob blwyddyn. Mae’r Ysgol yn elwa ar 100 acer o barcdir a chaeau chwarae cyfagos, ac mae hi ond yn ddwy filltir o ganol y ddinas.
Gweithio gyda'n gilydd
Mae ein cysylltiadau agos gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn hwyluso mynediad at ystod eang o gleifion sydd ag anghenion sydd yn addas ar gyfer addysgu clinigol arbenigol ac uwch.
Cymuned glòs
Mae cymuned glòs gan yr Ysgol gyda phoblogaeth ôl-raddedig o oddeutu 50 o fyfyrwyr cofrestredig. Mae ystafelloedd ôl-raddedig pwrpasol ar gael at ddefnydd ein myfyrwyr. Mae gennym dîm ôl-raddedig pwrpasol hefyd sy’n eich cefnogi ac yn sicrhau eich bod teimlo’n gartrefol o’r diwrnod cyntaf.
Mae’r rhaglen 3 blynedd hon yn gyfle i chi dderbyn hyfforddiant arbenigol amser llawn mewn Prosthodonteg.
Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i wella eich sgiliau dysgu gydol oes, cynorthwyo i ddatblygu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth, datblygu uwch sgiliau clinigol er mwyn eich galluogi i ddod yn fono-arbenigwr mewn Prosthondonteg sefydlog a symudol, a, thrwy gaffael gwybodaeth ymchwil, meithrin sgiliau a chynhyrchu prosiect ymchwil, hwyluso datblygiad gyrfaol pellach.
Mae hon yn rhaglen fodiwlaidd tair blynedd llawn amser. Mae’r flwyddyn gyntaf a’r ail yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd y flwyddyn, ac mae’r flwyddyn derfynol yn cynnwys dau fodiwl 30 credyd, ac un modiwl traethawd hir 60 credyd. Mae dyfarniadau ymadael ar gael i fyfyrwyr sy’n cwblhau’r flwyddyn gyntaf (Tystysgrif Ôlraddedig) neu’r flwyddyn gyntaf a’r ail (Diploma Ôl-raddedig) yn llwyddiannus.
Mae’r dulliau a ddefnyddir drwy’r rhaglen yn cynnwys dysgu hunangyfeiriedig a chyflwyno mewn grwpiau bach i annog dull dysgu sy’n seiliedig ar broblemau, cyfarwyddyd ac addysgu clinigol, monitro a chefnogaeth ar gyfer y portffolio clinigol, adolygiadau achos a thrafodaethau, darllen beirniadol dan arweiniad, a chlybiau cyfnodolion ac arweiniad ymchwil unigol. Caiff sgiliau clinigol, ymarferol ac academaidd eu hasesu drwy gydol y cwrs tair blynedd hwn, gan ddefnyddio asesiadau crynodol a ffurfiannol. Bydd arholiadau crynodol neu fwy ffurfiol yn cael eu cynnal ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.
Mae ein haddysgu yn flaengar ym maes addysg deintyddiaeth, hyfforddiant clinigol ac ymchwil, a bydd gennych gyfle i weithio gydag arweinwyr yn eu meysydd perthnasol, ac i ddysgu ganddynt. Bydd gennych fynediad at rai o gyfleusterau clinigol, addysgol ac ymchwil gorau Ysgol Ddeintyddol orau’r DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
Mae hyn oll mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol a phroffesiynol yn Ysgol Deintyddiaeth ac Ysbyty Deintyddol Y Brifysgol yng Nghaerdydd, lle rydym yn gwneud popeth posib i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ac yn cyflawni eich uchelgais academaidd a chlinigol.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, cewch gymhwyster MClinDent mewn Prosthondonteg gan Brifysgol Caerdydd a byddwch yn gymwys i sefyll arholiad Aelodaeth Prosthondonteg (MProstho) Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghaeredin. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma https://www.rcsed.ac.uk/
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, ces i gyfle i drin cleifion ag achosion cymhleth dan oruchwyliaeth ymgynghorwyr medrus a phrofiadol iawn ym maes deintyddiaeth adferol. Mae'r Ysgol yn meddu ar y dechnoleg ddiweddaraf ym maes deintyddiaeth a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau yn eich gyrfa hir fel Prosthodontydd. Bydd bod yn fyfyriwr graddedig o Brifysgol Caerdydd yn cynnig potensial mawr i mi ar gyfer datblygu’n broffesiynol ac yn academaidd pan fyddaf yn dychwelyd i’m mamwlad.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol Deintyddiaeth
Ni yw'r unig Ysgol Deintyddiaeth yng Nghymru, ac rydym yn darparu arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil deintyddol, addysgu a gofal cleifion.
Meini prawf derbyn
Please note: The Programme does not come with a National Training Number and, therefore, will not permit automatic or any guarantee of entry to the Specialist list in the relevant dental monspecialty. Completion of the course does not automatically entitle entry to the GDC specialist list.
Academic requirements:
You must hold a primary dental qualification (BDS/DDS or equivalent).
English language requirements:
You must supply evidence that you meet the English language requirements at the point you submit your application.
The English language requirement for this programme is set by the regulatory body, the General Dental Council (GDC). In line with GDC guidelines, acceptable English language evidence includes:
- IELTS 7.0 with 6.5 in each subskill no more than 2 years old at the start of the programme, or
- evidence of a primary dental qualification which has been taught (in its entirety) in a country on the UKVI list of exceptions and is no more than 2 years prior to the start of the programme, or
- evidence of a pass in a language test for registration with a regulatory authority in a country where the first language is English no longer than 2 years prior to the start of the programme, or
- evidence of 2 years’ experience of practising in a country where the first language is English.
If you provide evidence other than those listed above, they must meet the criteria set out by the GDC i.e. the evidence must be robust, recent and readily verifiable by the GDC.
Other essential requirements:
You will also need to provide all of the following at the point you submit your application in order to be considered:
- one academic reference
- one clinical reference to evidence 2 years' post-qualification experience
- an up-to-date CV
- evidence that you are a registered dental practitioner
- personal statement
- a copy of your undergraduate degree certificate and related formal transcripts.
Applicants should normally have passed the MJDF/MFDS/FDS qualifications of the Royal College of Surgeons and have a broad clinical experience. Previous audit and research experience is beneficial.
Application deadline
You must submit a fully completed application by 31 December 2022 to be considered for September 2023 entry. Applications received or completed after this date may be considered subject to availability of places.
Selection process
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will invite you to an interview.
Successful candidates will be required to comply with the University’s and Cardiff and Vale NHS Trust’s Occupational Health clearance including Exposure Prone Procedures (EPP).
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) a yw'ch cais yn llwyddiannus. Os ydych chi'n gwneud cais o rai gwledydd dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da.
Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.
Strwythur y cwrs
Mae hwn yn gwrs modiwlaidd amser llawn a thair blynedd o hyd. Mae’r flwyddyn gyntaf a’r ail yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd y flwyddyn, ac mae’r flwyddyn derfynol yn cynnwys dau fodiwl 30 credyd a modiwl traethawd hir 60 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Mae blwyddyn un yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Research Methods | DET031 | 30 credydau |
Foundation to Restorative Dentistry with Emphasis on Prosthodontics | DET037 | 30 credydau |
Foundation to Restorative Dentistry with Emphasis on Periodontics | DET038 | 30 credydau |
Foundation to Restorative Dentistry with Emphasis on Endodontics | DET039 | 30 credydau |
Blwyddyn dau
Mae blwyddyn dau’n cynnwys pedwar modiwl 30 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Removable Prosthodontics | DET021 | 30 credydau |
Advanced Operative | DET022 | 30 credydau |
Prosthodontic Clinical Practice | DET023 | 30 credydau |
MCD - Implantology | DET027 | 30 credydau |
Blwyddyn tri
Mae blwyddyn tri yn cynnwys dau fodiwl 30 credyd a modiwl traethawd hir 60 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dissertation (Pros) | DET024 | 60 credydau |
Advanced Clinical Prosthodontics | DET025 | 30 credydau |
Advanced Clinical Removable Prosthodontics | DET026 | 30 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Defnyddir ystod amrywiol o arddulliau addysgu a dysgu drwy'r MClinDent. Byddwch yn mynychu darlithoedd, ac yn cymryd rhan mewn seminarau, tiwtorialau ac ymlyniad clinigol. Mae pob modiwl a addysgir yn orfodol a byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn labordy neu brosiect ymchwil glinigol ac astudiaeth annibynnol i'ch galluogi i gwblhau eich traethawd hir. Byddwch yn cael rhestr o deitlau prosiect labordy, clinigol a/neu lyfrgell a fydd yn sail i'r traethawd hir terfynol. Yn gyffredinol, mae pynciau prosiect yn gysylltiedig â meysydd gwyddonol/clinigol o ddiddordeb i aelodau staff, a bydd gennych oruchwyliaeth fel unigolyn.
Sut y caf fy asesu?
Mae deg modiwl a addysgir yn y cwrs sy'n cael eu hasesu drwy'r asesiadau canlynol yn ystod y cwrs dros dair blynedd, ynghyd â'r modiwl traethawd hir:
- Traethodau estynedig
- Asesiadau Clinigol
- Cyflwyniadau llafar
- Cwestiynau Atebion Byr
- Aseiniadau ystadegol
- Aseiniadau sgiliau llyfrgell a gwybodaeth
- Traethawd hir (dim mwy nag 20,000 o eiriau)
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae pob modiwl yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig. Byddwch yn cael eich goruchwylio wrth weithio ar eich traethawd hir, a byddwch yn cael y cyfle i gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch goruchwyliwr i drafod cynnydd, i gael cyngor ac arweiniad, ac i gael adborth ysgrifenedig ar fersiynau drafft.
Mae cyfleoedd i fyfyrio ar eich galluoedd a’ch perfformiad ar gael drwy’r modiwl ""Cynllunio Datblygiad Personol"" ar Dysgu Canolog, a thrwy gyfarfodydd wedi'u trefnu â thiwtoriaid personol.
Adborth
Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar bob asesiad, yn ogystal ag adborth llafar ar gyflwyniadau llafar a asesir.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn yn y cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:
- Datblygu a defnyddio strategaethau chwilio systematig priodol sy'n ymgorffori amrywiaeth o gronfeydd data electronig a ffynonellau gwybodaeth eraill.
- Diffinio mesurau canlyniadau priodol a gofynion data ar gyfer dyluniadau ymchwil penodol.
- Dangos y gallu i sefydlu, cofnodi a thrin setiau data sy'n berthnasol i'ch maes diddordeb.
- Dadansoddi setiau data meintiol syml gan ddefnyddio dulliau ystadegol priodol.
- Gwerthuso'r prif ddulliau ymchwil a ddefnyddir mewn Deintyddiaeth Adferol a chyfiawnhau eu defnyddio mewn llenyddiaeth ymchwil berthnasol.
- Cyferbynnu ansawdd a dibynadwyedd tebygol y data a gesglir gan ddefnyddio dulliau amrywiol.
- Arfarnu papurau ymchwil yn feirniadol a dod i gasgliadau priodol.
- Cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau ymchwil wrth gynllunio a dylunio cynigion ymchwil.
- Cyfuno tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau i werthfawrogi Deintyddiaeth Adferol glinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn well.
- Defnyddio gwybodeg iechyd a thechnoleg gwybodaeth fel dull o gyfathrebu a chasglu a dadansoddi data ac ar gyfer dysgu hunangyfeiriedig.
- Ennill, dadansoddi, prosesu a chyfleu gwybodaeth mewn modd gwyddonol, beirniadol ac effeithiol i ddatrys problemau a llywio penderfyniadau clinigol.
Cardiff is a dynamic city with a tangible energy and deep roots into the past. It has a multicultural society in which foreigners feel welcome. The School of Dentistry represents this diversity on a smaller scale by the supportive and friendly staff. After spending almost three years in this school, I can say without doubt that I have made the right choice in joining the Master of Clinical Dentistry (Prosthodontics) programme here. The course provides a great potential for professional and academic development. The associated staff are skilled and experienced. The clinical experience is challenging, yet very rewarding and beneficial. On top of all this, the facility is well equipped and includes a state of the art library.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o'r DU/UE ar hyn o bryd.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £47,950 | £5,000 |
Blwyddyn dau | £47,950 | Dim |
Blwyddyn tri | £47,950 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu unrhyw gyfarpar sydd ei angen.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, dylech gael y cyfle i ddilyn gyrfa fel arbenigwr mewn Prosthodonteg.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Dentistry
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.