Ewch i’r prif gynnwys

Deintyddiaeth (PhD,MPhil)

Ein prif amcan yw darparu prosiectau ymchwil rhyngwladol-gystadleuol, gan gynhyrchu ôl-raddedigion medrus a chystadleuol gyda rhagolygon gyrfa ardderchog yn y dyfodol.

Mae’r adran yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr â diddordeb mewn ymgymryd ag ymchwil tuag at gyrraedd gradd uwch. I fodloni’r nod hwn mae’r adran yn cynnig arbenigedd o lefel uchel i fyfyrwyr a chefnogaeth mewn amrywiaeth o bynciau ymchwil.

Nodau'r rhaglen

I gynnig gwybodaeth, hyfforddiant ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil clinigol neu wyddonol.

Nodweddion unigryw

Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau màs critigol, yn darparu amgylchedd ymchwil rhyngweithiol iawn, gyda lefel uchel o gefnogaeth dechnegol a chyfleusterau ymchwil a labordai sy’n sicrhau hyfforddiant ymchwil gorau posibl.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd; MPhil 1 flwyddyn
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Meysydd ymchwil

Ymchwil Glinigol Gymhwysol ac Iechyd y Cyhoedd

Mae Ymchwil Glinigol Gymhwysol ac Iechyd Cyhoeddus yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Deintyddiaeth (MPhil, PhD).

Gwyddorau Biofeddygol a'r Geg

Mae ein Gwyddorau Biofeddygol a’r Geg yn faes ymchwil lle gallwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Deintyddiaeth (MPhil, PhD).

Prosiectau ymchwil

Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer nifer o brosiectau PhD yn Yr Ysgol Deintyddiaeth. Mae'r prosiectau hyn yn agored i fyfyrwyr DU/UE ac i fyfyrwyr tramor.

Er bod prosiectau a ariennir wedi’u dylunio ar gyfer astudiaeth llawn amser, mae croeso i chi drafod y posibilrwydd o gyflawni unrhyw brosiect yn rhan amser gyda’r goruchwyliwr cyn cyflwyno eich cais. Gallwch ddod o hyd i’w gwybodaeth gyswllt drwy ddilyn y dolenni proffil ar waelod pob disgrifiad prosiect isod.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Yn addas ar gyfer graddedigion mewn pynciau gwyddonol, clinigol neu beirianneg, e.e. biowyddorau, cemeg, meddygaeth, deintyddiaeth, fferylliaeth.

Fel arfer dylai ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda, MSc neu gyfwerth a gallu dangos cymhwysedd ymchwil ar gyfer lefel mynediad gradd meistr neu ddoethuriaeth.

Gofynion Iaith Saesneg

Ar gyfer rhaglenni ymchwil nad ydynt yn glinigol rydym angen sgôr IELTS cyffredinol o 6.5 o leiaf (gyda dim llai na 5.5 yn unrhyw un o’r 4 is-adran neu gymhwyster cyfatebol) ar gyfer rhaglenni nad ydyn nhw’n glinigol. Ar gyfer rhaglenni clinigol rydym yn gofyn am isafswm sgôr IELTS o 7 ar y cyfan (gydag isafswm sgôr o 6 yn mhob un o’r pedwar is-adrannau.)

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Yn lle datganiad personol, mae’n rhaid i chi ysgrifennu pam eich bod am ymgymryd â’r math penodol o astudiaeth ymchwil PhD, e.e. mewn labordy, (tua 500 gair).

Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut ydych chi’n bwriadu ariannu eich astudiaethau?’, nodwch y manylion ac uwchlwytho unrhyw ddogfennau sy’n darparu’r dystiolaeth (er enghraifft llythyr cadarnhau ysgoloriaeth).

Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail rhaglen dreigl.

Cynnig ymchwil

Prosiect ymchwil a hysbysebwyd

Yn yr adran cynnig ymchwil  yn eich cais, nodwch deitl y prosiect a goruchwylwyr y prosiect hwn a chopïo disgrifiad y prosiect yr ydych chi’n dymuno cael eich ystyried amdano.

O dan ‘Teitl/pwnc y prosiect ymchwil arfaethedig’, teipiwch deitl y prosiect ac yn y gofod ar gyfer y cynnig ymchwil, ailadroddwch deitl y prosiect a darparu datganiad yn nodi pam ei bod â diddordeb yn y prosiect (500 gair).

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

School of Dentistry Admissions Officer

Administrative contact

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig