Ewch i’r prif gynnwys

Synthesis Organig

Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Synthesis Organig, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.

Mae’r ymchwil a gynhelir yn y grŵp Synthesis Organig yn bennaf yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau synthetig newydd a dulliau’r rhain mewn synthesis targed, fel arfer naill ai gynhyrchion naturiol neu ddeunyddiau cyfansawdd gweithredol biolegol ag arwyddocâd agrocemegol neu fferyllol. Mewn llawer o achosion, mae’r ysbrydoliaeth ar gyfer datblygu methodoleg newydd yn codi o ystyried nodweddion strwythurol targedau o'r fath.

Meysydd penodol o ddiddordeb cyfredol yw synthesis heterocyclic, dirlawn a heteroaromatig. Wedi’i gymell gan alw’r diwydiant ac ystyriaethau amgylcheddol, mae llawer o’r ymdrech hwn yn canolbwyntio ar ddiffinio dulliau newydd ar gyfer cynhyrchu catalytig effeithlon iawn o ran cyfansoddion o’r fath. Gall hyn gynnwys catalyddion heterogenaidd, adweithiau mewn systemau llif, a defnyddio adweithiau ad-drefnu newydd neu gemeg radicalaidd.

Thema gref iawn yw ffurfio cyfansoddion drwy ychwanegu nwcleoffilau wedi’u cymell gan electroffil at fondiau carbon-carbon annirlawn. Mae diddordeb hirdymor mewn adweithiau pericylic yn parhau ym meysydd cemeg Diels-Alder, ad-drefniannau sigmatropig amrywiol ac adweithiau electrocyclig. Mae organocatalysis, maes cynyddol bwysig o ran gwenwyndra nifer o fetelau pontio, yn cael ei gynrychioli’n dda yn y grŵp. Mae mathau cyfredol o dargedau’n cynnwys peptidau polycylig, alcaloidau, steroidau, alcaloidau terpene a heterogylchoedd ocsigen planhigion.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Prosiectau

Bob blwyddyn mae’r Ysgol Cemeg yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi sicrhau arian gan noddwyr allanol, neu sy'n ariannu eu hunain.

Mae gennym restr helaeth o brosiectau sydd ar gael. Gellir cael manylion am bob prosiect drwy gysylltu â’r aelod o staff academaidd yn uniongyrchol.  Nodwch y prosiect(au) yr hoffech gael eu hystyried ar eu cyfer ar eich ffurflen gais.

Yn y lle cyntaf dylech gyflwyno CV a Llythyr Eglurhaol i oruchwyliwr y prosiect yn nodi manylion y prosiect yr hoffech gael eich ystyried amdano.

Yna dylid cyflwyno ceisiadau ffurfiol drwy Wasanaeth Ceisiadau Ar-lein Prifysgol Caerdydd. Yn yr adran cynnig ymchwil yn eich cais, nodwch deitl y prosiect a goruchwylwyr y prosiect hwn a chopïo disgrifiad y prosiect.

Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut ydych chi’n bwriadu ariannu eich astudiaethau?’, nodwch y manylion ac uwchlwytho unrhyw ddogfennau sy’n darparu’r dystiolaeth (er enghraifft: llythyr cadarnhau ysgoloriaeth).

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig