Cyfleusterau
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae ein cyfleusterau ymchwil yn cynnig amgylchedd gwych ar gyfer rhagoriaeth ymchwil.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi buddsoddi dros £20 miliwn mewn cemeg, ochr yn ochr â chefnogaeth helaeth gan gynghorau ymchwil a’r diwydiant.
Mae gennym yr isadeiledd a’r offer dadansoddi y byddech am eu cael mewn adran cemeg fodern a deinamig sy’n ymdrin â phob cangen cemeg craidd a rhyngddisgyblaethol.
O’r technegau dadansoddi diweddaraf i alluoedd gweithdy gwyddonol arbenigol, mae'r cyfleusterau hyn yn sail i'n gweithgareddau addysgu ac ymchwil.
Datblygiadau newydd
Bydd seilwaith ein hysgol, sydd wedi’i lleoli ym Mhrif Adeilad eiconig Prifysgol Caerdydd ers 1927, yn cael ei newid yn sylweddol yn gynnar yn 2022 pan fydd Sefydliad Catalysis Caerdydd yn symud i'r Ganolfan Ymchwil Drosiadol gerllaw ar y Campws Arloesedd newydd gwerth £300 miliwn.
Bydd y Ganolfan Ymchwil Drosiadol yn dod ag ymchwilwyr catalysis at ei gilydd mewn labordai pwrpasol er mwyn ysgogi ymchwil ryngddisgyblaethol, gan gynnwys y grwpiau modelu cyfrifiadurol.

State-of-the-art analytical equipment and experts in data interpretation are available to support your needs.