Ewch i’r prif gynnwys

Cemegol Feddyginiaethol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae cemeg feddyginiaethol yn wyddoniaeth gyffrous sy'n datblygu'n gyflym ac sy'n ymwneud â'r gemeg sy'n sail i ddylunio, darganfod a datblygu cynhyrchion fferyllol newydd.

briefcase

Cysylltiadau â diwydiant

Mae ein partneriaid ymchwil yn amrywio o fusnesau bach a chanolig cenedlaethol i rai o gwmnïau rhyngwladol mwyaf y byd.

molecule

Cyfleusterau ymchwil

Ar ôl cael buddsoddiad o dros £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych am ragoriaeth.

globe

Prosiect ymchwil

Arbenigwch mewn maes sydd o ddiddordeb i chi trwy brosiect ymchwil ar ddiwedd y cwrs. Ceir rhai cyfleoedd i gwblhau lleoliadau gwaith ymchwil academaidd yn y DU neu dramor.

Mae chwilio am gyffuriau newydd i drin afiechydon difrifol yn her bwysig a chyffrous sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil feddygol. A chithau’n fferyllydd meddyginiaethol, gallwch gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles miliynau o bobl ledled y byd.

Ar y cwrs, byddwch yn archwilio cyd-destun ehangach darganfod cyffuriau, busnes a gofal iechyd yn ogystal â datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau labordy angenrheidiol i ddylunio cyffuriau. Byddwch chi’n astudio’r berthynas rhwng fferyllwyr meddyginiaethol a chwmnïau darganfod cyffuriau ar y cyd â rhanddeiliaid perthnasol fel cleifion, buddsoddwyr a llywodraethau hefyd.

Ceir cyfleoedd i chi gael profiad ymarferol mewn tîm cemeg feddyginiaethol yn ystod eich prosiect ymchwil.

Achrediadau

Manita Kalsey, MSc Medicinal Chemistry
Cardiff University has been an amazing experience for me so far. I got married and moved here, and my husband has studied in the same university, which is how I ended up choosing to study here too. Medicinal Chemistry has always been something I've wanted to study and I was so excited to see that it was being offered this year. The programme has been very involving and interesting and the lecturers have all been brilliant. They've been very supportive and patient and they have always made time to see me when I've needed help. I've made a lot of friends and I've loved every minute of being here.
Manita Kalsey MSc Medicinal Chemistry

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cemeg

Rydym yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau gwyddonol bwysig yr 21ain ganrif drwy addysg ac ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4023
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Meini prawf derbyn

Academic requirements: 

Typically, you will need to have either: 

  • a 2:2 honours degree in a relevant subject area such as chemistry, chemical engineering, pharmacy, pharmacology and biochemistry, or an equivalent international degree
  • or a university-recognised equivalent academic qualification.

Applicants with a degree in a subject other than chemistry will be required to demonstrate knowledge and understanding of key chemical topics prior to an offer being made.

English Language requirements:

IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent. 

Other essential requirements:

Please include information on why you are interested in medicinal chemistry in your personal statement (do not exceed 500 words). Specific details such as your future aspirations, and how your educational or professional background makes you a suitable applicant are welcomed. We do not accept generic statements.

Application deadline:

We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible. 

Selection process: 

We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer. 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Gellir dilyn y cwrs hwn yn llawn amser am flwyddyn neu’n rhan-amser dros dair blynedd.

Mae dwy ran i'r radd. Mae rhan un yn cynnwys modiwlau craidd a dewisol a addysgir y byddwch yn eu cymryd yn ystod semester yr hydref a semester y gwanwyn. Yn y modiwlau hyn byddwn yn rhoi sylfaen i chi yn y sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer cemegwyr meddyginiaethol cyfoes, fel y technegau a'r tueddiadau mewn darganfod cyffuriau modern. Byddwn hefyd yn edrych yn fanylach ar fodelu macromoleciwlau biolegol a thargedau cyffuriau. Yna, byddwn yn dilyn y broses o ddatblygu cyffuriau o’r labordy i’r clinig.

Ar ôl cwblhau rhan un yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i ran dau, prosiect ymchwil yr haf. Byddwn yn sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau prosiect ar gael i chi o’r maes cemeg feddyginiaethol. Ar gyfer y prosiect hwn, yn dibynnu ar y pwnc y byddwch yn ei ddewis, gallwch weithio gyda grŵp ymchwil yn yr Ysgol Cemeg neu ein partner, yr Ysgol Fferylliaeth ac Astudiaethau Fferyllol. Os yw’r dewis hwn ar gael, gallwch hefyd gwblhau'r prosiect hwn gydag un o'n partneriaid diwydiannol neu mewn sefydliad academaidd arall yn y DU neu dramor

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Os ydych ar yr opsiwn gradd amser llawn am flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'r holl fodiwlau a'ch prosiect ymchwil mewn blwyddyn.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai, astudiaethau achos, sesiynau gyda chymorth cyfrifiadur, sesiynau ymarferol a thiwtorialau.

Bydd eich prosiect ymchwil yn cael ei gynnal yn un o’n labordai, o dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd sydd â diddordeb mewn maes tebyg. Efallai y cewch gyfle i gwblhau eich prosiect pan fyddwch ar leoliad yn y diwydiant neu gydag un o'n sefydliadau partner academaidd dramor, yn dibynnu ar beth sydd ar gael.

Mae modiwlau sy'n ymwneud â chyfrifiadura yn cael eu cynnal yn aml yn ein hystafelloedd cyfrifiaduron, tra bydd gwaith ymarferol yn cael ei wneud yn ein labordai.

Byddwn hefyd yn gwahodd arbenigwyr yn y diwydiant ar gyfer seminarau gyda'n myfyrwyr yn un o'r modiwlau craidd. Bydd myfyrwyr hefyd yn elwa o'r seminarau wythnosol sy’n cael eu trefnu gan yr Ysgol Cemeg, lle gwahoddir arbenigwyr blaenllaw mewn gwahanol feysydd gwyddonol i gyflwyno eu gwaith.

Sut y caf fy asesu?

Asesir modiwlau a addysgir mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn dibynnu ar gynnwys y modiwl a’r deilliannau dysgu (a geir yn y disgrifiadau o’r modiwlau). Rydyn ni’n defnyddio gwaith cwrs, gweithdai wedi'u hasesu a chyflwyniadau neu gyfuniad o'r rhain i asesu eich cynnydd ar y cwrs.

Bydd eich prosiect ymchwil ar ddiwedd y cwrs yn cael ei asesu drwy draethawd hir, cyflwyniad, ac arholiad llafar.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Gwyddoniaeth, sy'n dal ein casgliad o adnoddau cemeg, yn ogystal ag i Lyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth rheolaidd ar eich llwyth gwaith, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd. Ein nod yw rhoi adborth i chi o fewn pythefnos i chi gyflwyno gwaith i’w asesu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch wedi datblygu sgiliau allweddol, y gellir eu cymhwyso i amrywiaeth o amgylcheddau gwaith diwydiannol ac academaidd. Byddwch wedi ennill sgiliau dysgu, trin gwybodaeth a sgiliau cyflwyno. Fe ddylech chi allu gwneud y canlynol:

  • Deall theori, cymhwyso, paratoi a dadansoddi moleciwlau cyffuriau i lefel sy'n briodol i raddedigion mewn cemeg neu wyddorau fferyllol sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y byd academaidd neu ddiwydiant.
  • Cymhwyso dulliau labordy modern i baratoi, puro, esblygu a chymhwyso moleciwlau cyffuriau.
  • Deall y dull o weithredu amrywiaeth o foleciwlau fel cyfryngau therapiwtig a chymhwyso'r wybodaeth hon ar gyfer problemau heb eu gweld o'r blaen.
  • Defnyddio modelu moleciwlaidd wrth ddylunio cyffuriau.
  • Gwerthuso strategaethau targedu cyffuriau newydd a thueddiadau'r diwydiant yn feirniadol.
  • Disgrifio sut mae technolegau newydd yn cael eu defnyddio i gynyddu cynhyrchiant mewn darganfod cyffuriau.
  • Disgrifio ac esbonio tueddiadau o ran cyffuriau sy’n cael eu cymeradwyo a chyffuriau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
  • Deall lle mae cemeg feddyginiaethol yn cyd-fynd â chyd-destun y diwydiant fferyllol.
  • Gweithio mewn tîm i ymchwilio i atebion i broblemau heb eu datrys mewn cemeg feddyginiaethol.
  • Cyflwyno gwaith ymchwil i gyfoedion ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Xu
The main reason I chose to study at Cardiff University is because it is well known for its quality of research in Chemistry and Pharmacy. My bachelor's degree is in pharmaceutical sciences, so I already have a good knowledge of chemistry. My aim is to develop new drugs and medicines. My educational background and career aims made the MSc in Medicinal Chemistry a perfect choice. The tuition on the programme is at the forefront of where medicinal science is today.
Xu, 2017

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £25,450 £2,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen sbectol ddiogelwch a chôt labordy arnoch i weithio yn ein labordai, a bydd yr Ysgol Cemeg yn rhoi’r rhain i chi. Byddwn yn darparu unrhyw offer arall sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.

Mae'r meddalwedd lluniadu cemegol a ddefnyddir yn ein haddysgu (ChemDraw) ar gael ar gyfrifiaduron rhwydwaith y Brifysgol, a bydd ar gael i chi i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.

Yn ystod y cwrs, bydd y Llyfrgell Gwyddoniaeth ar gael ar eich cyfer, yn ogystal â llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, adnoddau llyfrgell ar-lein a mannau astudio ar draws y campws.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae graddedigion yn addas iawn ar gyfer rolau yn y diwydiannau fferyllol, biofferyllol a biodechnoleg ac yn y byd academaidd i gynnal ymchwil i gyffuriau newydd. Mae ein graddedigion yn ymgymryd â rolau sy’n ymwneud ag ymchwil mewn sefydliadau ymchwil cyhoeddus a phreifat, sefydliadau academaidd neu labordai ysbyty.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn arbennig o addas i’r rhai hynny sy’n dymuno gwneud astudiaeth bellach ar lefel PhD ym Mhrifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill sydd ar y brig.

Lleoliadau

Ar gyfer prosiect ymchwil ar ddiwedd cwrs efallai y bydd gennym rai lleoliadau ar gael gydag un o'n partneriaid diwydiannol neu mewn sefydliad academaidd arall yn y DU neu dramor y mae gennym gytundeb ag ef. Holwch am ragor o fanylion.

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Biomedical sciences, Chemsitry


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.