Deunyddiau Cyflwr Solid
Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Cemeg Deunyddiau a Chyflwr Solid, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.
Mae ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall priodweddau sylfaenol deunyddiau, datblygu a gwella agweddau newydd ar dechnegau arbrofol ar gyfer ymchwilio’r priodweddau hyn, ac archwilio’r posibilrwydd ar gyfer datblygu defnydd y deunyddiau o dan sylw.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Dr Ben Ward
Administrative contact
Mae prosiectau ymchwil cyfredol yn cynnwys:
- Datblygu dealltwriaeth sylfaenol o briodweddau strwythurol a deinamig solidau moleciwlaidd (gan gynnwys cyfansoddion cynhwysiant solid, solidau anghymesur, systemau wedi’u bondio â hydrogen, a deunyddiau di-drefn) a phrosesau crisialu’r deunyddiau hyn.
- Mesur y rhyngweithio rhwng cydrannau’r systemau ‘mater meddal’, i ddeall a rheoli eu strwythur a deinameg, gyda phwyslais benodol ar geliau ac ewynau sy’n hunan-greu, amddiffyn deunyddiau actif drwy gyfunedd, eu hymddygiad mewn biogeliau, hydoddiannau ychwanegyn/arwynebyn/polymer, a defnydd polymerau fel gyrwyr ar gyfer rhyddhau cyffuriau dan reolaeth ac wedi’u targedu.
- Datblygu a defnyddio agweddau newydd ar dechnegau arbrofol ar gyfer esbonio priodweddau deunyddiau - mae pynciau o ddiddordeb penodol yn cynnwys datblygiadau mewn EPR a sbectrosgopeg ENDOR mewn amrywiaeth o feysydd newydd (gan gynnwys nodweddu systemau catalytig ac arwynebau solid), datblygu a defnyddio technegau newydd ar gyfer pennu strwythur gan ddefnyddio data diffreithiant pelydr-X powdr, ag agweddau sylfaenol a chymhwysol o’r ffenomen birefringence pelydr-X.
Prosiectau
Bob blwyddyn mae’r Ysgol Cemeg yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi sicrhau arian gan noddwyr allanol, neu sy'n ariannu eu hunain.
Mae gennym restr helaeth o brosiectau sydd ar gael. Gellir cael manylion am bob prosiect drwy gysylltu â’r aelod o staff academaidd yn uniongyrchol. Nodwch y prosiect(au) yr hoffech gael eu hystyried ar eu cyfer ar eich ffurflen gais.
Yn y lle cyntaf dylech gyflwyno CV a Llythyr Eglurhaol i oruchwyliwr y prosiect yn nodi manylion y prosiect yr hoffech gael eich ystyried amdano.
Yna dylid cyflwyno ceisiadau ffurfiol drwy Wasanaeth Ceisiadau Ar-lein Prifysgol Caerdydd. Yn yr adran cynnig ymchwil yn eich cais, nodwch deitl y prosiect a goruchwylwyr y prosiect hwn a chopïo disgrifiad y prosiect.
Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut ydych chi’n bwriadu ariannu eich astudiaethau?’, nodwch y manylion ac uwchlwytho unrhyw ddogfennau sy’n darparu’r dystiolaeth (er enghraifft: llythyr cadarnhau ysgoloriaeth).
Arian
Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Gwybodaeth am y Rhaglen
I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.
Gweld y Rhaglen