Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Nodwch, mae'r fideo uchod ar gael yn Saesneg yn unig.

Ein nod yw uno, o fewn un sefydliad, ymchwil o ansawdd byd-eang mewn catalysis heterogenaidd, homogenaidd a bio-gatalysis.

Sefydlwyd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) o fewn yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn:

  • gwella dealltwriaeth o gatalysis
  • gweithio gyda diwydiant i ddatblygu prosesau catalytig newydd
  • hyrwyddo defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn y 21ain ganrif

Hanes

Crëwyd y CCI yn 2008 gyda buddsoddiad cychwynnol o £2.8M gan y Brifysgol. Ers hynny, rydym ni wedi datblygu ein harbenigedd i gynnwys meysydd ffotocatalysis, synthesis ynni adnewyddadwy ac ôl-driniaeth disbyddu, gan gynnal enw da byd-eang mewn dylunio catalyst.

I gydnabod ein llwyddiant, uwchraddiwyd ein statws i Sefydliad Ymchwil y Canghellor yn 2012, y cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd a dyfarnwyd buddsoddiad pellach o £3.3M gan y Brifysgol. Yn ystod haf 2013 fe'n sefydlwyd yn Sefydliad Ymchwil y Brifysgol, i gydnabod ein statws fel arloeswr ym maes trawsnewid ymchwil gwyddonol sylfaenol a'i gymhwyso.

Cydweithio

Rydym ni wedi sefydlu cynghreiriau strategol gyda Phrifysgolion sydd ag arbenigedd ategol mewn catalysis, fel Caerfaddon, Bryste, Queen's Belfast ac UCL ac rydym ni wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o greu UK Catalysis Hub, sy'n dod ag arbenigedd ynghyd o'r mwyafrif o brifysgolion yn y DU sy'n weithredol ym maes catalysis.

Buddsoddiad a chyllid

European Regional Development Fund logo

Mae Cyfleuster Microsgopeg Electron newydd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI-EMF) a fydd yn yr Hwb Cymhwyso Ymchwil wedi'i sefydlu’n rhan o gynllun datblygu cyfalaf gwerth £300 miliwn y Brifysgol.

Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Sefydliad Wolfson, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae CCI-EMF yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.