Cemeg
Mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymchwil lefel uchel.
Mae gennyn ni ddiwylliant ymchwil llewyrchus, lle y cynigir arweiniad gan ymchwilwyr adnabyddus a goruchwyliaeth ganddyn nhw, yn ogystal â mynediad at gyfleusterau o'r radd flaenaf.Yn ôl dadansoddiad a wnaed gan THE (Times Higher Education) o Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF), cawn ein henwi yn y 12fed safle.
Caiff ein hymchwil ei rhannu i bedair thema: gwyddoniaeth catalysis a rhyngwynebol, deunyddiau ac ynni, synthesis moleciwlaidd, a sbectrosgopeg a deinameg.
Nodweddion unigryw
- Mae ein hadran yn gartref i ymchwilwyr blaenllaw, lle barnwyd bod 99% o’n gwaith ymchwil o’r radd flaenaf neu’n rhyngwladol ragorol (REF 2021).
- Mae’r cydweithredu rhyngddisgyblaethol cryf a wnawn yn hwyluso cyfleoedd i ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar draws adrannau pwnc traddodiadol.
- Rydyn ni’n gallu cynnig lleoliadau dramor, gan gynnwys yn Ewrop a Siapan, a hynny ar nifer o raglenni ymchwil.
- Mae ein cyfleusterau ymchwil rhagorol i’w cael mewn dau safle: catalysis o’r radd flaenaf yn Sefydliad Catalysis Caerdydd a leolir mewn Canolfan werth miliynau o bunnoedd sef y Canolfan Ymchwil Drosi - Datblygiadau campws - Prifysgol Caerdydd a labordai modern sydd â digonedd o offer ynddyn nhw o fewn ein Prif Adeilad traddodiadol.
Prosiectau
Mae gennyn ni restr helaeth o brosiectau ymchwil y mae goruchwylwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ac rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y prosiectau hyn.
Mae gennyn ni ystod o brosiectau ymchwil â chyllid allanol. Sicrhewch eich bod chi’n bodloni’r meini prawf cymhwystra penodol o ran cyllid cyn gwneud cais.
Rydyn ni hefyd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi sicrhau cyllid eu hunain. Gall cyllid o’r fath gael ei ddarparu gan noddwr allanol, benthyciad myfyriwr, neu drwy hunan-ariannu.
Mae croeso ichi gysylltu â'n hacademyddion yn uniongyrchol i gael sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth.
Dylid cyflwyno cais drwy wasanaeth gwneud ceisiadau Prifysgol Caerdydd.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil |
Hyd amser llawn | PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref |
Fel myfyriwr PhD/MPhil mewn Cemeg, byddwch yn ymgymryd ag ymchwil arloesol yn un o themâu amrywiol ein gwaith ymchwil.
Mae'r Ysgol yn arbenigo yn y meysydd ymchwil canlynol:
Meysydd ymchwil
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Mae gofyn i ymgeiswyr feddu ar BSc 2.2 neu uwch, neu gyfwerth, mewn Cemeg neu mewn pwnc cysylltiedig.
Gofynion Iaith Saesneg
IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Dr Ben Ward
Administrative contact