Ewch i’r prif gynnwys

Cemeg Ddamcaniaethaol a Chyfrifiadurol

Mae gan yr Ysgol Cemeg dîm ymchwil sy'n ehangu ac yn torri tir newydd ym maes cemeg ddamcaniaethol a chyfrifiadurol, gan wneud ymchwil i ddamcaniaethau ac agweddau cyfrifiadurol yn ogystal â dysgu peiriannol a chemeg ddigidol sy’n seiliedig ar ddata.

Mae'r tîm hwn yn cwmpasu sawl grŵp ymchwil sy'n arbenigo mewn damcaniaethau ac agweddau cyfrifiadurol, ynghyd â datblygu a defnyddio dulliau modelu.

Ymhlith y meysydd dan sylw mae

  • efelychu deunyddiau a mecanweithiau catalytig
  • cemeg gynaliadwy, gan gynnwys lliniaru CO2, trawsnewid biomas a chynhyrchu H2
  • strwythur a swyddogaeth biofoleciwlau
  • efelychu problemau rhwymo rhwng cyffur a’r derbynnydd
  • efelychu deunyddiau ar gyfer storio a thrawsnewid ynni
  • adweithiau cludo solidau, màs a gwefr
  • rhagfynegi strwythur a phriodweddau
  • datblygu dull ar gyfer efelychiadau deinamig gwell

Gall myfyrwyr yn y maes hwn ddisgwyl meithrin dealltwriaeth ddofn o’r prosesau ffisegol sylfaenol sydd wrth wraidd yr holl ffenomenau cemegol. Hefyd, mae lle amlwg i sgiliau fel codio, cyfrifiadura perfformiad uchel a dadansoddi rhifiadol, sgiliau mathemategol a sgiliau ym maes gwyddor data.

Mae pob grŵp yn y maes hwn yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr arbrofol yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac mewn mannau eraill. Noddir llawer o’r gwaith yn y maes hwn gan y diwydiant, gan gynnwys BP, Johnson Matthey a NIC3E.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Mae ymchwil fethodolegol yn cynnwys dulliau cyfrifiadurol ar gyfer cydberthynas electron, dadansoddi dwysedd electron, QSAR, dadansoddi data XRD, dulliau uwch o efelychu deinameg moleciwlaidd a samplu pwysigrwydd, cyfrifiadau thermol a chludo electronig, dulliau aml-gorff a chydberthynol wedi’u defnyddio ar gyfer y cyflwr solid. Hefyd, mae diddordeb mawr mewn datblygu meddalwedd drwy’r Molpro a chodau eraill, ac yn archwiliad effeithiol o gyfrifiaduron paralel perfformiad uchel iawn. Cefnogir y grŵp gan seilwaith cyfrifiadura ardderchog, gan gynnwys y cyfleuster Cyfrifiadura Ymchwil Uwch.

Prosiectau

Mae gennym amrywiaeth o brosiectau ymchwil sy’n cael eu hariannu’n allanol Prosiectau, Rhaglenni ac Ysgoloriaethau PhD Cemeg Prifysgol Caerdydd i Fyfyrwyr y DU (findaphd.com) Gwiriwch eich bod yn cwrdd â meini prawf cymhwysedd penodol cyn gwneud cais am arian.

Mae'r Ysgol Cemeg hefyd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi sicrhau arian gan noddwyr allanol, neu sy'n ariannu eu hunain.

Mae gennym restr helaeth o brosiectau ymchwil y mae goruchwylwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y prosiectau hyn -Themâu prosiect PhD - Ysgol Cemeg - Prifysgol Caerdydd

Mae croeso i chi gysylltu â'r academyddion yn uniongyrchol i gael sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth.

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy wasanaeth gwneud cais Prifysgol Caerdydd. Nodwch deitl a goruchwyliwr y prosiect ar eich cais.

Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut ydych chi’n bwriadu ariannu eich astudiaethau?’, nodwch y manylion a llwythwch unrhyw ddogfennau sy’n darparu’r dystiolaeth (er enghraifft: llythyr cadarnhau ysgoloriaeth).

Mae graddedigion cemeg cyfrifiadurol a damcaniaethol wedi mynd ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth eang o leoliadau academaidd a diwydiannol. Mae nifer yn parhau ym maes ymchwil drwy wneud cymrodoriaethau ymchwil ôl-ddoethurol, tra bod eraill yn datblygu ac yn profi meddalwedd cemegol. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy mewn mathemateg a chyfrifiadureg hefyd yn gwneud graddedigion o’r maes hwn yn gystadleuol yn y sectorau cyflogaeth nad ydynt yn gemegol.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig