Ewch i’r prif gynnwys

Bioleg Gemegol

Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Bioleg Gemegol, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.

Mae ymchwil y grŵp Bioleg Cemegol sy’n tyfu’n gyflym yn adeiladu ar gryfder Cemeg yng Nghaerdydd a’i nod yw ehangu gweithgareddau traws-ddisgyblaethol rhwng y Gwyddorau Ffisegol, Meddygol a Gwyddorau Bywyd. Mae pynciau ymchwil cyfredol yn cynnwys cemeg organig synthetig, carbohydrad, asidau niwclëig a chemeg protein, glycoleiddio protein, mecanwaith a chineteg adweithiau wedi’u cataleiddio gan ensym. thermodeinameg a chinets adweithiau biomoleciwlaidd, dulliau mecaneg moleciwlaidd a cwantwm mecanyddol i gatalysis ensym, geneteg cemegol, rheoli strwythur protein yn bioffotonig, imiwnoleg a chemeg meddyginiaethol.

Mae cysylltiadau cryf gydag Ysgolion eraill fel Biowyddorau, Fferylliaeth, Optometreg a’r Ysgol Meddygaeth. Cefnogir y grŵp yn dda iawn gyda chyllid gan y cynghorau ymchwil, elusennau a’r diwydiant. Mae’n elwa ar gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer synthesis, sbectrometreg, sbectrometreg màs, bioleg cemegol a moleciwlaidd. Oherwydd natur rhyngddisgyblaethol yr ymchwil, gall myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, fel Cemeg, Biocemeg, Bioffiseg, Gwyddorau Cyfrifiadurol a Bioleg Foleciwlaidd, gyfrannu’n sylweddol at ein gwaith.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Dr Ben Ward

Administrative contact

Meysydd ymchwil sydd ar gael yn y grŵp hwn:

  • Biosynthesis Terpen: Terpenau yw’r dosbarth mwyaf toreithiog a strwythurol amrywiol o gynhyrchion naturiol ac eto maen nhw’n cael eu creu gan gronfa fechan o ragflaenwyr biosynthetig. Rydym yn defnyddio cyfuniad o gemeg organig synthetig, bioleg moleciwlaidd ac ensymoleg i ddeall sut mae terpenau’n syntheseiddio i gyflawni’r dosbarth meistr hwn mewn cemeg cyfuniadol naturiol. Drwy ddefnyddio bioleg cemegol a synthetig rydym hefyd yn defnyddio’r ensymau hyn i ehangu’r ‘terpenom’ er mwyn cynhyrchu cynhyrchion annaturiol gyda gweithgarwch biolegol newydd.
  • Sail ffisegol a chemegol catalysis ensym: Mae ensymau yn aml yn cataleiddio adweithiau ar gyfraddau sy’n tynnu tuag at berffeithrwydd catalytig ond nid oes dealltwriaeth lawn o ran sut maen nhw’n cyflawni’r cyflymiad hwn.  Defnyddir dihydrofolate reductase fel system model i astudio sut mae strwythur, deinameg, a thwnelu mecanyddol protein i gyd yn cydlynu i gyflawni’r cyflymiadau cyfradd a arsylwyd yn y camau cemegol sy’n digwydd.
  • Nanoswitsiau Bioffotonig: Mae rhyngweithiadau protein-protein a protein-DNA wrth wraidd nifer o brosesau sy’n rheoli digwyddiadau cellog gan gynnwys y rhai hynny sy’n sylfaen i nifer o glefydau.  Drwy gyfuno peptidau bach gyda moleciwlau sy’n newid siâp pan gânt eu harbelydru gyda golau gweladwy mae’n bosibl dylunio systemau sy’n galluogi ffoto-reoli ar gyfer digwyddiadau cellog o’r fath.  Mae gan hyn lawr o fanteision posibl ar gyfer deall cylchedau celloedd yn well ac o ran trin clefydau.
  • Biocemeg Feddygol: Mewn cydweithrediad ag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd rydym yn targedu ensymau sy’n rhan o broses ymfudo celloedd gwyn y gwaed.  Mae cyfyngu ar y broses hon yn arwain at y posibilrwydd o drin clefydau ymfflamychol fel arthritis gwynegol yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o’r rolau mae’r ensymau hyn yn eu chwarae mewn bioleg celloedd. Mae synthesis organig, ensymoleg a bioleg strwythurol yn cael eu cyfuno er mwyn cynhyrchu cenedlaethau newydd o gyfansoddion sy’n targedu’r ensymau hyn mewn ffordd newydd.
  • Mecanweithiau flavoproteinau sy’n sensitif i olau: Mae’n hysbys bod flavoproteinau yn cataleiddio adweithiau rhydocs biocemegol ond mae wedi dod i’r amlwg yn eithaf diweddar eu bod yn chwarae rôl hanfodol mewn synhwyro golau glas mewn bacteria, ffyngau a phlanhigion yn enwedig. Mae gwaith ymchwil yn cynnwys gwaith ar fecanwaith ymateb manwl a ffotocemeg. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio’r potensial i’w defnyddio fel ffotoswitsiau optogenetig ar gyfer rheoli cylched celloedd ar gyfer celloedd mamalaidd.
  • Rhyngweithiadau peptid a phrotein gydag asidau niwclëig: Drwy reoli’r rhyngweithiadau rhwng proteinau ac asidau niwclëig mae potensial ar gyfer ffyrdd artiffisial o reoleiddio genynnau a phrosesu asid niwclëig sy’n ymwneud â dyblygu celloedd. Defnyddir synthesis organig a chemeg peptid i greu moleciwlau newydd sy’n targedu strwythurau eilaidd penodol mewn DNA ac RNA.
  • Sbectrometreg màs peptidau cylchol: Mae peptidau lle mae’r terfynfaoedd wedi’u cysylltu i wneud macrogylch yn llai hyblyg ac yn gwrthsefyll proteas yn fwy na’u cymheiriaid llinol sy’n eu gwneud yn fwy deniadol o safbwynt canfod cyffuriau. Gellir syntheseiddio niferoedd mawr o beptidau ochr yn ochr ond mae nodweddu strwythurol yn fwy heriol.  Mae meddalwedd yn cael ei ddatblygu i helpu gydag aseiniad cyflym strwythurau peptidau cylchol gan ddefnyddio sbectra màs digysylltedd oherwydd gwrthdaro.

Prosiectau

Mae gennym amrywiaeth o brosiectau ymchwil sy’n cael eu hariannu’n allanol Prosiectau, Rhaglenni ac Ysgoloriaethau PhD Cemeg Prifysgol Caerdydd i Fyfyrwyr y DU (findaphd.com) Gwiriwch eich bod yn cwrdd â meini prawf cymhwysedd penodol cyn gwneud cais am arian.

Mae'r Ysgol Cemeg hefyd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi sicrhau arian gan noddwyr allanol, neu sy'n ariannu eu hunain.

Mae gennym restr helaeth o brosiectau ymchwil y mae goruchwylwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y prosiectau hyn -Themâu prosiect PhD - Ysgol Cemeg - Prifysgol Caerdydd

Mae croeso i chi gysylltu â'r academyddion yn uniongyrchol i gael sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth.

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy wasanaeth gwneud cais Prifysgol Caerdydd. Nodwch deitl a goruchwyliwr y prosiect ar eich cais.

Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut ydych chi’n bwriadu ariannu eich astudiaethau?’, nodwch y manylion a llwythwch unrhyw ddogfennau sy’n darparu’r dystiolaeth (er enghraifft: llythyr cadarnhau ysgoloriaeth).

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cemeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig