Cemeg Uwch (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd ymchwil mewn prifysgolion, asiantaethau’r llywodraeth a chwmnïau gwyddonol ledled y byd.
Cysylltiadau â diwydiant
Mae ein partneriaid ymchwil yn amrywio o fusnesau bach a chanolig cenedlaethol i rai o gwmnïau rhyngwladol mwyaf y byd.
Cyfleusterau ymchwil
Ar ôl cael buddsoddiad o dros £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych am ragoriaeth.
Symud ymlaen i astudio ar gyfer PhD
Mae'r cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer dilyn gyrfa ymchwil.
Modiwlau dewisol
Dewiswch o ystod o fodiwlau opsiynol mewn gemeg organig, anorganig a ffisegol.
Beth am fynd â’ch gyrfa wyddonol i’r lefel nesaf gyda’n Gradd Meistr mewn Cemeg Uwch? Gellir teilwra’r cwrs eang a hyblyg hwn i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch dyheadau o ran gyrfa, gan eich helpu i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddilyn eich gyrfa ddewisol. Ceir dewis mawr o fodiwlau dewisol, o gemeg organig, anorganig a ffisegol, fel y gallwch ganolbwyntio ar y pynciau sydd o ddiddordeb ac sy’n bwysig i chi. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil mawr mewn amgylchedd ymchwil gweithgar, lle byddwch yn datblygu’r sgiliau ymarferol a phroffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanyn nhw.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cemeg
Rydym yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau gwyddonol bwysig yr 21ain ganrif drwy addysg ac ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in a relevant subject area such as chemistry, chemical engineering, pharmacy, pharmacology and biochemistry, or an equivalent international degree
- or a university-recognised equivalent academic qualification.
Applicants with a degree in a subject other than chemistry will be required to demonstrate knowledge and understanding of key chemical topics prior to an offer being made.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
Please include information on why you are interested in advanced chemistry in your personal statement (do not exceed 500 words). Specific details such as your future aspirations, and how your educational or professional background makes you a suitable applicant are welcomed. We do not accept generic statements.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r MSc Cemeg Uwch yn rhaglen amser llawn, sy'n rhedeg dros un flwyddyn academaidd. Byddwch yn astudio cyfanswm o 180 o gredydau, ac mae 120 ohonyn nhw’n cael eu haddysgu a'u hasesu drwy waith cwrs ac arholiadau (cyfnod Diploma) ac yna prosiect 60 credyd (cyfnod Traethawd Hir).
Mae semester un a dau y rhaglen yn cynnwys modiwl craidd ac mae gan semester y gwanwyn fodiwl ymarferol craidd, (gwerth cyfanswm o 30 credyd). Dewisir y 90 credyd sy'n weddill o ystod eang o fodiwlau dewisol. Mae prosiect yr haf yn werth 60 credyd. Rhaid i fyfyrwyr basio cam y Diploma cyn cael symud ymlaen i gyfnod y Traethawd Hir.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Mae semester un a semester dau o’r rhaglen yn cynnwys modiwl o waith ymarferol ac un modiwl craidd arall, (gwerth cyfanswm o 30 credyd), ynghyd â 30 credyd o ddeunydd dewisol o blith ystod eang o fodiwlau. Mae prosiect yr haf yn werth 60 credyd. Rhaid i fyfyrwyr basio cam y Diploma cyn cael symud ymlaen i gyfnod y Traethawd Hir.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Colloquium | CHT216 | 10 credydau |
Key Skills for Postgraduate Chemists | CHT232 | 10 credydau |
Research Project | CHT008 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Rhaid i fyfyrwyr fynychu darlithoedd, cymryd rhan mewn seminarau, gweithdai datrys problemau a thiwtorialau a gweithio yn y labordy. Bydd pob myfyriwr yn cynnal ei ymchwil lenyddol ei hun a phrosiect gwaith ymchwil gwreiddiol yn y labordy ar gyfer ei draethawd hir. Bydd pynciau ar gyfer y prosiect ymchwil fel arfer yn cael eu dewis o restr o opsiynau a gynigir gan staff mewn meysydd sydd o ddiddordeb ymchwil cyfredol. Bydd y prosiect ymchwil yn cynnwys astudiaeth annibynnol o dan oruchwyliaeth a bydd fel arfer yn cynnwys gwaith labordy neu gyfrifiadurol.
Bydd y rhaglen yn cael ei haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.
Sut y caf fy asesu?
Asesu
Mae'r modiwlau a addysgir o fewn y rhaglen fel arfer yn cael eu hasesu drwy arholiad terfynol a'r asesiadau canlynol yn ystod y cwrs:
- Adroddiadau ysgrifenedig;
- Gweithdai seiliedig ar broblemau a phrofion dosbarth;
- Arholiad llafar.
Mae'r modiwlau hynny sy'n ymwneud yn bennaf ag astudio ac ymchwil annibynnol yn cael eu hasesu drwy'r dulliau canlynol:
- Traethawd hir ysgrifenedig (6,000 i 10,000 o eiriau fel arfer);
- Cyflwyniad llafar;
- Arholiad llafar.
Adborth
Ar ddechrau'r rhaglen, byddwch yn cael cyfle i dderbyn adborth ar wybodaeth a dealltwriaeth gychwynnol drwy gwblhau profion diagnostig amlddewis ar-lein ar Dysgu Canolog. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ysgrifenedig ar asesiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar. Bydd adborth cyffredinol ar berfformiad yn cael ei ddarparu gan diwtoriaid personol ar ôl profion diagnostig cychwynnol ac yn dilyn y cyfnodau arholi.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae Tiwtor Personol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr, i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd. Trefnir cyfarfodydd gyda'r Tiwtor Personol ar adegau allweddol yn ystod y rhaglen i drafod cynnydd a darparu arweiniad academaidd. Gall myfyrwyr drefnu i gyfarfod â'r Tiwtor Personol ar achlysuron ychwanegol, yn ôl yr angen. Bydd modiwlau'n cael eu cefnogi drwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir lle bydd gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r cwrs a dogfennau electronig ar gael.
Bydd aelod o staff academaidd yn cael ei neilltuo’n brif oruchwyliwr ar gyfer y prosiect ymchwil. Bydd ail oruchwyliwr/mentor hefyd yn cael ei ddyrannu i gyflenwi am gyfnodau pan nad yw'r prif oruchwyliwr ar gael. Gall staff ymchwil yn y grŵp ymchwil y mae’r myfyriwr yn rhan ohono ddarparu cymorth ychwanegol hefyd.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Dangos dealltwriaeth systematig ar draws ystod eang o bynciau cemegol;
- Disgrifio datblygiadau diweddar ym mhrif ganghennau cemeg a chydnabod sut maen nhw'n cyfrannu at ddatblygu cemeg;
- Archwilio ac asesu'n feirniadol y ffin wybodaeth mewn meysydd cemeg dethol, drwy astudio a thrafod llenyddiaeth ymchwil ac addysgu uwch gan ymchwilwyr gweithredol;
- Defnyddio, gwerthuso a chymhwyso, fel y bo'n briodol, amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys datblygu'r gallu i ddysgu'n annibynnol;
- Gwerthfawrogi a chysylltu effaith cemeg yn y byd modern;
- Profi’r broses o ymchwilio gwyddonol drwy gyfrwng prosiect ymchwil a dangos sut gellir defnyddio hyn gyda phroblem gemegol;
- Dangos y gallu i gynllunio a chynnal ymchwiliad gwyddonol unigol am gyfnod estynedig, a dehongli, adrodd a thrafod y canlyniadau'n feirniadol mewn fformatau priodol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Cynnig a defnyddio atebion creadigol i broblemau cemegol;
- Integreiddio a gwerthuso gwybodaeth a data o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn cael dealltwriaeth gydlynol o theori ac ymarfer;
- Defnyddio barn broffesiynol i gydbwyso risgiau, costau, manteision, diogelwch, dibynadwyedd ac effaith amgylcheddol mewn perthynas ag agweddau ar gemeg.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu i gynnal gwaith ymarferol cymwys, diogel, gwerthusol, myfyriol ac effeithiol;
- Y gallu i ddadansoddi a gwerthuso canlyniadau arbrofol yn feirniadol a phennu eu cryfder a'u dilysrwydd;
- Y gallu i weithredu'n annibynnol, heb fawr o oruchwyliaeth na chyfeiriad, o fewn canllawiau y cytunwyd arnyn nhw.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Cyfathrebu'n effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau er mwyn cyflwyno canlyniadau gwaith ymchwil;
- Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm;
- Dangos y gallu i reoli amser, blaenoriaethu llwythi gwaith, a defnyddio sgiliau cynllunio tymor hir a thymor byr;
- Dysgu'n annibynnol mewn sefyllfaoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd gyda meddwl agored ac yn unol ag ymchwiliad beirniadol;
- Cyfleu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Nid oes costau ychwanegol i’w hystyried.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Yr hyn a ddylai fod gan y myfyriwr:
Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio eu deunydd ysgrifennu eu hunain. Os bydd myfyrwyr yn dewis defnyddio cyfarpar cyfrifiadurol cludadwy (e.e. llyfrau nodiadau, llechi, ffonau clyfar) bydd angen iddynt ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain. Dylai'r myfyriwr ddod â chôt labordy ei hun. Bydd yr Ysgol Cemeg yn cynnig sbectolau diogelwch labordy di-bresgripsiwn, ond gall myfyrwyr ddewis ddod â’u sbectol diogelwch eu hunain.
Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:
Bydd y Brifysgol yn cynnig labordy, offer a nwyddau traul sydd eu hangen ar gyfer modiwlau a addysgir a'r prosiect ymchwil. Byddwch yn cael caledwedd a meddalwedd ar gyfer rheoli offeryniaeth, cyfrifiannu arbenigol a dadansoddi data. Bydd myfyrwyr yn cael mynediad i lyfrgelloedd y Brifysgol gan gynnwys llyfrau/cyfnodolion ac adnoddau electronig. Bydd cyfleusterau cyfrifiadurol cyffredinol ar gael, ac mae mynediad diwifr i rwydwaith y Brifysgol ar gael i fyfyrwyr sy’n dod â’u dyfeisiau cludadwy eu hunain yn y rhan fwyaf o leoliadau o fewn ystâd y Brifysgol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae galw mawr am ein graddedigion ar draws nifer o ddiwydiannau, ac maen nhw’n mwynhau ystod eang o opsiynau hyblyg a dynamig o ran gyrfa.
Yn y gorffennol, mae graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau cemegol, fferyllol a gweithgynhyrchu, yn ogystal â meysydd materion rheoleiddiol, iechyd a diogelwch, eiddo deallusol a phatentau. Llwybr gyrfa poblogaidd arall yw rôl sy’n ymwneud ag ymchwil mewn sefydliadau ymchwil cyhoeddus a phreifat, sefydliadau academaidd neu wasanaethau ymgynghori.
Efallai y byddwch yn cwrdd â’n graddedigion sy’n gweithio i gwmnïau gan gynnwys Johnson Matthey, Thales, Hexion, BAE Systems yn y DU yn ogystal â chwmnïau rhyngwladol megis Haldor Topsøe, Denmarc a’r Asiantaeth Datblygu Gwyddoniaeth a Thechnoleg Genedlaethol yng Ngwlad Thai.
Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas i’r rhai hynny sy’n dymuno gwneud astudiaeth bellach ar lefel PhD ym Mhrifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill sydd ar y brig.
Lleoliadau
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr MSc ymgymryd â'u prosiect ymchwil mewn cydweithrediad ag un o'n partneriaid allanol. Holwch am ragor o wybodaeth.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Cemeg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.